Yn ôl

Exodus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

EXODUS 36

1 “Felly mae Betsalel, Oholiab a'r crefftwyr eraill, sef y rhai mae Duw wedi'u donio i wneud y gwaith o godi'r cysegr, i wneud popeth yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud.”

Trosglwyddo'r rhoddion i'r crefftwyr

2 Dyma Moses yn galw Betsalel ac Oholiab ato, a'r crefftwyr eraill roedd yr ARGLWYDD wedi'u donio – pob un oedd wedi'i sbarduno i wirfoddoli i helpu. 3 A dyma Moses yn rhoi iddyn nhw yr holl roddion roedd pobl Israel wedi'u hoffrymu i'r gwaith o godi'r cysegr.

Ond roedd y bobl yn dod â mwy roddion gwirfoddol iddo bob bore. 4 Felly dyma'r crefftwyr oedd yn gweithio ar y cysegr yn gadael eu gwaith, 5 a dweud wrth Moses, “Mae'r bobl wedi dod â mwy na digon i orffen y gwaith mae'r ARGLWYDD wedi gofyn i ni ei wneud!” 6 Felly dyma Moses yn anfon neges allan drwy'r gwersyll, “Does dim angen mwy o bethau i'w cyflwyno'n rhoddion tuag at adeiladu'r cysegr!” Roedd rhaid stopio'r bobl rhag dod â mwy! 7 Roedd mwy na digon o bethau ganddyn nhw i wneud y gwaith i gyd.

Codi'r Tabernacl

(Exodus 26:1-37)

8 Dyma'r crefftwyr i gyd yn gwneud y Tabernacl o ddeg llen o'r lliain main gorau, gyda lluniau o gerwbiaid wedi'u dylunio'n gelfydd arnyn nhw, a'u brodio gydag edau las, porffor a coch. 9 Roedd pob llen yn un deg dau metr o hyd, a dau fetr o led – i gyd yr un faint. 10 Yna dyma bump o'r llenni yn cael eu gwnïo at ei gilydd, a'r pump arall yr un fath. 11 Wedyn gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set – 12 hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn â'i gilydd. 13 Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn.

14 Wedyn gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl – un deg un ohonyn nhw. 15 Roedd pob llen yn un deg pump metr o hyd, a dau fetr o led – i gyd yr un faint. 16 Yna gwnïo pump o'r llenni at ei gilydd, a gwnïo'r chwech arall at ei gilydd hefyd. 17 Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set, 18 a hanner can bachyn i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn.

19 Wedyn gwneud gorchudd dros y babell wedi'i wneud o grwyn hyrddod wedi'u llifo'n goch. Ac wedyn gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw.

20 Yna cafodd fframiau'r Tabernacl eu gwneud allan o goed acasia, pob un yn sefyll yn unionsyth. 21 Roedd pob un yn bedwar metr o hyd, a 66 centimetr o led, 22 gyda dau denon ar bob un i'w cysylltu â'i gilydd. Roedd y fframiau i gyd wedi'u gwneud yr un fath. 23 Roedd dau ddeg ffrâm ar ochr ddeheuol y Tabernacl, 24 a phedwar deg soced arian i ddal y fframiau – dwy soced i'r ddau denon ar bob ffrâm. 25 Wedyn dau ddeg ffrâm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol, 26 gyda phedwar deg soced i'w dal nhw – dwy soced dan bob ffrâm. 27 Yna chwe ffrâm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol, 28 a dau ffrâm ychwanegol i'r corneli yn y cefn. 29 Yn y corneli roedd y ddau ffrâm yn ffitio gyda'i gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gyda'i gilydd gan gylch ar y top. Roedd y ddwy gornel yr un fath. 30 Felly roedd wyth ffrâm gydag un deg chwech o socedi arian – dwy soced dan bob ffrâm.

31-32 Wedyn gwneud croesfarrau o goed acasia – pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a phump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin. 33 Roedd y croesfar ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i'r llall. 34 Yna gorchuddio'r fframiau gyda haen o aur, a gwneud cylchoedd o aur i ddal y croesfarrau, a gorchuddio'r croesfarrau gydag aur hefyd.

35 Wedyn gwneud llen arbennig o'r lliain main gorau, gyda lluniau o gerwbiaid wedi'u dylunio'n gelfydd arni, a'u brodio gydag edau las, porffor a coch. 36 A gwneud pedwar polyn o goed acasia, wedi'u gorchuddio gydag aur, bachau aur i hongian y llen, a phedwar o socedi arian i osod y polion ynddyn nhw.

37 Yna gwneud sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell. Hon eto wedi'i gwneud o'r lliain main gorau, ac wedi'i brodio gydag edau las, porffor a coch. 38 Yna gwneud pump polyn o goed acasia gyda bachau aur. Gorchuddio top y polion gydag aur, a gwneud socedi o bres iddyn nhw.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity