Yn ôl

Exodus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

EXODUS 24

Cadarnhau'r ymrwymiad

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd i fyny yma ata i. Tyrd ag Aaron a'i ddau fab, Nadab ac Abihw, a saith deg arweinydd Israel gyda ti. Byddan nhw'n fy addoli o bell, 2 tra byddi di, Moses, yn dod yn nes ata i. Dydy'r lleill ddim i ddod yn rhy agos. A dydy'r bobl ddim i gael dringo'r mynydd o gwbl.”

3 Yna dyma Moses yn mynd i ddweud wrth y bobl beth ddwedodd yr ARGLWYDD. Roedd ymateb y bobl yn unfrydol, “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.” 4 Felly dyma Moses yn ysgrifennu popeth ddwedodd yr ARGLWYDD. Yn gynnar y bore wedyn, dyma fe'n codi allor wrth droed y mynydd, ac un deg dwy o golofnau o'i chwmpas – un ar gyfer pob un o ddeuddeg llwyth Israel. 5 Yna anfonodd rai o'r dynion ifanc i gyflwyno offrymau oedd i'w llosgi'n llwyr, ac i aberthu teirw yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. 6 Wedyn dyma Moses yn rhoi hanner y gwaed mewn powlenni, a sblasio'r gweddill ar yr allor. 7 Yna cymerodd Sgrôl yr Ymrwymiad, a'i darllen i'r bobl. A dyma nhw'n dweud eto, “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, ac yn gwrando arno.”

8 Wedyn cymerodd Moses y gwaed oedd yn y powlenni, a'i daenellu ar y bobl. Ac meddai, “Mae'r gwaed hwn yn cadarnhau'r ymrwymiad mae'r ARGLWYDD wedi'i wneud, i chi fod yn ufudd i bopeth mae e'n ddweud.”

9 Yna dyma Moses, Aaron, Nadab, Abihw a saith deg arweinydd Israel yn mynd i fyny'r mynydd, 10 a dyma nhw'n gweld Duw Israel. Dan ei draed roedd rhywbeth tebyg i balmant wedi'i wneud o saffir. Roedd yn glir fel yr awyr las. 11 Ond wnaeth e ddim dinistrio arweinwyr Israel, er iddyn nhw weld Duw; a dyma nhw'n bwyta ac yn yfed yn ei gwmni.

Moses ar Fynydd Sinai

12 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Tyrd i ben y mynydd, ac aros amdana i. Dw i fy hun wedi ysgrifennu fy rheolau a'm cyfreithiau ar lechi, a dw i'n mynd i'w rhoi nhw i ti i'w dysgu i'r bobl.”

13 Felly dyma Moses yn mynd, gyda'i was Josua, a dechrau dringo i fyny mynydd Duw. 14 Roedd wedi dweud wrth yr arweinwyr, “Arhoswch amdanon ni yma, nes down ni yn ôl. Mae Aaron a Hur gyda chi. Os oes angen setlo rhyw ddadl, gallwch fynd atyn nhw.” 15 Wrth i Moses ddringo i fyny, dyma'r cwmwl yn dod i lawr a gorchuddio'r mynydd. 16 Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn gorffwys ar Fynydd Sinai. Roedd y cwmwl wedi'i orchuddio am chwe diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod, dyma Duw yn galw ar Moses o ganol y cwmwl. 17-18 Roedd Moses wedi cerdded i mewn i'r cwmwl ar y mynydd. A buodd yno ddydd a nos am bedwar deg diwrnod llawn.

Roedd y bobl yn gweld ysblander yr ARGLWYDD ar ben y mynydd – roedd yn edrych fel tân yn llosgi.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity