Yn ôl

Exodus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

EXODUS 13

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2 “Rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi piau nhw.”

Gŵyl y Bara Croyw

3 Dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Mae'r diwrnod yma, pan ddaethoch chi allan o'r Aifft, yn ddiwrnod i'w gofio. Roeddech chi'n gaethion yno, a dyma'r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth i'ch rhyddhau chi. Ond peidiwch bwyta bara wedi'i wneud gyda burum pan fyddwch chi'n dathlu. 4 Dyma'r diwrnod, ym mis Abib, pan aethoch chi allan. 5 A phan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i'r wlad wnaeth e addo ei rhoi i'ch hynafiaid chi – gwlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Hefiaid, a Jebwsiaid; gwlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo – byddwch yn dathlu ar y mis yma bob blwyddyn. 6 Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo, yna ar y seithfed diwrnod cadw gŵyl i'r ARGLWYDD. 7 Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod. Does dim bara wedi'i wneud gyda burum, na hyd yn oed y burum ei hun, i fod yn unman. 8 Yna dych chi i esbonio i'ch plant, ‘Dŷn ni'n gwneud hyn i gofio beth wnaeth yr ARGLWYDD droson ni pan ddaethon ni allan o'r Aifft.’ 9 Bydd fel arwydd ar eich llaw neu farc ar eich talcen, yn eich atgoffa chi i siarad am beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddysgu i chi. Roedd e wedi defnyddio ei nerth i ddod â chi allan o'r Aifft. 10 Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn ar yr amser iawn bob blwyddyn.

Cysegru'r mab cyntaf i gael ei eni

11 “Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i wlad y Canaaneaid, fel gwnaeth e addo i'ch hynafiaid chi, 12 rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi, yr ARGLWYDD sydd biau nhw. 13 Gellir prynu'n ôl pob asyn cyntaf i gael ei eni drwy roi oen neu fyn gafr yn ei le. Os nad ydy e'n cael ei brynu, rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf. A rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu'n ôl hefyd. 14 Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy ystyr hyn?’, Dych chi i'w hateb, ‘Yr ARGLWYDD wnaeth ddefnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft, lle roedden ni'n gaethion. 15 Roedd y Pharo yn gwrthod ein gollwng ni'n rhydd, felly dyma'r ARGLWYDD yn lladd pob mab hynaf a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni. Dyna pam dŷn ni'n aberthu pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni i'r ARGLWYDD. Ond dŷn ni'n prynu'n ôl pob mab cyntaf i gael ei eni.’ 16 Bydd fel arwydd ar eich llaw neu rywbeth yn cael ei wisgo ar y talcen, i'ch atgoffa fod yr ARGLWYDD wedi defnyddio ei nerth i ddod â ni allan o'r Aifft.”

Y daith at y Môr Coch

17 Pan wnaeth y Pharo adael i'r bobl fynd, wnaeth Duw ddim eu harwain nhw i wlad y Philistiaid, er mai dyna fyddai'r ffordd gyntaf. Doedd gan Dduw ddim eisiau i'r bobl newid eu meddyliau a mynd yn ôl i'r Aifft pan oedd y Philistiaid yn bygwth rhyfela yn eu herbyn nhw. 18 Felly dyma Duw yn mynd â'r bobl drwy'r anialwch at y Môr Coch. Ref Aeth pobl Israel allan o'r Aifft fel byddin yn ei rhengoedd.

19 Dyma Moses yn mynd ag esgyrn Joseff gyda nhw. Roedd Joseff wedi gwneud i bobl Israel addo, “Dw i'n gwybod y bydd Duw yn gofalu amdanoch chi. Dw i eisiau i chi fynd â'm hesgyrn i gyda chi o'r lle yma.”

20 Dyma nhw'n gadael Swccoth ac yn gwersylla yn Etham wrth ymyl yr anialwch. 21 Roedd yr ARGLWYDD yn arwain y ffordd mewn colofn o niwl yn ystod y dydd, a cholofn o dân yn y nos. Felly roedden nhw'n gallu teithio yn y dydd neu'r nos. 22 Roedd y golofn o niwl gyda nhw bob amser yn y dydd, a'r golofn o dân yn y nos.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity