Yn ôl

Exodus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

EXODUS 37

Gwneud yr Arch

(Exodus 25:10-22)

1 Yna dyma Betsalel yn gwneud yr Arch allan o goed acasia. Roedd hi'n 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder. 2 Gorchuddiodd hi gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno. 3 Yna gwneud pedwar cylch aur, a'u gosod nhw ar draed y gist, dau bob ochr. 4 Yna gwneud polion o goed acasia wedi'u gorchuddio gydag aur, 5 a rhoi'r polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, i'w defnyddio i'w chario hi.

6 Wedyn dyma fe'n gwneud caead o aur pur i'r Arch – 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led. 7 Yna gwneud dau gerwb o aur wedi'i guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i'r caead, 8 yn un darn gyda'r caead ei hun. 9 Roedd adenydd y cerwbiaid ar led ac yn cysgodi caead yr Arch. Roedd y cerwbiaid yn wynebu'i gilydd ac yn edrych i lawr ar y caead.

Bwrdd y bara sydd i'w gyflwyno i Dduw

10 Wedyn dyma fe'n gwneud y bwrdd o goed acasia – 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder. 11 Gorchuddiodd e gydag aur pur, a gosod border aur o'i gwmpas i'w addurno. 12 Yna gwneud croeslath 75 milimetr o drwch o'i gwmpas – hwnnw hefyd wedi'i addurno yr un fath â'r border. 13 Yna gwnaeth bedwar cylch aur, a'u gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau, 14 wrth ymyl y croeslath. Roedd y cylchoedd ar gyfer rhoi'r polion drwyddyn nhw i gario'r bwrdd. 15 Yna gwnaeth y polion o goed acasia a'u gorchuddio nhw gydag aur. 16 Yna gwnaeth y llestri oedd ar y bwrdd allan o aur pur – y platiau, pedyll, jygiau a phowlenni, i dywallt yr offrymau o ddiod.

Gwneud y stand i ddal y lampau – y Menora

(Exodus 25:31-40)

17 Yna dyma fe'n gwneud y menora (sef y stand i ddal y lampau) allan o aur pur – gwaith morthwyl, sef aur wedi'i guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn – y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw. 18 Roedd chwe cangen yn ymestyn allan o ochrau'r menora, tair bob ochr. 19 Roedd tair cwpan siâp blodyn almon ar bob cangen – pob blodyn gyda calycs a phetalau. 20 Ac ar brif goes y menora, roedd pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau. 21 Un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd. 22 Roedd y cwbl wedi'i wneud o un darn o aur pur wedi'i guro – gwaith morthwyl. 23 Yna gwnaeth ei saith lamp, ei gefeiliau a'i phadellau o aur pur. 24 Defnyddiodd 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a'r offer oedd gyda hi i gyd.

Gwneud yr allor i losgi arogldarth

(Exodus 30:1-5)

25 Yna dyma fe'n gwneud yr allor i losgi arogldarth. Gwnaeth hi o goed acasia, yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Roedd y cyrn arni yn un darn gyda'r allor ei hun. 26 Yna gorchuddiodd hi i gyd gyda haen o aur pur – y top, yr ochrau a'r cyrn. A gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno. 27 Rhoddodd ddau gylch aur ar y ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion drwyddyn nhw i gario'r allor. 28 Yna gwnaeth y polion o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gydag aur.

Gwneud yr olew eneinio a'r arogldarth

(Exodus 30:22-38)

29 Wedyn gwnaeth yr olew eneinio cysegredig a'r arogldarth persawrus, cymysgedd gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity