Yn ôl

Deuteronomium

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DEUTERONOMIUM 27

Cyfraith Duw wedi'i hysgrifennu ar garreg

1 Yna dyma Moses, ac arweinwyr Israel gydag e, yn dweud wrth y bobl, “Cadwch y gorchmynion dw i'n eu rhoi i chi heddiw. 2 Pan fyddwch chi'n croesi afon Iorddonen i'r wlad mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi i chi, rhaid i chi godi cerrig mawr ac yna rhoi plastr drostyn nhw. 3 Yna ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma arnyn nhw. Wedyn gallwch fynd i mewn i'r wlad – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo, fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, ddweud wrthoch chi. 4 Mae'r cerrig yma i gael eu codi ar Fynydd Ebal, a'u gorchuddio gyda phlastr. 5 Yna dylech adeiladu allor yno i'r ARGLWYDD eich Duw – allor o gerrig sydd heb eu naddu gydag offer haearn. 6 Defnyddiwch gerrig cyfan i adeiladu'r allor, yna cyflwyno offrymau arni – offrymau i'w llosgi'n llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw. 7 Hefyd offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a gallwch wledda a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw. 8 Peidiwch anghofio ysgrifennu copi o'r gorchmynion yma ar y cerrig sy'n cael eu gosod i fyny, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw i'w gweld yn glir.”

9 Yna dyma Moses, gyda'r offeiriaid o lwyth Lefi, yn dweud wrth bobl Israel: “Distawrwydd! Gwrandwch arna i, bobl Israel. Heddiw, dych chi wedi'ch gwneud yn bobl i'r ARGLWYDD. 10 Rhaid i chi wrando arno, a chadw'r rheolau a'r canllawiau dw i'n eu rhoi i chi.”

Canlyniad bod yn anufudd

11 Yr un diwrnod, dyma Moses yn gorchymyn i'r bobl: 12 “Ar ôl i chi groesi afon Iorddonen, mae'r llwythau canlynol i sefyll ar Fynydd Gerisim a bendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin. 13 Yna, mae'r llwythau eraill i sefyll ar Fynydd Ebal tra mae'r melltithion yn cael eu cyhoeddi: Reuben, Gad, Asher, Sabulon, Dan a Nafftali.

14 “Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi'n uchel wrth bobl Israel:
  • 15 ‘Melltith ar rywun sy'n cael crefftwr i gerfio delw neu i wneud eilun o fetel tawdd, ac yna'n ei osod i fyny i'w addoli (hyd yn oed o'r golwg) – mae peth felly yn hollol ffiaidd gan yr ARGLWYDD.’

r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
  • 16 ‘Melltith ar rywun sy'n dangos dim parch at ei dad a'i fam.’

r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
  • 17 ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n symud terfyn i ddwyn tir oddi ar rywun arall.’

r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
  • 18 ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n dweud wrth rywun dall am fynd y ffordd rong.’

r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
  • 19 ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n gwrthod cyfiawnder i fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon.’

r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
  • 20 ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad. Byddai hynny'n amharchu ei dad.’

r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
  • 21 ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gydag anifail.’

r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
  • 22 ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i chwaer – merch i'w dad neu'i fam.’

r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
  • 23 ‘Melltith ar rywun sy'n cael rhyw gyda'i fam-yng-nghyfraith.’

r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
  • 24 ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n llofruddio rhywun arall.’

r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
  • 25 ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n derbyn tâl i lofruddio rhywun diniwed.’

r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’
  • 26 ‘Melltith ar bawb sydd ddim yn gwneud pob peth mae'r gyfraith yma'n ei ddweud.’

r A bydd pawb yn ymateb, ‘Amen!’

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity