Yn ôl

Deuteronomium

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DEUTERONOMIUM 23

Gwahardd o gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD

  • 1 Dydy dyn sydd â'i geilliau wedi'u niweidio neu ei bidyn wedi'i dorri i ffwrdd ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.
  • 2 Dydy dyn gafodd ei eni tu allan i briodas ddilys ddim yn cael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na disgynyddion y person hwnnw chwaith, am byth. Ref )
  • 3 Dydy pobl Ammon a Moab ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD. (Na'u disgynyddion nhw chwaith, am byth.)
4 Pan ddaethoch chi allan o'r Aifft, roedden nhw wedi gwrthod rhoi dŵr a bwyd i chi. A dyma nhw hefyd yn talu Balaam fab Beor o Pethor yn Mesopotamia Ref i'ch melltithio chi. 5 Ond dyma'r ARGLWYDD eich Duw yn gwrthod gwrando arno, ac yn troi'r felltith yn fendith! Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn eich caru chi. 6 Felly peidiwch byth gwneud unrhyw beth i helpu Ammon a Moab i lwyddo a ffynnu.

7 “Ond mae pobl Edom yn perthyn i chi, felly rhaid i chi beidio'u ffieiddio nhw. A pheidiwch ffieiddio pobl yr Aifft, gan eich bod wedi byw fel mewnfudwr yn eu gwlad nhw. 8 Gall plant eu plant berthyn i gynulleidfa pobl yr ARGLWYDD.

Cadw'r gwersyll milwrol yn lân

  • 9 Pan fyddwch chi'n mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sydd ddim yn lân.
10 Er enghraifft, os ydy dyn yn gollwng ei had yn ei gwsg, mae'n aflan, a rhaid iddo adael y gwersyll, ac aros allan drwy'r dydd. 11 Yna, gyda'r nos, rhaid iddo olchi'i hun â dŵr. A bydd yn gallu mynd yn ôl i'r gwersyll ar ôl i'r haul fachlud.
  • 12 Rhaid trefnu lle tu allan i'r gwersyll i'r dynion fynd i'r tŷ bach.
13 Rhaid i ti fynd â rhaw gyda ti i wneud twll, a gorchuddio dy garthion gyda phridd. 14 Mae'r gwersyll i'w gadw'n lân. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn cerdded o gwmpas y gwersyll; mae e gyda chi i'ch achub a'ch galluogi chi i ennill y frwydr. Does gynnoch chi ddim eisiau iddo fe weld rhywbeth afiach, a throi cefn arnoch chi.

Cyfreithiau eraill

  • 15 Os ydy caethwas o wlad arall wedi dianc i wlad Israel, peidiwch mynd ag e'n ôl i'w feistr.
16 Mae i gael byw ble bynnag mae e eisiau. Caiff ddewis unrhyw un o'ch pentrefi i fynd i fyw yno. Peidiwch â'i gam-drin a chymryd mantais ohono.
  • 17 Ddylai merched a dynion ifanc Israel byth wasanaethu fel puteiniaid teml. Ref
  • 18 Paid byth dod â thâl putain neu gyflog puteiniwr i deml yr ARGLWYDD dy Dduw er mwyn cadw addewid. Mae'r ddau beth yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
  • 19 Peidiwch codi llog ar fenthyciad i gyd-Israeliaid – llog ar arian, ar fwyd, nac unrhyw beth arall sydd wedi'i fenthyg.
20 Cewch godi llog ar fenthyciad i bobl sydd ddim yn Israeliaid, ond peidiwch gwneud hynny wrth fenthyg i'ch pobl eich hunain. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn bendithio popeth wnewch chi yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd, os byddwch chi'n ufudd.
  • 21 Pan fyddwch chi'n gwneud adduned i'r ARGLWYDD eich Duw, peidiwch oedi cyn ei chyflawni, neu byddwch chi'n cael eich dal yn gyfrifol ganddo.
22 Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf. 23 Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'ch adduned, beth bynnag oedd yr adduned honno. Er enghraifft, os gwnaethoch chi addo rhoi rhywbeth iddo yn offrwm gwirfoddol.
  • 24 Os ydych chi'n mynd drwy winllan rhywun arall, cewch fwyta faint fynnoch chi o rawnwin, ond peidiwch mynd â dim i ffwrdd mewn basged.
  • 25 Os ydych chi'n mynd drwy gae ŷd rhywun, cewch bigo'r tywysennau gyda'ch llaw, ond peidiwch defnyddio cryman i gymryd peth o'r cnwd.
  • I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity