Yn ôl

Deuteronomium

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DEUTERONOMIUM 25

  • 1 Pan fydd anghydfod yn codi rhwng pobl, dylen nhw fynd i'r llys. Bydd barnwyr yn gwrando ar yr achos, ac yn penderfynu pwy sy'n euog.
2 Os mai chwipio fydd y gosb, mae'r barnwr i wneud iddo orwedd ar lawr o'i flaen, a bydd yn cael ei chwipio faint bynnag o weithiau mae'n ei haeddu am beth wnaeth o'i le. 3 Ddylai'r barnwr ddim dedfrydu neb i fwy na pedwar deg llach. Petai rhywun yn cael ei chwipio fwy na hynny, byddai'r person yn cael ei amharchu'n gyhoeddus.
  • 4 Peidiwch rhwysto'r ych sy'n sathru'r ŷd rhag bwyta.
  • 5 Os ydy dau frawd yn byw gyda'i gilydd, ac un ohonyn nhw'n marw heb gael mab, ddylai ei weddw ddim priodi rhywun tu allan i'r teulu. Rhaid i frawd y gŵr fuodd farw ei phriodi hi, a chael mab yn ei le.
6 Bydd y mab cyntaf i gael ei eni iddyn nhw yn cael ei gyfri'n fab cyfreithiol i'r brawd fuodd farw, rhag i'w enw ddiflannu o Israel. 7 Ond os ydy'r dyn ddim eisiau priodi gweddw ei frawd, rhaid i'r weddw fynd at yr arweinwyr hŷn i'r llys wrth giât y dref a dweud wrthyn nhw, ‘Mae brawd fy ngŵr yn gwrthod wynebu'i gyfrifoldeb fel brawd-yng-nghyfraith, a chadw enw fy ngŵr yn fyw yn Israel!’ 8 Yna bydd rhaid i arweinwyr y dref anfon am y dyn i siarad ag e. Os ydy e'n dal i wrthod ei phriodi hi, 9 dyma sydd i ddigwydd: Mae'r chwaer-yng-nghyfraith i gamu ato o flaen yr arweinwyr, tynnu un o sandalau'r dyn i ffwrdd a phoeri yn ei wyneb. Yna dweud, ‘Dyna sy'n digwydd i'r dyn sy'n gwrthod cadw enw teulu'i frawd i fynd!’ 10 O hynny ymlaen, bydd ei deulu e'n cael ei nabod fel ‛teulu'r dyn y tynnwyd ei sandal‛.
  • 11 Os ydy dau ddyn yn dechrau ymladd gyda'i gilydd, a gwraig un ohonyn nhw yn ymyrryd i amddiffyn ei gŵr, ac yn gafael yn organau preifat y dyn,
12 rhaid torri ei llaw i ffwrdd. Peidiwch teimlo trueni drosti.
  • 13-15 Peidiwch twyllo wrth farchnata; defnyddiwch bwysau cywir, dim un sy'n ysgafn a'r llall yn drwm. A pheidiwch defnyddio basgedi mesur o faint gwahanol. Dylai'r pwysau dych chi'n eu defnyddio, a maint y basgedi dych chi'n eu defnyddio, fod yn gywir. Wedyn cewch fyw yn hir yn y wlad dych chi'n mynd i'w chymryd.
16 Mae'r ARGLWYDD eich Dduw yn casáu gweld pobl yn bod yn anonest – mae'r peth yn ffiaidd ganddo!

Gorchymyn i ladd yr Amaleciaid

17 “Cofiwch beth wnaeth yr Amaleciaid i chi pan oeddech chi wedi gadael yr Aifft. 18 Roeddech chi wedi blino'n lân, a dyma nhw'n eich dilyn chi ac ymosod ar y rhai oedd yn methu dal i fyny gyda'r gweddill. Doedd ganddyn nhw ddim parch at Dduw. 19 Pan fyddwch chi'n cael llonydd gan yr holl elynion o'ch cwmpas chi yn y wlad mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi i chi, rhaid i chi ladd yr Amaleciaid i gyd – nes bydd neb yn cofio am eu bodolaeth nhw!Croes Peidiwch chi anghofio gwneud hyn!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity