Yn ôl

Effesiaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

EFFESIAID 1

1 Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu.

At bobl Dduw yn Effesus, sy'n dilyn y Meseia Iesu, ac yn ffyddlon iddo:

2 Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.

Bendithion Ysbrydol perthyn i'r Meseia

3 Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi tywallt pob bendith ysbrydol sy'n y byd nefol arnon ni sy'n perthyn i'r Meseia. 4 Hyd yn oed cyn i'r byd gael ei greu, cawson ni'n dewis ganddo i fod mewn perthynas â'r Meseia, ac i fod yn lân a di-fai yn ei olwg. Yn ei gariad 5 trefnodd Duw ymlaen llaw i ni gael ein mabwysiadu i'w deulu. Iesu y Meseia wnaeth hyn yn bosib; roedd wrth ei fodd yn gwneud hynny! 6 Clod i Dduw am yr haelioni anhygoel mae wedi'i ddangos tuag aton ni! – ei anrheg i ni yn y Mab mae'n ei garu. 7 Cawson ni'n gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib. Dyna lle dŷn ni'n gweld mor anhygoel o hael mae Duw wedi bod tuag aton ni! 8 Mae wedi tywallt ei haelioni arnon ni, ac wedi rhoi doethineb a synnwyr i ni. 9 Mae wedi rhannu ei gynllun dirgel gyda ni. Roedd wrth ei fodd yn gwneud hyn! Mae wedi gwneud y cwbl drwy'r Meseia. Trefnu 10 i ddod â phopeth sy'n bodoli yn y nefoedd ac ar y ddaear at ei gilydd dan un pen, sef y Meseia. Bydd yn gwneud hyn pan fydd yr amser iawn wedi dod.

11 Mae ganddo le ar ein cyfer ni am fod gynnon ni berthynas â'r Meseia. Dewisodd ni ar y dechrau cyntaf, a threfnu'r cwbl ymlaen llaw. Mae'n rhaid i bopeth ddigwydd yn union fel mae e wedi cynllunio. 12 Mae am i ni'r Iddewon, y rhai cyntaf i roi'n gobaith yn y Meseia, ei foli am ei fod mor wych. 13 Ac wedyn chi sydd ddim yn Iddewon hefyd – cawsoch chithau eich derbyn i berthynas â'r Meseia ar ôl i chi glywed y gwir, sef y newyddion da sy'n eich achub chi. Wrth ddod i gredu ynddo cawsoch eich marcio gyda sêl sy'n dangos eich bod yn perthyn iddo, a'r sêl hwnnw ydy'r Ysbryd Glân oedd wedi'i addo i chi. 14 Yr Ysbryd ydy'r blaendal sy'n gwarantu'r ffaith bod lle wedi'i gadw ar ein cyfer ni. Yn y diwedd byddwn yn cael ein gollwng yn rhydd i'w feddiannu'n llawn. Rheswm arall i'w foli am ei fod mor wych!

Diolchgarwch a Gweddi

15 Ers i mi glywed gyntaf am eich ffyddlondeb i'r Arglwydd Iesu a'ch cariad at Gristnogion eraill, 16 dw i ddim wedi stopio diolch i Dduw amdanoch chi. Dw i'n cofio amdanoch chi bob tro dw i'n gweddïo. 17 Dw i'n gofyn i Dduw, Tad bendigedig ein Harglwydd Iesu Grist, roi'r Ysbryd i chi i'ch goleuo a'ch gwneud yn ddoeth, er mwyn i chi ddod i'w nabod yn well. 18 Dw i'n gweddïo y daw'r cwbl yn olau i chi. Dw i eisiau i chi ddod i weld yn glir a deall yn union beth ydy'r gobaith sydd ganddo ar eich cyfer, a gweld mor wych ydy'r lle bendigedig sydd ganddo i'w bobl. 19 Dw i hefyd am i chi sylweddoli mor anhygoel ydy'r nerth sydd ar gael i ni sy'n credu. Dyma'r pŵer aruthrol 20 wnaeth godi'r Meseia yn ôl yn fyw a'i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y byd nefol.Croes 21 Mae'n llawer uwch nag unrhyw un arall sy'n teyrnasu neu'n llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall sy'n bod. Does gan neb na dim deitl tebyg iddo – yn y byd yma na'r byd sydd i ddod! 22 Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod. Croes Mae wedi'i wneud e yn ben ar y cwbl – er lles yr eglwys. 23 Yr eglwys ydy ei gorff e – mae'n llawn ohono fe sy'n llenwi'r bydysawd cyfan â'i bresenoldeb.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity