Yn ôl

Eseciel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESECIEL 21

Babilon – Cleddyf Duw

1 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: 2 “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Jerwsalem, a pregethu yn erbyn ei lleoedd cysegredig hi. Proffwyda yn erbyn Israel, 3 a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda chi! Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'r wain a lladd pawb, y da a'r drwg! 4 Ydw, dw i'n mynd i ladd y da a'r drwg. Bydda i'n tynnu fy nghleddyf ac yn taro pawb, o'r de i'r gogledd! 5 Bydd pawb yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai fi sydd wedi tynnu'r cleddyf, a fydd e ddim yn mynd yn ôl i'r wain!’

6 “Felly griddfan di, ddyn! Griddfan yn chwerw o'u blaenau a syrthio ar lawr yn dy ddyblau fel petaet ti mewn poen. 7 Pan fyddan nhw'n gofyn i ti, ‘Beth sy'n bod?’ dywed wrthyn nhw, ‘Mae newyddion dychrynllyd ar ei ffordd. Bydd pawb wedi dychryn am eu bywydau, a ddim yn gwybod beth i'w wneud. Byddan nhw'n teimlo'n gwbl ddiymadferth, ac yn gwlychu eu hunain mewn ofn.’”

8 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: 9 “Ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:

Cleddyf! Cleddyf! Wedi'i hogi a'i sgleinio.

10 Wedi'i hogi i ladd, ac yn fflachio fel mellten.

Pwy sy'n chwerthin nawr?

Mae teyrnwialen Jwda wedi'i gwrthod

a phob ffon debyg iddi!

11 Mae'r cleddyf wedi'i roi i'w sgleinio

a'i ddal yng nghledr y llaw.

Mae wedi'i hogi a'i lanhau

i'w roi yn llaw y lladdwr.

12 “‘Gwaedda, ddyn, galara! Mae'r cleddyf yn dod i daro fy mhobl, ac arweinwyr Israel i gyd! Bydd y galar yn llethol! 13 Ydy, mae'r profi'n dod! Pa obaith sydd pan mae teyrnwialen Jwda wedi'i gwrthod?’ meddai'r ARGLWYDD.

14 “Dw i eisiau i ti broffwydo, ddyn, ac ysgwyd dy ddwrn Ref arnyn nhw. Dywed, ‘Bydd y cleddyf yn taro ddwywaith … na, tair! Cleddyf i ladd! Bydd cleddyf y lladdfa fawr yn dod o bob cyfeiriad! 15 Bydd pawb yn wan gan ddychryn a bydd llawer iawn yn baglu a syrthio.

Mae cleddyf y lladdfa fawr

yn disgwyl wrth y giatiau i gyd.

O! Mae'n fflachio fel mellten

wrth gael ei chwifio i ladd!

16 Ergyd i'r dde, a slaes i'r chwith!

Mae'n taro â'i min ble bynnag y myn.

17 Byddaf finnau'n ysgwyd fy nwrn Ref

a dangos faint dw i wedi gwylltio.

Yr ARGLWYDD ydw i,

a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.’”

Cleddyf brenin Babilon

18 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: 19 “Ddyn, dw i eisiau i ti wneud map a marcio dwy ffordd y gallai cleddyf brenin Babilon ddod. Mae'r ddwy ffordd i ddechrau o'r un lle. Yna, ble maen nhw'n fforchio dw i eisiau i ti godi arwydd ffordd yn pwyntio at y ddinas – 20 Marcia ddwy ffordd i'r cleddyf fynd – un i Rabba, dinas pobl Ammon, a'r llall i Jerwsalem, y gaer yn Jwda. 21 Mae brenin Babilon Ref wedi stopio lle mae'r ffordd yn fforchio, ac yn ansicr pa ffordd i fynd. Mae'n aros i ddewino: mae'n ysgwyd saethau, yn ceisio arweiniad ei eilun-ddelwau teuluol, ac yn archwilio iau anifeiliaid wedi'u haberthu. 22 Mae'n agor ei law dde, a dyna'r arweiniad – i droi am Jerwsalem. Rhaid paratoi hyrddod rhyfel i fwrw'r giatiau, bloeddio'r gorchymyn i ymosod, a chodi rampiau a thyrau gwarchae. 23 Bydd pobl Jerwsalem yn meddwl ei fod wedi gwneud camgymeriad, am eu bod wedi gwneud cytundeb gyda Babilon. Ond mae'n dangos eu bod nhw'n euog, a byddan nhw'n cael eu cymryd yn gaeth.

24 “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi'i gwneud hi'n gwbl amlwg eich bod chi'n euog. Dych chi wedi troseddu, a does gynnoch chi ddim cywilydd o'ch pechod. Mae pawb yn ei weld! Felly byddwch yn cael eich cymryd yn gaeth.

25 “‘A tithau, Sedeceia, dywysog llwgr a drwg Israel – mae dy ddiwrnod wedi dod. Ie, dydd barn! 26 Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Tynna dy goron oddi ar dy ben! Mae pethau'n mynd i newid! Codi'r rhai sy'n ‛neb‛, a thorri crib y balch! 27 Adfeilion! Adfeilion! Bydd y lle'n adfeilion llwyr! Fydd dim yn newid nes i'r un dw i wedi rhoi iddo'r hawl i farnu ddod. Bydda i'n ei rhoi iddo fe.’”

Taro pobl Ammon

28 “Ond yna, ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud am gosb pobl Ammon:

Cleddyf! Cleddyf yn cael ei chwifio i ladd.

Wedi'i sgleinio i ddifa ac yn fflachio fel mellten.

29 Mae gweledigaethau dy broffwydi'n ffug,

a'r arweiniad drwy ddewino yn gelwydd!

Mae'r cleddyf ar yddfau pobl lwgr a drwg.

Ydy, mae eich diwrnod wedi dod. Ie, dydd barn!

30 “‘Fydd y cleddyf ddim yn ôl yn ei wain nes i mi eich barnu chi yn y wlad lle cawsoch eich geni. 31 Dw i'n mynd i dywallt fy llid arnoch chi, a'ch ffrwydro gyda tân fy ffyrnigrwydd. Bydda i'n eich rhoi chi yn nwylo dynion gwyllt sy'n gwybod sut i ddinistrio. 32 Byddwch yn danwydd i'r tân. Bydd eich gwaed wedi'i dywallt ar y tir. Fydd neb yn eich cofio. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!’”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity