Yn ôl

Esther

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESTHER 5

Gwledd gyntaf Esther

1 Ar y trydydd diwrnod o'i hympryd, dyma Esther yn gwisgo'i dillad brenhinol, a mynd i gyntedd mewnol y palas tu allan i neuadd y brenin. Roedd y brenin yno, yn eistedd ar ei orsedd gyferbyn â'r drws. 2 Pan welodd fod y Frenhines Esther yn sefyll yn y cyntedd tu allan, roedd e wrth ei fodd. Dyma fe'n estyn y deyrnwialen aur oedd yn ei law at Esther, a dyma hithau yn mynd ato ac yn cyffwrdd blaen y deyrnwialen. 3 A dyma'r brenin yn gofyn iddi, “Y Frenhines Esther, beth alla i wneud i ti? Beth wyt ti eisiau? Dw i'n fodlon rhoi hyd at hanner y deyrnas i ti!” 4 Dyma Esther yn ateb, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, byddwn i'n hoffi iddo fe a Haman ddod heddiw i wledd dw i wedi'i pharatoi.” 5 A dyma'r brenin yn gorchymyn, “Ewch i nôl Haman ar unwaith, i ni wneud beth mae Esther yn ei ofyn.” Felly dyma'r brenin a Haman yn mynd i'r wledd roedd Esther wedi'i pharatoi.

6 Tra'n yfed gwin yn y wledd, dyma'r brenin yn gofyn i Esther, “Gofyn am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Be fyddet ti'n hoffi i mi ei wneud? Gofyn am gymaint â hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!” 7 A dyma Esther yn ateb, “Dyma beth faswn i'n hoffi: 8 Os ydw i wedi plesio'r brenin a'i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, baswn i'n hoffi iddo fe a Haman ddod eto fory i wledd arall dw i wedi'i pharatoi. Gwna i ddweud wrth y brenin beth dw i eisiau bryd hynny.”

Haman eisiau lladd Mordecai

9 Aeth Haman i ffwrdd y diwrnod hwnnw yn teimlo'n rêl boi. Ond yna dyma fe'n gweld Mordecai yn y llys brenhinol yn gwrthod codi iddo na dangos parch ato. Roedd Haman wedi gwylltio'n lân. Roedd e'n berwi! 10 Ond dyma fe'n llwyddo i reoli ei dymer, ac aeth yn ei flaen adre.

Ar ôl cyrraedd adre dyma fe'n galw'i ffrindiau at ei gilydd, a'i wraig Seresh. 11 A dyma fe'n dechrau brolio am ei gyfoeth mawr, y nifer o feibion oedd ganddo, a'r ffaith fod y brenin wedi'i anrhydeddu e a'i osod e'n uwch na'r swyddogion eraill i gyd. 12 Ac aeth ymlaen i ddweud, “A ces wahoddiad gan y Frenhines Esther i fynd gyda'r brenin i'r wledd roedd hi wedi'i pharatoi. Fi oedd yr unig un! A dw i wedi cael gwahoddiad i fynd yn ôl gyda'r brenin eto fory. 13 Ond fydda i byth yn hapus tra mae Mordecai yr Iddew yna yn dal yn ei swydd.” 14 Yna dyma'i wraig a'i ffrindiau i gyd yn dweud wrtho, “Adeilada grocbren anferth, dau ddeg pum metr o uchder. Yna bore fory, dos i ddweud wrth y brenin am grogi Mordecai arno. Wedyn cei fynd i'r cinio gyda'r brenin, a mwynhau dy hun.” Roedd Haman yn meddwl fod hynny'n syniad gwych. A dyma fe'n trefnu i'r crocbren gael ei adeiladu.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity