Yn ôl

Pregethwr

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pregethwr 7

Doethineb i fyw

1 “Mae enw da yn well na phersawr drud,”

a'r diwrnod dych chi'n marw yn well na dydd eich geni.

2 Mae'n well mynd i gartref lle mae pawb yn galaru

nag i dŷ lle mae pawb yn cael parti.

Marw fydd y diwedd i bawb,

a dylai pobl ystyried hynny.

3 Mae tristwch yn well na chwerthin —

er bod tristwch ar yr wyneb, gall wneud lles i'r galon.

4 Mae'r doeth yn meddwl am ystyr marwolaeth,

ond ffyliaid yn meddwl am ddim ond miri.

5 Mae'n well gwrando ar y doeth yn rhoi cerydd

nac ar ffyliaid yn canu eich clodydd.

6 Oherwydd mae sŵn ffŵl yn chwerthin

fel brigau yn clecian wrth losgi dan grochan.

Mae'n ddiystyr!

7 Mae gormesu'n gwneud i'r doeth edrych fel ffŵl,

ac mae breib yn llygru barn pobl.

8 “Mae gorffen rhywbeth yn well na'i ddechrau,”

ac “Mae amynedd yn well na balchder.”

9 Paid gwylltio'n rhy sydyn;

gwylltineb sydd yng nghalon ffyliaid.

10 Paid gofyn, “Pam oedd pethau gymaint gwell ers talwm?”

Dydy'r rhai doeth ddim yn meddwl felly.

11 Mae doethineb, fel etifeddiaeth, yn beth da

ac yn fanteisiol i bob person byw,

12 oherwydd mae doethineb, fel arian,

yn gysgod i'n cadw'n saff.

Ond mantais doethineb ydy hyn:

mae doethineb yn cadw'r doeth yn fyw.

13 Ystyriwch bopeth mae Duw wedi ei wneud! Pwy sy'n gallu sythu beth mae e wedi ei blygu? 14 Felly mwynhewch fywyd pan mae pethau'n mynd yn dda; ond pan mae popeth yn mynd o'i le, cofiwch hyn: Duw sydd tu ôl i'r naill a'r llall, felly all neb wybod yn iawn beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.

Cwestiynau anodd bywyd

15 Yn ystod fy mywyd llawn penbleth, dw i wedi gweld y cwbl: Rhywun sy'n ffyddlon i Dduw yn marw'n ifanc er ei holl ddaioni, a rhywun drwg yn cael byw'n hir er gwaetha'i holl ddrygioni. 16 Paid bod yn rhy siŵr ohonot ti dy hun, dy fod yn berson cyfiawn a doeth, rhag i ti gael dy siomi! 17 A paid rhoi dy hun yn llwyr i ddrygioni ac ymddwyn fel ffŵl. Pam ddylet ti farw cyn dy amser? 18 Y peth gorau i'w wneud ydy dal gafael yn y naill gyngor a'r llall, oherwydd mae'r person sy'n parchu Duw yn osgoi y ddau eithaf.

19 “Mae doethineb yn rhoi mwy o rym i rywun

na deg o lywodraethwyr mewn dinas.”

20 “Does neb drwy'r byd i gyd mor gyfiawn

nes ei fod yn gwneud dim ond da, a byth yn pechu.”

21 Hefyd, “Paid cymryd sylw o bopeth sy'n cael ei ddweud,

rhag i ti glywed dy was yn dweud pethau drwg amdanat ti!”

22 Oherwydd mae'n dda i ti gofio dy fod ti dy hun

wedi dweud pethau drwg am bobl eraill lawer gwaith.

23 Ceisiais ddefnyddio fy noethineb i ddeall y cwbl, ond methu cael atebion. 24 Mae'n anodd deall popeth sy'n digwydd — mae'r pethau yma yn llawer rhy ddwfn i unrhyw un ddarganfod yr atebion i gyd.

Byw'n ddoeth

25 Dyma fi'n troi fy sylw i astudio ac ymchwilio'n fanwl i geisio deall beth ydy doethineb, a pa mor dwp ydy drygioni, ac mor wallgof ydy ffolineb. 26 Dw i wedi darganfod mai peth chwerw iawn ydy'r wraig Ref sydd fel magl heliwr, yn rhwydo dyn, a'i breichiau amdano fel cadwyni. Mae'r dyn sy'n plesio Duw yn llwyddo i ddianc o'i gafael, ond mae'r un sy'n pechu yn cael ei ddal ganddi. 27 Dyma'r casgliad dw i wedi dod iddo, meddai'r Athro — wrth geisio deall y cwbl o dipyn i beth: 28 (Dw i wedi bod yn ymchwilio iddo'n gyson, ond heb eto gael ateb digonol, fel maen nhw'n dweud, “Cefais ddim ond un dyn mewn mil, ond dw i ddim wedi darganfod gwraig yn eu plith nhw o gwbl.”) 29 Yr un casgliad dw i wedi dod iddo ydy hwn: Gwnaeth Duw y ddynoliaeth yn gyfiawn, ond maen nhw i gyd wedi dilyn pob math o syniadau.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity