|
|
7 “Mae pawb yn gweithio'n galed i gael bwyd i'w fwyta,
ond dydy'r stumog byth yn fodlon.”
8 Felly pa fantais sydd gan rhywun doeth dros y ffŵl? Pa fantais sydd gan rywun tlawd sy'n gwybod sut i fyw mewn perthynas ag eraill?9 “Mae bod yn fodlon gyda'r hyn sydd gynnoch chi
yn well na breuddwydio am gael mwy o hyd.”
Dydy'r pethau yma i gyd yn gwneud dim sens — mae fel ceisio rheoli'r gwynt. 10 Mae popeth sy'n digwydd wedi ei drefnu ymlaen llaw. Mae pobl yn gwybod mai creaduriaid dynol ydyn nhw. All pobl ddim dadlau gyda Duw am eu tynged, gan ei fod e'n llawer cryfach. 11 Dydy dadlau diddiwedd yn helpu dim. Beth sy'n cael ei ennill? 12 Pwy sy'n gwybod beth ydy'r peth gorau i rywun ei wneud gyda'i fywyd? Dim ond am gyfnod byr mae'n cael byw, ac mae ei fywyd llawn cwestiynau yn mynd heibio mewn chwinciad. Oes yna unrhyw un yn rhywle sy'n gallu dweud beth fydd yn digwydd yn y dyfodol?Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity