Yn ôl

Exodus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

EXODUS 25

Sut i godi'r Tabernacl

(Exodus 35:4-9)

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2 “Dwed wrth bobl Israel am gasglu rhoddion i mi gan bawb sy'n awyddus i gyfrannu. 3 Dyma beth allan nhw ei gyfrannu: aur, arian, pres, 4 edau las, porffor a coch, lliain main drud, blew gafr, 5 crwyn hyrddod wedi'u llifo'n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia, 6 olew i'r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus, 7 onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest. 8 Dw i eisiau iddyn nhw godi lle sbesial i mi gael byw yn eu canol nhw. 9 Dw i eisiau i'r Tabernacl, a popeth fydd yn mynd i mewn ynddo, gael eu gwneud yn union fel dw i'n dangos i ti.

Yr Arch

(Exodus 37:1-9)

10 “Maen nhw i wneud Arch, sef cist o goed acasia – 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder. 11 Yna ei gorchuddio gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno. 12 Yna gwneud pedwar cylch aur, a'u gosod nhw ar draed y gist, dau bob ochr. 13 A dau bolyn o goed acasia wedi'u gorchuddio gydag aur. 14 Mae'r polion i ffitio drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, ac i'w defnyddio i'w chario hi. 15 Mae'r polion yma i aros yn eu lle yn y cylchoedd bob amser – rhaid peidio eu tynnu nhw allan. 16 Wedyn mae Llechi'r Dystiolaeth, dw i'n eu rhoi i ti, i'w gosod y tu mewn i'r Arch.

17 “Yna gwneud caead o aur pur i'r Arch – 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led. 18-19 Yna gwneud dau gerwb o aur wedi'i guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i'r caead, yn un darn gyda'r caead ei hun. 20 Mae'r cerwbiaid i fod yn wynebu'i gilydd, yn edrych i lawr ar y caead, ac yn estyn eu hadenydd dros yr Arch. 21 Mae'r caead i'w osod ar yr arch, a Llechi'r Dystiolaeth i'w gosod y tu mewn iddi. 22 Dyma ble bydda i'n dy gyfarfod di. Rhwng y ddau gerwb sydd uwchben caead yr Arch, bydda i'n siarad â ti, ac yn dweud beth dw i eisiau i bobl Israel ei wneud.

Bwrdd y bara i'w gyflwyno i Dduw

(Exodus 37:10-16)

23 “Rwyt i wneud bwrdd o goed acasia – 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder. 24 Mae'r bwrdd i gael ei orchuddio gyda haen o aur pur, a border aur i'w osod o'i gwmpas i'w addurno. 25 Ac mae croeslath 75 milimetr o drwch i fod o'i gwmpas – hwnnw hefyd wedi'i addurno yr un fath â'r border. 26 Yna gwneud pedwar cylch aur, a'u gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau, 27 wrth ymyl y croeslath. Mae'r cylchoedd ar gyfer rhoi'r polion drwyddyn nhw i gario'r bwrdd. 28 Mae'r polion eu hunain i gael eu gwneud o goed acasia wedi'u gorchuddio gydag aur. 29 Hefyd platiau, pedyll, jygiau a phowlenni o aur pur, i dywallt yr offrymau o ddiod. 30 Mae'r bara cysegredig i gael ei osod o mlaen i ar y bwrdd yma bob amser.

Stand i ddal y lampau – y Menora

(Exodus 37:17-24)

31 “Yna gwneud y menora (sef stand i ddal y lampau) allan o aur pur – gwaith morthwyl, sef aur wedi'i guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn – y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw. 32 Mae chwe cangen i ymestyn allan o ochrau'r menora, tair bob ochr. 33 Mae tair cwpan siâp blodyn almon i fod ar bob cangen – pob blodyn gyda calycs a petalau. 34 Ac ar brif goes y menora, pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau; 35 un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd. 36 Mae'r cwbl i'w wneud o un darn o aur pur wedi'i guro – gwaith morthwyl. 37 Yna rhaid gwneud saith lamp, a'u gosod nhw arni fel eu bod yn goleuo o'i blaen hi. 38 Mae'r gefeiliau a'r padellau hefyd i'w gwneud o aur pur. 39 Dylid defnyddio 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a'r offer i gyd. 40 Gwna'n siŵr dy fod yn eu gwneud nhw yn union fel yn y cynllun gafodd ei ddangos i ti ar y mynydd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity