Yn ôl

Exodus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

EXODUS 38

Yr allor i losgi aberthau

(Exodus 27:1-8)

1 Yna dyma fe'n gwneud yr allor i losgi'r aberthau. Gwnaeth hi o goed acasia, yn ddau pwynt dau metr sgwâr, ac yn un pwynt tri metr o uchder. 2 Gwnaeth gyrn ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna ei gorchuddio gyda phres. 3 Pres ddefnyddiodd i wneud yr offer i gyd hefyd – y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a'r padellau tân. 4 Yna gwnaeth y gratin, sef rhwyll wifrog o bres o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr. 5 A gwnaeth bedwar cylch i'w gosod ar bedair cornel y gratin, i roi'r polion drwyddyn nhw. 6 Yna gwnaeth y polion allan o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gyda phres. 7 Yna gwthiodd y polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r allor, i'w chario hi. Roedd yr allor yn wag y tu mewn, wedi'i gwneud gyda planciau o bren.

Gwneud y ddysgl fawr bres

(Exodus 30:18)

8 Yna gwnaeth y ddysgl fawr bres a'i stand bres allan o ddrychau y gwragedd oedd yn gwasanaethu wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw.

Yr iard o gwmpas y Tabernacl

(Exodus 27:9-19)

9 Yna gwnaeth yr iard. Roedd yr ochr ddeheuol yn bedwar deg pedwar metr o hyd, a'r llenni wedi'u gwneud o'r lliain main gorau. 10 Roedd yna ddau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, a bachau ar ffyn arian i ddal y llenni. 11 A'r un fath ar yr ochr ogleddol. 12 Ar ochr y gorllewin, dau ddeg dau metr o lenni, gyda deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres, gyda'r bachau a'r ffyn arian. 13-15 Ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto – chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât. 16 Roedd y llenni o gwmpas yr iard i gyd wedi'u gwneud o'r lliain main gorau. 17 Y socedi yn bres. Y bachau a'r ffyn yn arian. Top y polion wedi'u gorchuddio gydag arian, a rhimyn o arian yn rhedeg o gwmpas y polion.

18 Roedd y sgrîn o flaen y fynedfa yn naw metr o hyd – llenni wedi'u gwneud o'r lliain main gorau ac wedi'u brodio gydag edau las, porffor a coch. Fel llenni'r iard ei hun, roedden nhw'n ddau pwynt dau metr o uchder, 19 ac yn cael eu dal ar bedwar polyn mewn pedwar soced bres. Roedd y bachau a'r ffyn yn arian, ac roedd top y polion wedi'u gorchuddio gydag arian. 20 Roedd pegiau y Tabernacl a'r iard o'i gwmpas wedi'u gwneud o bres.

Y metelau gafodd eu defnyddio

21 Dyma restr lawn o'r hyn gafodd ei ddefnyddio i wneud Tabernacl y Dystiolaeth. Moses oedd wedi gorchymyn cofnodi'r cwbl; a'r Lefiaid, dan arweiniad Ithamar, mab Aaron yr offeiriad, wnaeth y gwaith. 22 Gwnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda, bopeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 23 Ac roedd Oholiab fab Achisamach o lwyth Dan yn ei helpu. Roedd Oholiab yn grefftwr, yn ddyluniwr, ac yn brodio lliain main gydag edau las, porffor a coch.
  • 24 Aur: 1,000 cilogram – dyma'r holl aur gafodd ei ddefnyddio i wneud popeth yn y cysegr (Yr aur oedd wedi'i gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD)
  • 25 Arian: bron 3,500 cilogram – dyma'r arian gafodd ei gyfrannu gan y bobl.
26 Roedd hyn yn hanner sicl (bron yn chwe gram o arian) gan bawb dros ugain oed gafodd ei gyfrif – sef 603,550 o ddynion.

27 Cafodd 3,300 cilogram o'r arian ei ddefnyddio i wneud y socedi i bolion y cysegr, a'r socedi i'r llen arbennig – cant o socedi yn dri deg tri cilogram yr un. 28 Yna defnyddiodd y gweddill o'r arian i wneud y ffyn a'r bachau i ddal y llenni, ac i orchuddio top y polion.
  • 29 Pres: bron 2,500 cilogram – (sef y pres gafodd ei gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD)
30 Cafodd hwn ei ddefnyddio i wneud socedi i'r fynedfa i babell presenoldeb Duw, yr allor bres, y gratin iddi, offer yr allor i gyd, 31 y socedi o gwmpas yr iard, a'r socedi i'r fynedfa i'r iard, a hefyd pegiau y Tabernacl a'r iard o'i gwmpas.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity