Yn ôl

Exodus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

EXODUS 11

Rhybudd fod pob mab hynaf i farw

1 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i'n mynd i daro'r Pharo a gwlad yr Aifft un tro olaf. Bydd yn eich gollwng chi'n rhydd wedyn, heb unrhyw amodau. Yn wir, bydd e'n eich gyrru chi allan o'r wlad. 2 Dwed wrth bobl Israel fod pawb i ofyn i'w cymdogion am bethau wedi'u gwneud o arian ac aur.” 3 A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r Eifftiaid fod yn hael at bobl Israel. Roedd Moses ei hun yn cael ei ystyried yn ddyn pwysig iawn yn yr Aifft. Roedd gan swyddogion y Pharo a'r bobl gyffredin barch mawr ato.

4 A dyma Moses yn dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Tua canol nos bydda i'n mynd drwy wlad yr Aifft, 5 a bydd pob mab hynaf drwy'r wlad yn marw – o fab hynaf y Pharo ar ei orsedd i fab hyna'r gaethferch sy'n troi'r felin law, a hyd yn oed pob anifail gwryw oedd y cyntaf i gael ei eni. 6 Bydd pobl yn wylofain drwy wlad yr Aifft i gyd. Fydd dim byd tebyg wedi digwydd erioed o'r blaen, a fydd dim byd tebyg byth eto. 7 Ond fydd dim yn bygwth pobl Israel na'u hanifeiliaid – dim hyd yn oed ci yn cyfarth! Byddwch chi'n deall wedyn fod yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng yr Eifftiaid a phobl Israel.’ 8 Bydd dy swyddogion i gyd yn dod i edrych amdana i, ac yn plygu'n isel o mlaen i. Byddan nhw'n dweud, ‘Ewch! – Ti a'r bobl sy'n dy ddilyn di.’ Wedyn bydda i'n mynd.” Yna dyma Moses yn gadael y Pharo, wedi digio'n lân. 9 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Fydd y Pharo ddim yn gwrando arnoch chi. Felly dw i'n mynd i wneud mwy o wyrthiau rhyfeddol yn yr Aifft.”

10 Er bod Moses ac Aaron wedi gwneud y gwyrthiau rhyfeddol yma o flaen y Pharo, roedd yr ARGLWYDD wedi'i wneud e'n ystyfnig. Roedd yn gwrthod gadael i bobl Israel fynd yn rhydd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity