Yn ôl

Deuteronomium

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DEUTERONOMIUM 8

Peidiwch anghofio

1 “Rhaid i chi gadw'r gorchmynion yma dw i'n eu rhoi i chi heddiw. Os gwnewch chi hynny, cewch fyw, bydd eich niferoedd chi'n tyfu, a chewch fynd i mewn i'r wlad wnaeth yr ARGLWYDD addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi.

2 “Peidiwch anghofio'r blynyddoedd dych chi wedi'u treulio yn yr anialwch. Roedd yr ARGLWYDD yn eich dysgu chi a'ch profi chi, i weld a oeddech chi wir yn mynd i wneud beth roedd e'n ddweud. 3 Profodd chi drwy wneud i chi fynd heb fwyd, ac wedyn eich bwydo chi gyda'r manna (oedd yn brofiad dieithr iawn). Roedd e eisiau i chi ddeall mai nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl angen i fyw. Maen nhw angen gwrando ar bopeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. 4 Am bedwar deg o flynyddoedd, wnaeth eich dillad chi ddim treulio, a wnaeth eich traed chi ddim chwyddo.

5 “Dw i eisiau i chi ddeall fod yr ARGLWYDD eich Duw yn eich disgyblu chi fel mae rhieni'n disgyblu eu plentyn. 6 Felly gwnewch beth mae e'n ddweud, byw fel mae e eisiau i chi fyw, a'i barchu. 7 Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd â chi i wlad dda, sy'n llawn nentydd, ffynhonnau a ffrydiau o ddŵr yn llifo rhwng y bryniau. 8 Gwlad lle mae digon o ŷd a haidd, gwinwydd, coed ffigys, pomgranadau, ac olewydd, a mêl hefyd. 9 Felly fyddwch chi byth yn brin o fwyd yno. Ac mae digon o fwynau i'w cloddio o'r tir – haearn a chopr. 10 Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, a byddwch yn moli'r ARGLWYDD eich Duw am roi gwlad mor dda i chi.

11 “Gwnewch yn siŵr na fyddwch chi'n anghofio'r ARGLWYDD, nac yn peidio cadw'r gorchmynion, y canllawiau a'r rheolau dw i'n eu rhoi i chi heddiw. 12 Pan fydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, tai braf i fyw ynddyn nhw, 13 mwy o wartheg, defaid a geifr, digon o arian ac aur – yn wir, digon o bopeth – 14 gwyliwch rhag i chi droi'n rhy hunanfodlon, ac anghofio'r ARGLWYDD eich Duw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision. 15 Daeth yr ARGLWYDD â chi drwy'r anialwch mawr peryglus yna, oedd yn llawn nadroedd gwenwynig a sgorpionau. Roedd yn dir sych, lle doedd dim dŵr, ond dyma'r ARGLWYDD yn hollti craig, a gwneud i ddŵr bistyllio allan i chi ei yfed. 16 Rhoddodd fanna i chi ei fwyta (profiad dieithr i'ch hynafiaid chi) er mwyn eich dysgu chi a'ch profi chi, a gwneud lles i chi yn y diwedd. 17 Gwyliwch rhag i chi ddechrau meddwl, ‘Fi fy hun sydd wedi ennill y cyfoeth yma i gyd.’ 18 Cofiwch mai'r ARGLWYDD eich Duw ydy'r un sy'n rhoi'r gallu yma i chi. Os cofiwch chi hynny, bydd e'n cadarnhau'r ymrwymiad wnaeth e ar lw i'ch hynafiaid chi. Mae wedi gwneud hynny hyd heddiw.

19 “Ond rhaid i mi eich rhybuddio chi – os gwnewch chi anghofio'r ARGLWYDD, a mynd ar ôl duwiau eraill i'w haddoli nhw, bydd e'n eich dinistrio chi! 20 Bydd yr un peth yn digwydd i chi ag sy'n mynd i ddigwydd i'r gwledydd dych chi ar fin ymladd yn eu herbyn nhw.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity