Yn ôl

Exodus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

EXODUS 30

Yr Allor i losgi Arogldarth

(Exodus 37:25-28)

1 “Rwyt i wneud allor i losgi arogldarth. Gwna hi allan o goed acasia, 2 yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Mae'r cyrn arni i fod yn un darn gyda'r allor ei hun. 3 Yna gorchuddia hi i gyd gyda haen o aur pur – y top, yr ochrau a'r cyrn. A gosod forder aur o'i chwmpas i'w haddurno. 4 Gosod ddau gylch aur ar ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion drwyddyn nhw i gario'r allor. 5 Mae'r polion i gael eu gwneud o goed acasia, wedi'u gorchuddio gydag aur. 6 Yna gosod yr allor o flaen y llen mae Arch y dystiolaeth tu ôl iddi (y llen o flaen caead yr Arch sydd dros y dystiolaeth). Dyna lle bydda i'n dy gyfarfod di.

7 “Bob bore, pan fydd Aaron yn trin y lampau, rhaid iddo losgi arogldarth persawrus ar yr allor yma. 8 A'r un fath pan fydd e'n goleuo'r lampau ar ôl iddi ddechrau nosi. Mae hyn i ddigwydd yn rheolaidd ar hyd y cenedlaethau. 9 Rhaid peidio llosgi arogldarth gwahanol arni, na'r offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, na'r offrwm o rawn, a rhaid peidio tywallt offrwm o ddiod arni. 10 Ond un waith y flwyddyn bydd Aaron yn puro'r allor, iddi fod yn iawn i'w defnyddio, drwy roi peth o waed yr offrwm dros bechod ar y cyrn. Mae hyn i fod i ddigwydd bob blwyddyn ar hyd y cenedlaethau. Bydd yn cael ei chysegru'n llwyr i'r ARGLWYDD.”

Y Dreth at Wasanaeth y Tabernacl

11 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 12 “Pan fyddi'n cynnal cyfrifiad o bobl Israel, mae pob dyn sy'n cael ei gyfri i dalu iawndal am ei fywyd. Wedyn fydd pla ddim yn eu taro nhw wrth i ti eu cyfrif nhw. 13 Maen nhw i gyd i dalu treth o hanner sicl (sef bron chwe gram o arian) pan maen nhw'n cael eu cyfrif. (Mesur safonol y cysegr sydd i gael ei ddefnyddio – sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.) Mae'r arian yma i'w roi'n offrwm i'r ARGLWYDD. 14 Mae pob un sy'n ugain oed neu'n hŷn i roi offrwm i'r ARGLWYDD. 15 Dydy'r cyfoethog ddim i roi mwy, a'r tlawd ddim i roi llai. Mae pob un i dalu'r hanner sicl yn iawndal am ei fywyd. 16 Rwyt i gasglu'r arian gan bobl Israel a'i roi tuag at gynnal pabell presenoldeb Duw. Bydd yn atgoffa'r ARGLWYDD o bobl Israel, eu bod wedi talu iawndal am eu bywydau.”

Y ddysgl fawr bres

17 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 18 “Rwyt hefyd i wneud dysgl fawr bres gyda stand bres oddi tani. Mae hon ar gyfer ymolchi, i'w gosod rhwng pabell presenoldeb Duw a'r allor, a'i llenwi â dŵr. 19 Bydd Aaron a'i feibion yn golchi eu dwylo a'u traed ynddi. 20 Maen nhw i ymolchi â dŵr pan fyddan nhw'n mynd i mewn i babell presenoldeb Duw, rhag iddyn nhw farw. A hefyd pan fyddan nhw'n mynd at yr allor i losgi offrwm i'r ARGLWYDD. 21 Maen nhw i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddyn nhw farw. Dyma fydd y drefn bob amser, ar hyd y cenedlaethau.”

Yr Olew eneinio

22 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 23 “Cymer y perlysiau gorau – pum cilogram a hanner o fyrr, hanner hynny (sef dau gilogram a thri-chwarter) o sinamon melys, yr un faint o sbeisiau pêr, 24 a phum cilogram a hanner o bowdr casia (a defnyddia fesur safonol y cysegr i bwyso'r rhain). Hefyd pedwar litr o olew olewydd. 25 Mae'r rhain i gael eu defnyddio i wneud olew eneinio cysegredig – cymysgedd persawrus wedi'i wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr. 26 Mae'r olew yma i gael ei ddefnyddio i eneinio pabell presenoldeb Duw, Arch y dystiolaeth, 27 y bwrdd a'i lestri i gyd, y menora (sef y stand i'r lampau) a'i hoffer, allor yr arogldarth, 28 yr allor i losgi'r offrymau a'r offer sy'n mynd gyda hi, a'r ddysgl fawr gyda'i stand. 29 Dyna sut maen nhw i gael eu cysegru, a byddan nhw'n sanctaidd iawn. Bydd unrhyw beth fydd yn eu cyffwrdd yn gysegredig. 30 Rwyt hefyd i eneinio Aaron a'i feibion, a'u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi. 31 Ac rwyt i ddweud wrth bobl Israel, ‘Hwn fydd yr olew eneinio cysegredig ar hyd y cenedlaethau. 32 Dydy e ddim i gael ei ddefnyddio ar bobl gyffredin, a does neb i wneud olew tebyg iddo gyda'r un cynhwysion. Mae'n gysegredig, a rhaid i chi ei drin yn sanctaidd. 33 Os bydd rhywun yn gwneud cymysgedd tebyg iddo, neu yn ei ddefnyddio ar rywun sydd ddim yn offeiriad, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.’”

Yr Arogldarth

34 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Cymer berlysiau, sef gwm resin, onicha a galbanwm, gyda'r un faint o fyrr pur, 35 a'u cymysgu i wneud arogldarth – cymysgedd persawrus wedi'i wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr. Rhaid iddo fod wedi'i falu'n fân, ac yn gymysgedd pur, cysegredig. 36 Mae peth ohono i gael ei falu yn llwch mân, a'i roi o flaen Arch y dystiolaeth tu mewn i babell presenoldeb Duw, lle bydda i'n dy gyfarfod di. Rhaid iddo gael ei drin yn sanctaidd iawn. 37 Does neb i ddefnyddio'r un cynhwysion i wneud arogldarth tebyg iddo. Arogldarth yr ARGLWYDD ydy e, ac mae i gael ei drin yn sanctaidd. 38 Os bydd rhywun yn gwneud cymysgedd tebyg iddo i bwrpas arall, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity