Yn ôl

Esther

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESTHER 3

Haman yn cynllwynio i ladd yr Iddewon

1 Rywbryd wedyn, dyma'r Brenin Ahasferus yn rhoi dyrchafiad i ddyn o'r enw Haman fab Hammedatha, oedd yn dod o dras Agag. Cafodd ei benodi i swydd uwch na'r swyddogion eraill i gyd. 2 Roedd y brenin wedi gorchymyn fod swyddogion eraill y llys brenhinol i fod i ymgrymu i Haman a dangos parch ato. Ond doedd Mordecai ddim am wneud hynny.

3 Dyma rai o swyddogion eraill y brenin yn gofyn i Mordecai pam roedd e'n gwrthod ufuddhau i orchymyn y brenin. 4 Er eu bod nhw wedi siarad ag e am y peth dro ar ôl tro, doedd e ddim yn fodlon gwrando. Ond roedd e wedi esbonio iddyn nhw ei fod e'n Iddew. Felly dyma'r swyddogion yn mynd i siarad am y peth gyda Haman, i weld os byddai safiad Mordecai'n cael ei ganiatáu.

5 Pan glywodd Haman fod Mordecai'n gwrthod ymgrymu iddo a dangos parch ato, aeth yn lloerig. 6 Doedd delio gyda Mordecai ei hun ddim yn ddigon ganddo. Felly pan ddaeth i ddeall fod Mordecai yn Iddew, dyma Haman yn penderfynu lladd pob Iddew drwy deyrnas Ahasferus i gyd.

7 Yn y mis cyntaf (sef Nisan Ref ) o'r ddeuddegfed flwyddyn i Ahasferus fel brenin, dyma Haman yn mynd drwy'r ddefod o daflu'r pŵr (sef math o ddeis), i benderfynu ar ddyddiad a mis i ladd yr Iddewon. Roedd y dyddiad gafodd ei ddewis yn ystod y deuddegfed mis (sef Adar Ref ).

8 Yna dyma Haman yn mynd at y Brenin Ahasferus, a dweud wrtho, “Mae yna un grŵp o bobl ar wasgar drwy daleithiau dy deyrnas di, sy'n cadw ar wahân i bawb arall. Maen nhw'n cadw eu cyfreithiau eu hunain a ddim yn ufuddhau i gyfreithiau'r brenin. Ddylai'r brenin ddim gadael iddyn nhw wneud hyn. 9 Os ydy'r brenin yn cytuno, dylid dyfarnu eu bod nhw i gyd i gael eu lladd. Dw i'n addo talu dros 300 tunnell o arian i'r trysordy brenhinol i gael swyddogion i drefnu hyn i gyd.”

10 Felly dyma'r brenin yn tynnu ei sêl-fodrwy a'i rhoi hi i Haman, oedd yn casáu'r Iddewon. 11 A dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Cei wneud beth bynnag rwyt ti eisiau gyda'r arian a'r bobl yna rwyt ti'n sôn amdanyn nhw.”

12 Felly ar y trydydd ar ddeg o'r mis cyntaf dyma ysgrifenyddion y brenin yn cael eu galw. A chafodd popeth wnaeth Haman ei orchymyn ei ysgrifennu mewn llythyrau at y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr a swyddogion y taleithiau i gyd. Roedd llythyr pob talaith unigol yn cael ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno. Roedd y llythyrau yn cael eu hanfon yn enw'r Brenin Ahasferus, ac wedi'u selio gyda'i sêl-fodrwy e. 13 Roedd negeswyr yn mynd â'r llythyrau i daleithiau'r deyrnas, yn gorchymyn dinistrio'r Iddewon yn llwyr, a'u lladd nhw i gyd – pobl ifanc a phobl mewn oed, gwragedd a phlant. Wedyn roedd eu heiddo i gyd i gael ei gymryd. Roedd hyn i ddigwydd ar y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (sef Adar). 14 Roedd copi o'r ddogfen yma i fynd i bob talaith, ac i'w gwneud yn gyfraith ynddyn nhw i gyd. Roedd pawb i gael gwybod am y peth, er mwyn paratoi ar gyfer y diwrnod hwnnw.

15 Felly dyma'r negeswyr yn mynd allan ar frys ar orchymyn y brenin. Roedd y gorchymyn wedi'i gyhoeddi yn y gaer ddinesig yn Shwshan.

Tra oedd y brenin a Haman yn eistedd i lawr yn yfed gyda'i gilydd, roedd pobl y ddinas wedi drysu'n lân.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity