|
|
1 Cofia dy Grëwr tra rwyt yn ifanc,
cyn i'r dyddiau anodd gyrraedd
a'r blynyddoedd ddod pan fyddi'n dweud,
“Dw i'n cael dim pleser ynddyn nhw.”
2 Cyn i'r haul a golau'r lleuad a'r sêr droi'n dywyll,
a'r cymylau'n dod yn ôl eto ar ôl y glaw:
3 Pan mae gwylwyr y tŷ yn crynu,
a dynion cryfion yn crymu;
y rhai sy'n malu'r grawn yn y felin yn mynd yn brin,
a'r rhai sy'n edrych drwy'r ffenestri yn colli eu golwg.
4 Pan mae'r drysau i'r stryd wedi cau,
a sŵn y felin yn malu wedi tawelu;
pan mae rhywun yn cael ei ddeffro'n gynnar gan gân aderyn
er fod holl seiniau byd natur yn distewi.
5 Pan mae gan rywun ofn uchder
ac ofn mynd allan ar y stryd.
Pan mae blodau'r pren almon yn troi'n wyn,
y ceiliog rhedyn yn llusgo symud,
a chwant rhywiol wedi hen fynd.
Pan mae pobl yn mynd i'w cartref tragwyddol,
a'r galarwyr yn dod allan ar y stryd.
ac i'r fowlen aur falu,
a'r llestr wrth y ffynnon yn deilchion,
a'r olwyn i'w godi wedi torri wrth y pydew.
7 Pan mae'r corff yn mynd yn ôl i'r pridd fel yr oedd,
ac anadl bywyd yn mynd yn ôl at Dduw,
yr un a'i rhoddodd.
8 Mae'n ddiystyr! — meddai'r Athro — dydy'r cwbl yn gwneud dim sens!Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity