Yn ôl

Exodus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

EXODUS 20

Y Deg Gorchymyn

(Deuteronomium 5:6-21)

1 A dyma Duw yn dweud fel yma:

2 “Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi.

Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft,

lle roeddech chi'n gaethweision.

3 Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.

4 Paid cerfio eilun i'w addoli –

dim byd sy'n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn.

5 Paid plygu i lawr a'u haddoli nhw.

Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus.

Dw i'n cosbi pechodau'r rhieni sy'n fy nghasáu i,

ac mae'r canlyniadau'n gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth.

6 Ond dw i'n dangos cariad di-droi'n-ôl am fil o genedlaethau

at y rhai sy'n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i'n ddweud.

7 Paid camddefnyddio enw'r ARGLWYDD dy Dduw.

Fydda i ddim yn gadael i rywun sy'n camddefnyddio fy enw ddianc rhag cael ei gosbi.

8 Cofia gadw'r dydd Saboth yn sbesial.

Mae'n ddiwrnod cysegredig, gwahanol i'r lleill.

9 Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud.

10 Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r ARGLWYDD.

Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma –

ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith;

dim hyd yn oed dy anifeiliaid nac unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti.

11 Mewn chwe diwrnod roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd,

y ddaear, y môr a phopeth sydd ynddyn nhw;

wedyn dyma fe'n gorffwys ar y seithfed diwrnod.

Dyna pam wnaeth Duw fendithio'r dydd Saboth,

a'i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi'i gysegru.

12 Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam,

a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti.

13 Paid llofruddio.

14 Paid godinebu. Ref

15 Paid dwyn.

16 Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun.

17 Paid chwennych Ref tŷ rhywun arall.

Paid chwennych ei wraig, na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn,

na dim byd sydd gan rywun arall.”

Yr angen am ganolwr

(Deuteronomium 5:22-33)

18 Roedd y bobl wedi dychryn o achos y mellt a'r taranau, sŵn y corn hwrdd, Ref a'r mynydd yn mygu. Roedden nhw'n crynu mewn ofn, ac eisiau cadw ddigon pell i ffwrdd. 19 Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Siarad di gyda ni, a gwnawn ni wrando. Paid gadael i Dduw siarad â ni, neu byddwn ni'n marw.” 20 Dyma Moses yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Mae Duw yn eich profi chi, ac eisiau i chi ei barchu e, i chi stopio pechu.” 21 Felly dyma'r bobl yn cadw ddigon pell i ffwrdd, tra aeth Moses at y cwmwl trwchus lle roedd Duw.

Sgrôl yr Ymrwymiad

22 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dwed fel hyn wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi gweld sut dw i wedi siarad â chi o'r nefoedd. 23 Rhaid i chi beidio gwneud duwiau eraill o arian ac aur i chi'ch hunain. 24 Codwch allor o bridd i mi, ac aberthu defaid, geifr a gwartheg arni – yr offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Ble bynnag fydda i'n cael fy anrhydeddu, bydda i'n dod atoch chi ac yn eich bendithio chi. 25 Os codwch allor o gerrig, rhaid iddyn nhw beidio bod yn gerrig sydd wedi'u naddu. Os bydd cŷn wedi'i defnyddio arni, bydd yr allor wedi'i halogi. 26 A pheidiwch dringo grisiau i fynd at fy allor, rhag i'ch rhannau preifat gael eu gweld.’”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity