Yn ôl

Deuteronomium

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DEUTERONOMIUM 32

Cân Moses

1 Nefoedd a daear,

gwrandwch beth dw i'n ddweud!

2 Bydd beth dw i'n ddweud fel cawod o law,

a'm dysgeidiaeth fel diferion o wlith;

bydd fel glaw yn disgyn ar borfa,

neu law mân ar laswellt.

3 Wrth i mi gyhoeddi enw'r ARGLWYDD,

dwedwch mor fawr yw ein Duw!

4 Mae e fel craig, a'i waith yn berffaith;

mae bob amser yn gwneud beth sy'n iawn.

Bob amser yn deg ac yn onest –

yn Dduw ffyddlon sydd byth yn anghyfiawn.

5 Ond mae ei bobl wedi bod yn anffyddlon,

a heb ymddwyn fel dylai ei blant – a dyna'r drwg.

Maen nhw'n genhedlaeth anonest, sy'n twyllo.

6 Ai dyma sut dych chi'n talu'n ôl i'r ARGLWYDD?

Dych chi'n bobl mor ffôl!

Onid fe ydy'ch tad chi, wnaeth eich creu chi?

Fe sydd wedi'ch llunio chi, a rhoi hunaniaeth i chi!

7 Cofiwch y dyddiau a fu;

meddyliwch beth ddigwyddodd yn y gorffennol:

gofynnwch i'ch rhieni a'r genhedlaeth hŷn –

byddan nhw'n gallu dweud wrthoch chi.

8 Pan roddodd y Goruchaf dir i'r cenhedloedd,

a rhannu'r ddynoliaeth yn grwpiau,

gosododd ffiniau i'r gwahanol bobloedd

a rhoi angel i ofalu am bob un. Ref

9 Ond cyfran yr ARGLWYDD ei hun oedd ei bobl;

pobl Jacob oedd ei drysor sbesial.

10 Daeth o hyd iddyn nhw mewn tir anial;

mewn anialwch gwag a gwyntog.

Roedd yn eu cofleidio a'u dysgu,

a'u hamddiffyn fel cannwyll ei lygad.

11 Fel eryr yn gwthio'i gywion o'r nyth,

yna'n hofran a'u dal ar ei adenydd,

dyma'r ARGLWYDD yn codi ei bobl

ar ei adenydd e.

12 Yr ARGLWYDD ei hun oedd yn eu harwain,

nid rhyw dduw estron oedd gyda nhw.

13 Gwnaeth iddyn nhw goncro'r wlad heb rwystr, Ref

a chawson nhw fwyta o gynnyrch y tir.

Rhoddodd fêl iddyn nhw ei sugno o'r creigiau,

olew olewydd o'r tir caregog,

14 caws colfran o'r gwartheg, a llaeth o'r geifr,

gyda braster ŵyn, hyrddod a geifr Bashan.

Cefaist fwyta'r gwenith gorau

ac yfed y gwin gorau.

15 Ond dyma Israel onest Ref yn pesgi, a dechrau strancio –

magu bloneg a mynd yn dewach a thewach!

Yna troi cefn ar y Duw a'i gwnaeth,

a sarhau y Graig wnaeth ei hachub;

16 ei wneud yn eiddigeddus o'r duwiau paganaidd,

a'i bryfocio gyda'u heilunod ffiaidd.

17 Aberthu i gythreuliaid, nid i Dduw –

duwiau doedden nhw'n gwybod dim amdanyn nhw;

y duwiau diweddaraf,

duwiau doedd eich hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw.

18 Anwybyddu'r Graig wnaeth dy genhedlu,

ac anghofio'r Duw ddaeth â ti i fod.

19 Gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a'u gwrthod,

am fod ei feibion a'i ferched wedi'i wylltio.

20 Meddai, “Dw i'n mynd i droi cefn arnyn nhw,

a gweld beth fydd yn digwydd iddyn nhw.

Maen nhw'n genhedlaeth anonest,

yn blant sydd mor anffyddlon.

21 Maen nhw wedi fy ngwneud i'n eiddigeddus gyda'u duwiau ffals,

a'm digio gyda'u delwau diwerth.

Bydda i'n gwneud i chi fod yn eiddigeddus o rai nad ydyn nhw'n genedl,

a'ch gwneud yn ddig drwy fendithio pobl sy'n deall dim.

22 Mae tân wedi'i gynnau – dw i mor ddig!

Bydd yn llosgi i ddyfnder y ddaear.

Bydd yn difa'r tir a'i gynnyrch,

ac yn llosgi hyd sylfeini'r mynyddoedd.

23 Bydd trychinebau di-baid yn eu taro;

bydda i'n defnyddio fy saethau i gyd.

24 Byddan nhw'n marw o newyn,

yn cael eu dinistrio gan haint,

a brathiadau chwerw anifeiliaid gwyllt

a nadroedd gwenwynig.

25 Bydd cleddyf yn lladd pobl y tu allan,

a phawb yn cuddio yn eu dychryn y tu mewn –

dynion a merched ifanc, plant bach a henoed.

26 Gallwn fod wedi dweud, ‘Dw i am eu torri nhw'n ddarnau,

a gwneud i bobl anghofio eu bod nhw wedi bodoli.

27 Ond roedd gen i ofn ymateb y gelynion;

y bydden nhw'n camddeall ac yn dweud,

“Ni sydd wedi ennill! Ni sydd wedi gwneud hyn!

Dydy'r ARGLWYDD wedi gwneud dim!”’

28 Does gan bobl Israel ddim sens!

Dŷn nhw'n deall dim!

29 Petaen nhw'n ddoeth, bydden nhw'n deall,

ac yn sylweddoli beth fydd yn digwydd yn y diwedd.”

30 Sut mae un gelyn yn gallu gwneud i fil o Israel ffoi,

a dau yn gyrru deg mil ar ffo,

oni bai fod eu Craig wedi'u gwerthu nhw,

a'r ARGLWYDD wedi gadael iddyn nhw fynd?

31 Dydy ‛craig‛ ein gelynion ddim fel ein Craig ni –

mae'r gelynion eu hunain yn cydnabod hynny!

32 Mae eu gwreiddiau'n mynd yn ôl i Sodom,

a'u gwinwydden yn tyfu ar gaeau teras Gomorra.

Mae eu grawnwin yn llawn gwenwyn,

a'u sypiau o ffrwyth yn chwerw.

33 Mae'r gwin fel gwenwyn nadroedd,

gwenwyn marwol gwiberod.

34 “Onid ydw i'n cofio'r cwbl?” meddai'r ARGLWYDD,

“Onid ydw i wedi'i gadw dan glo yn fy stordai?

35 Fi sy'n dial, ac yn talu nôl.

Byddan nhw'n llithro –

mae trychineb ar fin digwydd iddyn nhw,

a'r farn sydd i ddod yn rhuthro draw!”

36 Bydd yr ARGLWYDD yn rhyddhau ei bobl,

ac yn tosturio wrth ei weision,

wrth weld eu bod nhw heb nerth,

a bod neb ar ôl, yn gaeth nac yn rhydd.

37 Bydd e'n gofyn, “Ble mae eu duwiau nhw nawr?

Ble mae'r graig lle roedden nhw'n ceisio cysgodi

38 – y duwiau wnaeth fwyta eu haberthau gorau,

ac yfed gwin yr offrymau o ddiod?

Gadewch iddyn nhw'ch helpu chi;

gadewch iddyn nhw edrych ar eich ôl chi!

39 Dw i eisiau i chi ddeall mai fi, ie fi ydy e!

Does dim duw arall ar wahân i mi.

Mae gen i awdurdod i ladd ac i roi bywyd,

awdurdod i anafu ac i iacháu,

a does neb yn gallu fy stopio!

40 Dw i'n addo ar fy llw,

‘Mor sicr â'm bod i yn byw am byth,

41 dw i'n mynd i hogi fy nghleddyf disglair,

a gafael ynddo i gosbi;

Dw i'n mynd i ddial ar y gelynion,

a thalu'n ôl i'r rhai sy'n fy nghasáu!

42 Bydd fy saethau wedi meddwi ar waed,

a'm cleddyf yn darnio cnawd –

gwaed y rhai wedi'u lladd a'r caethion,

prif arweinwyr y gelyn!’”

43 Llawenhewch, genhedloedd, gyda'i bobl;

bydd yn dial am ladd ei weision.

Mae'n mynd i ddial ar y gelynion,

a gwneud iawn am beth a wnaethon

i'w dir ac i'w bobl.

44 Yna dyma Moses yn mynd gyda Josua fab Nwn, ac yn adrodd geiriau'r gân i'r bobl i gyd. 45-46 Ar ôl gwneud hynny, dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Cofiwch bopeth dw i wedi'i ddweud wrthoch chi heddiw. Dysgwch eich plant i wneud popeth mae'r gyfraith yma'n ddweud. 47 Dim geiriau gwag ydyn nhw – dyma'ch bywyd chi! Os cadwch chi nhw, byddwch chi'n byw yn hir yn y tir dych chi ar fin croesi'r Iorddonen i'w gymryd drosodd.”

Duw yn gadael i Moses weld y wlad wnaeth e addo

48 Yna, ar yr un diwrnod, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, 49 “Dos i fyny bryniau Afarîm, a dringo i ben Mynydd Nebo (sydd ar dir Moab, gyferbyn â Jericho), i ti gael gweld Canaan, y wlad dw i'n ei rhoi i bobl Israel. 50 Byddi di'n marw ar ben y mynydd, fel buodd dy frawd Aaron farw ar ben Mynydd Hor. 51 Roedd y ddau ohonoch chi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i pan oeddech chi gyda phobl Israel wrth Ffynnon Meriba yn Cadesh yn Anialwch Sin. Wnaethoch chi ddim dangos parch ata i o flaen pobl Israel. 52 Felly byddi'n cael gweld y tir o dy flaen di, ond fyddi di ddim yn cael mynd i mewn i'r wlad dw i'n ei rhoi i bobl Israel.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity