Yn ôl

Eseciel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESECIEL 10

Ysblander Duw yn gadael y Deml

1 Yna wrth i mi edrych dyma fi'n gweld, ar y llwyfan uwchben y cerwbiaid, rywbeth oedd yn edrych yn debyg i orsedd wedi'i gwneud o saffir yn dod i'r golwg. 2 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth y dyn mewn gwisg o liain: “Dos rhwng yr olwynion o dan y cerwbiaid, llenwi dy ddwylo gyda'r marwor poeth, a'u taflu nhw dros y ddinas i gyd.”

A dyma fi'n ei weld yn mynd i nôl y marwor. 3 (Roedd y cerwbiaid yn sefyll i gyfeiriad y de o'r deml ar y pryd, ac roedd cwmwl yn llenwi'r iard fewnol.) 4 Dyma ysblander yr ARGLWYDD yn codi oddi ar y cerbyd a'r cerwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. Dyma'r cwmwl yn llenwi'r deml i gyd, ac roedd ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio'n llachar yn yr iard fewnol. 5 Roedd sŵn adenydd y cerwbiaid i'w glywed o'r iard allanol. Roedd fel sŵn y Duw sy'n rheoli popeth yn siarad.

6 Pan ddwedodd yr ARGLWYDD wrth y dyn mewn gwisg o liain, “Cymer beth o'r tân sydd rhwng yr olwynion dan y cerwbiaid,” dyma fe'n mynd a sefyll wrth ymyl un o'r olwynion. 7-8 Roedd gan y cerwbiaid ddwylo a breichiau dynol o dan eu hadenydd. A dyma un o'r cerwbiaid yn estyn ei law at y tân oedd rhyngddyn nhw, ac yn cymryd peth ohono a'i roi yn nwylo'r dyn oedd mewn gwisg o liain. Ar ôl cymryd y tân dyma'r dyn yn mynd allan.

9 Wrth i mi edrych dyma fi'n sylwi ar y pedair olwyn wrth ymyl y cerwbiaid. Roedd un olwyn wrth ymyl pob cerwb, ac roedden nhw'n sgleinio fel meini saffir. 10 Roedd y pedair olwyn yn edrych yn union yr un fath â'i gilydd. Roedd fel petai olwyn arall y tu mewn iddyn nhw ar ongl sgwâr. 11 Pan oedd y cerwbiaid yn symud roedden nhw'n gallu mynd i unrhyw un o'r pedwar cyfeiriad heb orfod troi. Pa gyfeiriad bynnag roedden nhw'n mynd, roedd y wynebau eraill yn eu dilyn, heb orfod troi. 12 Roedd eu cyrff yn gyfan – eu cefnau, eu dwylo a'u hadenydd – wedi'u gorchuddio â llygaid, ac roedd olwynion y pedwar wedi'u gorchuddio â llygaid hefyd. 13 Clywais yr olwynion yn cael eu galw yn ‛olwynion yn chwyrlïo‛.

14 Roedd gan bob un o'r cerwbiaid bedwar wyneb: wyneb tarw, Ref wyneb dynol, wyneb llew ac wyneb eryr. 15 A dyma'r cerwbiaid yn mynd at i fyny. Nhw oedd y creaduriaid byw roeddwn i wedi'u gweld wrth Gamlas Cebar. 16 Pan oedd y cerwbiaid yn symud, roedd yr olwynion wrth eu hymyl nhw'n symud. Pan oedd y cerwbiaid yn lledu eu hadenydd i godi oddi ar y ddaear, roedd yr olwynion yn aros gyda nhw. 17 Pan oedd y cerwbiaid yn stopio neu'n codi, roedd yr olwynion yn stopio a chodi gyda nhw, am fod ysbryd y creaduriaid byw yn yr olwynion.

18 A dyma ysblander yr ARGLWYDD yn symud i ffwrdd o'r deml, ac yn hofran uwchben y cerwbiaid. 19 Ac wrth i mi edrych, dyma'r cerwbiaid yn lledu eu hadenydd ac yn codi oddi ar y ddaear (a'r olwynion gyda nhw). Ond dyma nhw'n stopio wrth y fynedfa i giât ddwyreiniol y deml, gydag ysblander Duw Israel yn hofran uwch eu pennau.

20 Nhw oedd y creaduriaid byw roeddwn i wedi'u gweld o dan Dduw Israel pan oeddwn wrth Gamlas Cebar. Rôn i'n sylweddoli mai cerwbiaid oedden nhw. 21 Roedd gan bob un bedwar wyneb a phedair aden, gyda breichiau a dwylo dynol o dan yr adenydd. 22 Roedd eu hwynebau yn union yr un fath â'r rhai roeddwn i wedi'u gweld wrth Gamlas Cebar. Roedden nhw'n symud yn syth yn eu blaenau.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity