Yn ôl

Deuteronomium

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DEUTERONOMIUM 16

Gŵyl y Pasg

(Exodus 12:1-20)

1 “Cadwch Ŵyl y Pasg yn mis Abib, Ref am mai dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw eich achub chi o'r Aifft yn ystod y nos. 2 Rhaid i anifail gael ei aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi'i ddewis – un o'r gwartheg, y defaid neu'r geifr. 3 A pheidiwch bwyta bara gyda burum ynddo. Fel symbol o galedi, rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod, am eich bod wedi gadael yr Aifft ar frys. Dych chi i wneud hyn er mwyn cofio, am weddill eich bywydau, y diwrnod hwnnw y daethoch chi allan o'r Aifft. 4 Ddylai fod dim mymryn o furum yn y wlad am saith diwrnod. A ddylai dim o gig yr anifail gafodd ei aberthu gyda'r nos ar y diwrnod cyntaf fod wedi'i adael tan y bore wedyn.

5 “Dydy aberth y Pasg ddim i gael ei ladd yn unrhyw bentref mae'r ARGLWYDD wedi'i roi i chi. 6 Rhaid iddo gael ei aberthu yn y lle mae e wedi'i ddewis iddo'i hun, gyda'r nos, pan mae'r haul yn machlud – sef yr adeg o'r dydd y daethoch chi allan o'r Aifft. 7 Rhaid ei goginio a'i fwyta yn y lle mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis, yna'r bore wedyn cewch fynd yn ôl i'ch pebyll. 8 Bara heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta am chwe diwrnod. Yna bydd cyfarfod arbennig i addoli'r ARGLWYDD eich Duw yn cael ei gynnal ar y seithfed diwrnod. Rhaid i chi beidio gweithio ar y diwrnod hwnnw.

Gŵyl y Cynhaeaf

(Exodus 34:22; Lefiticus 23:15-21)

9 “Saith wythnos ar ôl dechrau'r cynhaeaf ŷd, 10 dych chi i ddathlu Gŵyl y Cynhaeaf Ref o flaen yr ARGLWYDD eich Duw. A rhaid i chi ddod â pheth o'r cynhaeaf mae'r ARGLWYDD wedi'i roi i chi, yn offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol. 11 Byddwch yn dathlu o'i flaen – gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon. 12 Cofiwch eich bod chi wedi bod yn gaethion yn yr Aifft, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'r canllawiau yma dw i'n eu rhoi i chi.

Gŵyl y Pebyll

(Lefiticus 23:33-43)

13 “Rhaid i chi gadw Gŵyl y Pebyll am saith diwrnod ar ôl i chi orffen casglu'r grawn o'r llawr dyrnu a gwasgu'r grawnwin. 14 Byddwch yn dathlu'r Ŵyl gyda'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, y rhai o lwyth Lefi sy'n byw yn eich pentrefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad a'r gweddwon. 15 Byddwch yn dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod, yn y lle mae e wedi'i ddewis, am ei fod e wedi bendithio'ch holl waith chi. Felly bydd gynnoch chi le i ddathlu go iawn!

16 “Felly dair gwaith bob blwyddyn, mae'r dynion i gyd i fynd o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle mae e wedi'i ddewis – ar Ŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf, a Gŵyl y Pebyll. A rhaid iddyn nhw fynd â rhywbeth i'w offrymu bob tro. 17 Dylai pob un roi beth mae'n gallu, fel mae'r ARGLWYDD wedi'i fendithio.

Barnwyr i weinyddu Cyfiawnder

18 “Rhaid i chi benodi barnwyr a swyddogion eraill i bob llwyth yn y trefi mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eu rhoi i chi. A rhaid iddyn nhw farnu'r bobl yn deg. 19 Peidio gwyrdroi cyfiawnder a dangos ffafriaeth. Peidio derbyn breib. Mae breib yn dallu pobl ddoeth a throi pobl onest yn gelwyddog. 20 Cyfiawnder pur dw i eisiau, dim llai, er mwyn i chi lwyddo a chymryd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.

21 “Peidiwch codi polyn i'r dduwies Ashera wrth ymyl allor dych chi wedi'i gwneud i'r ARGLWYDD eich Duw. 22 A pheidiwch codi colofn gysegredig! Mae'r ARGLWYDD yn casáu pethau felly.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity