Yn ôl

Deuteronomium

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DEUTERONOMIUM 13

1 “Falle bydd proffwyd neu rywun sy'n cael gweledigaethau drwy freuddwydion yn dod atoch chi ac yn dweud fod gwyrth ryfeddol yn mynd i ddigwydd. 2 Hyd yn oed os ydy'r wyrth yn digwydd, a'r proffwyd yn ceisio'ch cael chi i addoli duwiau eraill (eilun-dduwiau oeddech chi'n gwybod dim amdanyn nhw o'r blaen), 3 peidiwch gwrando arno. Mae'r ARGLWYDD yn eich rhoi chi ar brawf, i weld os ydych chi wir yn ei garu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid. 4 Dych chi i fod i ddilyn yr ARGLWYDD eich Duw, a'i barchu e yn unig. Bod yn ufudd i'w orchmynion, gwneud beth mae e'n ddweud, ei wasanaethu ac aros yn ffyddlon iddo.

5 “Os ydy proffwyd neu rywun sy'n cael gweledigaethau drwy freuddwydion, yn ceisio'ch arwain chi i droi cefn ar yr ARGLWYDD, dylai gael ei ddienyddio. Yr ARGLWYDD eich Duw wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau chi o fod yn gaethweision. Rhaid i chi gael gwared â'r drwg sydd yn eich plith chi.

6 “Os ydy un o'ch teulu agosaf, neu'ch ffrind gorau, yn ceisio'ch denu chi i addoli duwiau eraill 7 (sdim ots o lle – eilun-dduwiau'r bobl o'ch cwmpas chi, neu unrhyw le drwy'r byd i gyd), 8 peidiwch gwrando na chymryd unrhyw sylw. Peidiwch teimlo trueni drosto, na gwneud esgusion, na chadw'i ran. 9-10 Rhaid iddo gael ei ladd, drwy daflu cerrig ato. A chi ddylai daflu'r garreg gyntaf ato, ac wedyn pawb arall gyda chi. 11 Bydd pobl Israel yn clywed am y peth, ac yn dychryn, ac wedyn fydd neb yn gwneud y drwg byth eto.

12 “Tasech chi'n clywed yn un o'r trefi mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chi, fod 13 rhyw bobl ddrwg wedi mynd ati i annog pobl y dre i addoli duwiau eraill (eilun-dduwiau oeddech chi'n gwybod dim amdanyn nhw o'r blaen), 14 rhaid i chi ymchwilio i'r mater a holi pobl yn fanwl i ddarganfod os ydy'r stori'n wir. Ac os ydy'n wir fod peth mor ofnadwy wedi digwydd, 15 rhaid i bobl y dref honno gael eu lladd – rhaid i bawb a phopeth byw gael eu lladd, gan gynnwys yr anifeiliaid. 16 Yna rhaid i chi gasglu'r pethau gwerthfawr i ganol sgwâr y dref, a llosgi'r dref a'r cwbl yn offrwm i'r ARGLWYDD eich Duw. Bydd y dref yn cael ei gadael yn domen o adfeilion, a byth i gael ei hadeiladu eto. 17 Peidiwch cadw dim byd sydd i fod i gael ei ddinistrio. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn stopio bod yn ddig, yn teimlo trueni, a bod yn garedig atoch chi, ac yn rhoi lot o blant i chi fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid.

18 “Felly rhaid i chi wneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud, cadw'r gorchmynion dw i'n eu pasio ymlaen i chi heddiw, a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity