Yn ôl

Esther

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESTHER 7

1 Felly dyma'r brenin a Haman yn mynd i wledda gyda'r Frenhines Esther 2 am yr ail waith. Tra'n yfed gwin yn y wledd, dyma'r brenin yn gofyn i Esther, “Y Frenhines Esther. Gofynna am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Beth fyddet ti'n hoffi i mi ei wneud i ti? Gofyn am gymaint â hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!” 3 A dyma Esther yn ateb, “Os ydw i wedi plesio'r brenin, a'i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, arbed fy mywyd i a'm pobl. Dyna dw i eisiau. 4 Dŷn ni wedi cael ein gwerthu i gael ein lladd a'n dinistrio'n llwyr! Petaen ni wedi cael ein gwerthu'n gaethweision a chaethferched fyddwn i wedi dweud dim. Fyddai trafferth felly ddim digon pwysig i boeni'r brenin amdano.” 5 A dyma'r Brenin Ahasferus yn gofyn i Esther, “Pwy sydd wedi gwneud hyn? Pwy fyddai'n meiddio gwneud y fath beth?” 6 A dyma Esther yn ateb, “Dyn drwg sy'n ein casáu ni! Dyma fe – Haman!”

Roedd Haman wedi dychryn am ei fywyd o flaen y brenin a'r frenhines. 7 Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân, a dyma fe'n codi o'r bwrdd a mynd allan i ardd y palas. Yna dyma Haman yn dechrau pledio ar y Frenhines Esther i arbed ei fywyd. Roedd yn gweld fod y brenin yn mynd i drefnu i'w ladd yn y ffordd fwya creulon. 8 Pan ddaeth y brenin yn ôl i mewn o'r ardd, roedd Haman yn taflu ei hun ar y soffa roedd Esther yn gorwedd arni. A dyma'r brenin yn gweiddi, “Ydy e am dreisio'r frenhines hefyd, a minnau'n dal yn yr adeilad!”

Wrth i'r brenin ddweud hyn, dyma'i weision yn rhoi mwgwd dros ben Haman. 9 A dyma Charbona, un o'r gweision, yn dweud, “Mae Haman wedi adeiladu crocbren i grogi Mordecai, y dyn oedd wedi achub bywyd y brenin. Mae'r crocbren heb fod yn bell o'i dŷ, ac yn ddau ddeg pum metr o uchder.” “Crogwch Haman arno!” meddai'r brenin. 10 Felly cafodd Haman ei grogi ar y crocbren oedd wedi'i fwriadu i Mordecai. Dyma dymer y brenin yn tawelu wedyn.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity