Yn ôl

Exodus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

EXODUS 3

Duw yn galw Moses

1 Roedd Moses yn gofalu am ddefaid a geifr ei dad-yng-nghyfraith, Jethro, offeiriad Midian. A dyma fe'n arwain y praidd i'r ochr draw i'r anialwch. Daeth at fynydd Duw, sef Mynydd Sinai. Ref 2 Yno, dyma angel yr ARGLWYDD yn ymddangos iddo o ganol fflamau perth oedd ar dân. Wrth edrych, roedd yn gweld fod y berth yn fflamau tân, ond doedd hi ddim yn cael ei llosgi. 3 “Anhygoel!” meddyliodd. “Rhaid i mi fynd yn nes i weld beth sy'n digwydd – pam nad ydy'r berth yna wedi llosgi'n ulw.” 4 Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod yn mynd draw i edrych, dyma Duw yn galw arno o ganol y berth, “Moses! Moses!” “Dyma fi,” meddai Moses. 5 A dyma Duw yn dweud wrtho, “Paid dod dim nes. Tyn dy sandalau; ti'n sefyll ar dir cysegredig!” 6 Yna dyma fe'n dweud, “Fi ydy Duw dy dad; Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.” A dyma Moses yn cuddio'i wyneb, am fod ganddo ofn edrych ar Dduw.

7 Yna meddai'r ARGLWYDD wrtho, “Dw i wedi gweld sut mae fy mhobl i'n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi'u clywed nhw'n gweiddi wrth i'w meistri fod yn gas atyn nhw. Dw i'n teimlo drostyn nhw. 8 Felly dw i wedi dod lawr i'w rhyddhau nhw o afael yr Eifftiaid. Dw i'n mynd i'w harwain nhw o wlad yr Aifft, a rhoi gwlad dda, eang iddyn nhw – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo! Yr ardaloedd ble mae'r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw. 9 Dw i wedi clywed cri pobl Israel am help, a dw i wedi gweld mor greulon ydy'r Eifftiaid atyn nhw. 10 Felly tyrd. Dw i'n mynd i dy anfon di at y Pharo, i arwain fy mhobl, pobl Israel, allan o'r Aifft.”

11 Dyma Moses yn dweud wrth Dduw, “Fi? Pwy ydw i i fynd at y Pharo, ac arwain pobl Israel allan o'r Aifft?” 12 “Bydda i gyda ti, dw i'n addo,” meddai Duw. “A dyna fydd yr arwydd clir mai fi wnaeth dy anfon di: Pan fyddi di wedi arwain y bobl allan o'r Aifft, byddwch chi'n fy addoli i ar y mynydd yma.”

13 Ond dyma Moses yn dweud, “Os gwna i fynd at bobl Israel a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw eich hynafiaid chi wedi fy anfon i atoch chi,’ byddan nhw'n gofyn i mi, ‘Beth ydy ei enw e?’ Beth ddylwn i ddweud wedyn wrthyn nhw?” 14 “FI YDY'R UN YDW I,” meddai Duw wrth Moses. “Rhaid i ti ddweud wrth bobl Israel, ‘Mae FI YDY wedi fy anfon i atoch chi.’” 15 A dyma fe'n dweud hefyd, “Dwed wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, sydd wedi fy anfon i atoch chi – Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.’ Dyma fy enw i am byth, a'r enw fydd pobl yn ei gofio o un genhedlaeth i'r llall. 16 Dos i alw arweinwyr Israel at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ymddangos i mi – Duw Abraham, Isaac a Jacob. Mae'n dweud, “Dw i wedi bod yn cadw golwg arnoch chi. Dw i wedi gweld sut ydych chi'n cael eich trin yn yr Aifft. 17 A dw i'n addo eich rhyddhau chi o'r caledi yn yr Aifft, a'ch arwain chi i'r wlad ble mae'r Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid yn byw. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo!”’

18 “Bydd yr arweinwyr yn dy gredu di. Wedyn bydd rhaid i ti ac arweinwyr Israel fynd at frenin yr Aifft, a dweud wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid, wedi cyfarfod gyda ni. Felly, plîs gad i ni deithio i'r anialwch am dri diwrnod, er mwyn i ni aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw.’ 19 Dw i'n gwybod yn iawn na fydd brenin yr Aifft yn gadael i chi fynd, dim hyd yn oed dan bwysau. 20 Felly bydda i'n defnyddio fy nerth i daro'r Aifft gyda gwyrthiau rhyfeddol. Bydd e'n eich gyrru chi allan wedyn! 21 Bydd pobl yr Aifft yn rhoi anrhegion i bobl Israel, felly fyddwch chi ddim yn gadael yn waglaw. 22 Bydd gwraig yn gofyn i'w chymdoges a'r un sy'n lletya gyda hi am bethau arian ac aur, a hefyd am ddillad. Bydd eich meibion a'ch merched yn eu gwisgo nhw. Byddwch yn cymryd y cwbl oddi ar bobl yr Aifft!”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity