Yn ôl

Esther

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESTHER 8

Mordecai yn cael dyrchafiad

1 Y diwrnod hwnnw, dyma'r Brenin Ahasferus yn rhoi ystad Haman, gelyn yr Iddewon, i'r Frenhines Esther. Yna dyma Mordecai yn cael ei alw i sefyll o flaen y brenin. (Roedd Esther wedi dweud wrth y brenin eu bod nhw'n perthyn.) 2 A dyma'r brenin yn cymryd ei sêl-fodrwy (sef yr un oedd Haman wedi bod yn ei gwisgo), a'i rhoi hi i Mordecai. Wedyn, dyma Esther yn penodi Mordecai i redeg ystad Haman.

Deddf yn caniatáu i'r Iddewon amddiffyn eu hunain

3 Dyma Esther yn mynd i siarad â'r brenin eto. Syrthiodd wrth ei draed yn crio, a chrefu am drugaredd. Roedd ganddi eisiau iddo wrthdroi cynllun drwg Haman yr Agagiad yn erbyn yr Iddewon. 4 A dyma'r brenin yn estyn ei deyrnwialen aur ati. Cododd Esther ar ei thraed o'i flaen 5 a gofyn iddo, “Os ydw i wedi plesio'r brenin, ac os ydy e'n gweld yn dda i fod yn garedig ata i a rhoi i mi beth dw i eisiau, wnaiff e orchymyn mewn ysgrifen fod bwriad drwg Haman fab Hammedatha, yr Agagiad, i ladd pob Iddew drwy'r taleithiau i gyd, yn cael ei ddiddymu? 6 Sut alla i eistedd yn ôl a gwylio'r fath drychineb yn digwydd i'm pobl, a'm teulu i gyd yn cael eu lladd?”

7 A dyma'r Brenin Ahasferus yn dweud wrth y Frenhines Esther ac wrth Mordecai, “Dw i wedi rhoi ystad Haman i Esther, ac wedi crogi Haman am ei fod wedi bwriadu ymosod ar yr Iddewon. 8 A nawr cewch chi ysgrifennu ar fy rhan beth bynnag dych chi'n deimlo sy'n iawn i'w wneud gyda'r Iddewon, a selio'r ddogfen gyda fy sêl-fodrwy i. Mae'n amhosib newid deddf sydd wedi'i hysgrifennu yn enw'r brenin, ac wedi'i selio gyda'i sêl-fodrwy e.”

9 Felly ar y trydydd ar hugain o'r trydydd mis, sef Sifan, Ref dyma ysgrifenyddion y brenin yn cael eu galw. A dyma nhw'n ysgrifennu popeth roedd Mordecai yn ei orchymyn – at yr Iddewon, ac at raglawiaid, llywodraethwyr a swyddogion pob talaith o India i Affrica (cant dau ddeg saith o daleithiau i gyd). Roedd llythyr pob talaith yn cael ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno, a'r llythyr at yr Iddewon yn eu hiaith nhw. 10 Roedd Mordecai yn ysgrifennu ar ran y Brenin Ahasferus, a chafodd y llythyrau eu selio gyda sêl-fodrwy y brenin. Yna dyma'r llythyrau yn cael eu dosbarthu gan negeswyr oedd yn marchogaeth y ceffylau cyflymaf yn y stablau brenhinol.

11 Rhoddodd y brenin ganiatád i'r Iddewon ddod at ei gilydd i amddiffyn eu hunain. Roedden nhw'n cael lladd a dinistrio milwyr unrhyw dalaith oedd yn ymosod arnyn nhw, lladd eu gwragedd a'u plant, a chymryd eu heiddo oddi arnyn nhw. 12 Roedd hyn i gyd i ddigwydd drwy bob talaith oedd dan reolaeth y Brenin Ahasferus, ar un diwrnod penodol, sef y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis (Mis Adar). 13 Roedd copi o'r ddogfen yma i fynd i bob talaith, ac i'w gwneud yn gyfraith ynddyn nhw i gyd. Roedd pawb i gael gwybod am y peth. Wedyn byddai'r Iddewon yn barod ar gyfer y diwrnod hwnnw, i ddial ar eu gelynion.

14 Dyma'r negeswyr yn rhuthro allan ar frys, ar gefn ceffylau o'r stablau brenhinol, a gorchymyn y brenin ganddyn nhw. Cafodd y gyfraith ei chyhoeddi yn y gaer ddinesig yn Shwshan hefyd.

15 Pan aeth Mordecai allan oddi wrth y brenin, roedd wedi'i arwisgo mewn dillad brenhinol o borffor a gwyn. Roedd twrban euraid mawr ar ei ben, a mantell o liain main porffor ar ei ysgwyddau. Roedd pawb yn Shwshan yn dathlu, 16 ac roedd yr Iddewon wrth eu boddau ac yn cael eu parchu gan bawb. 17 Yn y taleithiau a'r trefi i gyd lle roedd gorchymyn y brenin wedi'i gyhoeddi, roedd yr Iddewon wedi cymryd gwyliau i ddathlu a gwledda. Ac roedd llawer o bobl eraill yn honni eu bod wedi troi'n Iddewon, am fod ganddyn nhw gymaint o ofn beth fyddai'r Iddewon yn ei wneud iddyn nhw.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity