Yn ôl

Pregethwr

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pregethwr 11

1 “Bydd yn hael a rhannu dy gynnyrch Ref —

ac ymhen amser fe gei dy dalu'n ôl.

2 Rho beth ohono i nifer o wahanol bobl,

wyddost ti ddim beth all fynd o'i le yn dy fywyd.”

3 Pan mae'r cymylau'n dduon,

byddan nhw'n tywallt glaw ar y ddaear.

Sdim ots i ba gyfeiriad mae coeden yn syrthio,

bydd yn aros lle syrthiodd.

4 Fydd ffermwr sy'n disgwyl tywydd perffaith byth yn hau,

a'r un sy'n gwylio pob cwmwl byth yn medi cynhaeaf.

5 Yn union fel na elli wybod sut mae anadl bywyd

yn mynd i gorff plentyn yng nghroth ei fam,

alli di ddim rhagweld beth fydd Duw'n ei wneud,

a fe sydd wedi creu popeth.

6 Hau dy had yn y bore,

a phaid segura gyda'r nos;

wyddost ti ddim pa un fydd yn llwyddo —

y naill neu'r llall, neu'r ddau fel ei gilydd.

Cyngor yr Athro - mwynhau bywyd

7 “Mae golau bywyd Ref mor felys,

ac mae'n hyfryd cael gweld yr haul!”

8 Os ydy rhywun yn cael oes hir,

dylai fwynhau'r blynyddoedd i gyd,

ond rhaid cofio fod dyddiau tywyll marwolaeth yn hirach.

Mae popeth sydd i ddod yn ddirgelwch!

Cyngor i bobl ifanc fod yn ddoeth

9 Ti'n ifanc! Mwynha dy hun

tra mae gen ti gyfle!

Cei ddigon o hwyl a sbri

pan wyt ti'n ifanc.

Gwna be fynni di,

beth bynnag sy'n cymryd dy ffansi —

ond cofia y bydd Duw

yn dy alw i gyfrif am y cwbl.

10 Paid cael dy lethu gan boenau bywyd,

a chadwa dy hun yn iach!

Dydy ieuenctid a gwallt du ddim yn para'n hir!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity