Yn ôl

Effesiaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

EFFESIAID 2

Yn fyw drwy berthyn i'r Meseia

1 Ar un adeg roeddech chi'n farw'n ysbrydol – am eich bod chi wedi gwrthryfela a phechu yn erbyn Duw. 2 Roeddech chi'n byw yr un fath â phawb arall, yn dilyn ffordd y byd. Roeddech chi'n ufuddhau i Satan, tywysog teyrnas yr awyr – sef y pŵer ysbrydol sydd ar waith ym mywydau pawb sy'n anufudd i Dduw. 3 Roedden ni i gyd felly ar un adeg. Roedden ni'n byw i blesio'r hunan pechadurus a gwneud beth bynnag oedd ein ffansi. Dyna oedd ein natur ni, ac roedden ni fel pawb arall yn haeddu cael ein cosbi gan Dduw. 4 Ond mae Duw mor anhygoel o drugarog! Mae wedi'n caru ni gymaint! 5 Mae wedi rhoi bywyd i ni gyda'r Meseia – ie, ni oedd yn farw'n ysbrydol am ein bod wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Y ffaith fod Duw mor hael ydy'r unig reswm pam dŷn ni wedi'n hachub! 6 Cododd Duw ni yn ôl yn fyw gyda'r Meseia Iesu a'n gosod i deyrnasu gydag e yn y byd nefol – dŷn ni wedi'n huno gydag e! 7 Felly bydd haelioni Duw i'w weld yn glir yn y byd sydd i ddod. Does dim byd tebyg yn unman i'r caredigrwydd ddangosodd aton ni drwy beth wnaeth y Meseia Iesu. 8 Haelioni Duw ydy'r unig beth sy'n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu'r peth. Anrheg Duw ydy e! 9 Dych chi'n gallu gwneud dim i'w ennill, felly does dim lle i unrhyw un frolio. 10 Duw sydd wedi'n gwneud ni beth ydyn ni. Mae wedi'n creu mewn perthynas â'r Meseia Iesu, i ni wneud yr holl bethau da mae e wedi'u trefnu ymlaen llaw i ni eu gwneud.

Un yn ein perthynas â'r Meseia

11 Mae'n dda i chi gofio eich bod chi sydd o genhedloedd eraill yn arfer bod ‛ar y tu allan‛. ‛Y dienwaediad‛ oeddech chi'n cael eich galw gan ‛bobl yr enwaediad‛ – sef yr Iddewon sy'n cadw'r ddefod o dorri'r blaengroen ar fechgyn i ddangos eu bod nhw'n perthyn i Dduw. 12 Cofiwch eich bod chi bryd hynny yn gwybod dim am y Meseia. Doeddech chi ddim yn perthyn i bobl Dduw, nac yn gwybod dim am yr addewid a'r ymrwymiad wnaeth Duw. Roeddech chi'n byw yn y byd heb unrhyw obaith a heb berthynas gyda Duw. 13 Ond bellach, dych chi wedi cael eich uno gyda'r Meseia Iesu! Dych chi, oedd mor bell i ffwrdd ar un adeg, wedi cael dod i berthyn, a hynny am fod y Meseia wedi gwaedu a marw ar y groes.

14 Ac ydy, mae Iesu'n gwneud y berthynas rhyngon ni a'n gilydd yn iawn hefyd – ni'r Iddewon a chi sydd o genhedloedd eraill. Mae wedi'n huno ni gyda'n gilydd. Mae'r wal o gasineb oedd yn ein gwahanu ni wedi cael ei chwalu ganddo! 15 Wrth farw ar y groes mae wedi delio gyda'r ffens oedd yn eich cau chi allan, sef holl ofynion y Gyfraith Iddewig a'i rheolau. Gwnaeth hyn er mwyn dod â ni i berthynas iawn â'n gilydd, a chreu un ddynoliaeth newydd allan o'r ddau grŵp o bobl. 16 Mae'r ddau yn dod yn un corff sy'n cael ei gymodi gyda Duw drwy beth wnaeth e ar y groes. Dyna sut daeth â'r casineb rhyngon ni i ben. 17 Daeth i gyhoeddi'r newyddion da am heddwch i chi o genhedloedd eraill oedd yn ‛bell oddi wrtho‛, a heddwch i ni'r Iddewon oedd yn ‛agos‛.Croes 18 Bellach, o achos beth wnaeth Iesu y Meseia mae'r ddau grŵp gyda'i gilydd yn gallu closio at Dduw y Tad drwy'r un Ysbryd Glân.

19 Felly dych chi o'r cenhedloedd eraill ddim yn bobl estron mwyach, nac yn bobl sydd ‛y tu allan‛. Dych chi bellach yn perthyn i genedl Dduw! Dych chi'n aelodau o'i deulu! 20 Dych chi'n rhan o'r un adeilad! Dŷn ni'r cynrychiolwyr personol ddewisodd e, a'r proffwydi, wedi gosod y sylfeini, a'r Meseia Iesu ei hun ydy'r maen clo. 21 Dŷn ni i gyd yn cael ein hadeiladu a'n cysylltu â'n gilydd i wneud teml sydd wedi'i chysegru i'r Arglwydd. 22 A dych chi, y bobl o genhedloedd eraill sy'n perthyn iddo, yn rhan o'r un adeilad hwnnw lle mae Duw yn byw drwy ei Ysbryd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity