Yn ôl

Exodus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

EXODUS 15

Y Gân wrth y Môr Coch

1 Dyma Moses a phobl Israel yn canu'r gân yma i'r ARGLWYDD:

“Dw i am ganu i'r ARGLWYDD

a dathlu ei fuddugoliaeth:

Mae e wedi taflu'r ceffylau

a'u marchogion i'r môr!

2 Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi!

Fe sydd wedi fy achub i.

Dyma'r Duw dw i'n ei addoli –

Duw fy nhad, a dw i'n mynd i'w ganmol!

3 Yr ARGLWYDD ydy ei enw e.

Mae'r ARGLWYDD yn rhyfelwr.

4 Mae wedi taflu cerbydau y Pharo

a'i fyddin i gyd i'r môr!

Cafodd eu swyddogion gorau

eu boddi yn y Môr Coch. Ref

5 Daeth y dŵr dwfn drostyn nhw,

a dyma nhw'n suddo i'r gwaelod fel carreg.

6 Mae dy law gref yn rhyfeddol, ARGLWYDD;

dy law gref di wnaeth ddryllio'r gelyn.

7 Am dy fod mor aruthrol fawr,

rwyt ti'n bwrw i lawr y rhai sy'n codi yn dy erbyn –

Ti'n dangos dy fod yn ddig,

ac maen nhw'n cael eu difa fel bonion gwellt.

8 Wrth i ti chwythu dyma'r dŵr yn codi'n bentwr,

y llif yn sefyll fel argae,

a'r dŵr dwfn wedi caledu yng nghanol y môr.

9 Dyma'r gelyn yn dweud,

‘Ar eu holau nhw! Dalia i nhw,

a rhannu'r ysbail!

Dw i'n mynd i gael amser da!

Fydd neb ar ôl i'r cleddyf ei daro –

dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr!’

10 Ond dyma ti'n chwythu,

a dyma'r môr yn llifo drostyn nhw!

Dyma nhw'n suddo fel plwm yn y tonnau gwyllt!

11 Pa un o'r duwiau sy'n debyg i ti, ARGLWYDD?

Does neb tebyg i ti –

mor wych, ac mor sanctaidd,

yn haeddu dy barchu a dy foli;

ti'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol!

12 Dyma ti'n codi dy law gref

a dyma'r ddaear yn llyncu'r gelyn!

13 Yn dy gariad byddi'n arwain

y bobl rwyt wedi'u rhyddhau;

byddi'n eu tywys yn dy nerth

i'r lle cysegredig lle rwyt yn byw.

14 Bydd y bobloedd yn clywed ac yn crynu –

bydd pobl Philistia yn poeni,

15 ac arweinwyr Edom wedi brawychu.

Bydd dynion cryf Moab yn crynu,

a phobl Canaan yn poeni.

16 Bydd ofn a braw yn dod drostyn nhw –

mae dy gryfder di yn eu gwneud yn fud

fel carreg.

Fyddan nhw'n gwneud dim nes bydd dy bobl

wedi pasio heibio, ARGLWYDD;

nes i'r bobl wnest ti eu prynu basio heibio.

17 Ond byddi'n mynd â nhw i mewn

ac yn eu plannu ar dy fynydd dy hun –

ble wyt ti wedi dewis byw, ARGLWYDD;

y cysegr rwyt ti wedi'i sefydlu.

18 Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu am byth bythoedd!

19 Pan aeth ceffylau y Pharo, a'i gerbydau a'i filwyr i'r môr,

dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i ddŵr y môr lifo'n ôl drostyn nhw.

Ond roedd pobl Israel wedi cerdded ar dir sych drwy ganol y môr.”

Miriam a'r merched yn dawnsio

20 Yna dyma Miriam y broffwydes (chwaer Aaron) yn gafael mewn drwm llaw, a dyma'r merched i gyd yn codi drymiau a mynd ar ei hôl, gan ddawnsio.

21 Roedd Miriam yn canu'r gytgan:

“Canwch i'r ARGLWYDD

i ddathlu ei fuddugoliaeth!

Mae wedi taflu'r ceffylau

a'u marchogion i'r môr!”

Dŵr chwerw Mara

22 Dyma Moses yn cael pobl Israel i symud ymlaen oddi wrth y Môr Coch. Aethon nhw allan i Anialwch Shwr. Buon nhw'n cerdded yn yr anialwch am dri diwrnod heb ddod o hyd i ddŵr. 23 Yna dyma nhw'n cyrraedd Mara, ond roedden nhw'n methu yfed y dŵr yno am ei fod mor chwerw. (Dyna pam roedd yn cael ei alw yn Mara – sef “Chwerw.”) 24 Dyma'r bobl yn dechrau troi yn erbyn Moses. “Beth ydyn ni'n mynd i'w yfed?” medden nhw. 25 Dyma Moses yn gweddïo'n daer am help, a dyma'r ARGLWYDD yn ei arwain at ddarn o bren. Ar ôl i Moses ei daflu i'r dŵr, roedd y dŵr yn iawn i'w yfed.

Yn Mara, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi rheol iddyn nhw, er mwyn profi pa mor ffyddlon oedden nhw: 26 “Os byddwch chi'n ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, ac yn gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e, gwrando ar beth mae'n ei ddweud a cadw at ei reolau, fydd dim rhaid i chi ddiodde'r afiechydon wnes i daro'r Eifftiaid gyda nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eich iacháu chi.”

27 Yna dyma nhw'n cyrraedd Elim, lle roedd un deg dwy o ffynhonnau a saith deg o goed palmwydd. A dyma nhw'n gwersylla yno wrth ymyl y ffynhonnau.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity