Yn ôl

Exodus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

EXODUS 35

Rheolau'r Saboth

1 Dyma Moses yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd, a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD wedi'i orchymyn i chi ei wneud:

2 “Mae yna chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, yn Saboth i'r ARGLWYDD – diwrnod i chi orffwys. Os ydy rhywun yn gweithio ar y Saboth, y gosb ydy marwolaeth. 3 Peidiwch hyd yn oed cynnau tân yn eich cartrefi ar y Saboth!”

Offrymau i adeiladu'r Tabernacl

(Exodus 25:1-9; 35:10-19; 39:32-43)

4 Wedyn dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel i gyd, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn. 5 ‘Dylai pawb sy'n awyddus i gyfrannu ddod â rhoddion i'r ARGLWYDD: aur, arian, pres, 6 edau las, porffor a coch, lliain main drud, blew gafr, 7 crwyn hyrddod wedi'u llifo'n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia, 8 olew i'r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus, 9 onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest. 10 Mae'r crefftwyr yn eich plith chi i ddod a gwneud popeth mae'r ARGLWYDD wedi'i orchymyn:
  • 11 Y Tabernacl, gyda'r babell a'i gorchudd, y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion a'r socedi.
  • 12 Yr Arch a'i pholion, y caead drosti, a'r sgrîn sy'n ei chuddio.
  • 13 Y bwrdd, gyda'i bolion a'i lestri, i osod y bara cysegredig arno.
  • 14 Y menora sy'n rhoi golau, gyda'i hoffer i gyd, y lampau a'r olew.
  • 15 Allor yr arogldarth gyda'i pholion, yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus.
  • Y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r Tabernacl.
  • 16 Yr allor ar gyfer yr offrymau sydd i'w llosgi, y gratin bres sydd arni, y polion, a'r holl offer sy'n mynd gyda hi.
  • Y ddysgl fawr gyda'i stand.
  • 17 Llenni'r iard, y polion a'r socedi, a'r sgrîn sydd o flaen y fynedfa i'r iard.
  • 18 Pegiau a rhaffau'r Tabernacl a'r iard.
  • 19 Hefyd gwisgoedd y rhai fydd yn gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wedi'u brodio'n hardd), gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion fydd hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid.’”

Rhoddion i'r ARGLWYDD

20 Yna dyma bobl Israel i gyd yn mynd i ffwrdd. 21 Ond daeth rhai, oedd wedi'u sbarduno, ac yn awyddus i gyfrannu, yn ôl a chyflwyno eu rhoddion i'r ARGLWYDD – rhoddion tuag at godi pabell presenoldeb Duw, cynnal y gwasanaeth ynddi, a tuag at y gwisgoedd cysegredig. 22 Dyma pawb oedd yn awyddus i roi yn dod – dynion a merched. A dyma nhw'n cyfrannu tlysau aur o bob math – broetshis, clustdlysau, modrwyau a breichledau. Roedd pawb yn dod ac yn cyflwyno'r aur yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. 23 Roedd eraill yn dod ag edau las, porffor neu goch, lliain main drud, blew gafr, crwyn hyrddod wedi'u llifo'n goch, neu grwyn môr-fuchod. 24 Roedd pawb oedd eisiau rhoi arian neu bres yn ei gyflwyno yn offrwm i'r ARGLWYDD. Roedd eraill yn dod ag unrhyw goed acasia oedd ganddyn nhw. 25 Roedd y gwragedd oedd â dawn nyddu yn dod â'r defnydd roedden nhw wedi'i wneud – edau las, porffor neu goch, neu liain main drud. 26 Roedd gwragedd eraill wedi'u hysgogi i fynd ati i nyddu defnydd wedi'i wneud o flew gafr.

27 Dyma'r arweinwyr yn rhoi cerrig onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fyddai'n mynd dros y frest. 28 Hefyd perlysiau ac olew olewydd ar gyfer y lampau, yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus. 29 Felly, daeth pobl Israel ag offrymau gwirfoddol i'r ARGLWYDD – dynion a merched oedd yn awyddus i helpu i wneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddyn nhw ei wneud drwy Moses.

Betsalel ac Oholiab

(Exodus 31:1-11)

30 Dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel, “Mae'r ARGLWYDD wedi dewis Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda. 31 Mae wedi'i lenwi gydag Ysbryd Duw, sy'n rhoi dawn, deall a gallu iddo, i greu pob math o waith cywrain, 32 a gwneud pethau hardd allan o aur, arian a phres. 33 I dorri a gosod gemwaith, i gerfio coed ac i wneud pob math o waith artistig. 34 Mae Duw wedi rhoi'r ddawn iddo fe, ac i Oholiab fab Achisamach o lwyth Dan, i ddysgu eu crefft i eraill. 35 Mae Duw wedi rhoi'r doniau i'r rhai hynny i weithio fel crefftwyr ac artistiaid, i frodio lliain main gydag edau las, porffor a coch, ac i wneud gwaith gwehydd – pob un yn feistri yn eu crefft ac yn artistiaid.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity