Yn ôl

Eseciel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESECIEL 25

Negeseuon am y gwledydd Ref

Ammon

1 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: 2 “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu gwlad Ammon a proffwydo yn eu herbyn nhw. 3 Dwed wrth bobl Ammon, ‘Gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD, i chi. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: “Ha, ha!” meddech chi. Roeddech chi'n chwerthin pan gafodd y deml ei dinistrio, gwlad Israel ei gadael yn anial, a phobl Jwda eu caethgludo. 4 Ond gwyliwch chi'ch hunain! Dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n gaethweision i bobl y dwyrain. Maen nhw'n dod i godi eu pebyll a symud i fyw yn eich plith chi. Byddan nhw'n cymryd eich ffrwythau chi ac yn yfed llaeth eich preiddiau chi. 5 Bydda i'n gwneud Rabba yn dir comin i gamelod bori arno ac Ammon yn gorlan i ddefaid. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

6 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi ysgwyd dwrn Ref a stampio'ch traed ar Israel, a dathlu a gweiddi hwrê yn sbeitlyd pan gafodd y wlad ei dinistrio, 7 dw i'n mynd i'ch taro chi'n galed! Dw i'n mynd i adael i'r cenhedloedd eich cymryd chi. Byddwch chi'n peidio bod yn genedl. Dw i'n mynd i'ch dinistrio chi'n llwyr. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’”

Moab a Seir

8 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae Moab a Seir yn honni fod pobl Jwda ddim gwahanol i neb arall! 9 Felly dyma dw i'n mynd i'w wneud iddyn nhw: dw i'n mynd i agor ffin ddwyreiniol Moab a dinistrio'r trefi hyfryd sydd yno – Beth-ieshimoth, Baal-meon a Ciriathaim. 10 Dw i'n mynd i roi eich tir a'ch pobl yn nwylo'r llwythau o'r dwyrain. Bydd Ammon yn peidio bod yn genedl. 11 A dw i'n mynd i farnu Moab hefyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’”

Edom

12 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae pobl Edom yn euog. Am eu bod wedi dal ati i ddial mor gas ar Jwda, maen nhw'n euog.’ 13 Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro Edom yn galed, a lladd pawb sy'n byw yno, pobl ac anifeiliaid. Bydd y wlad yn anialwch diffaith. Bydd pawb yn cael eu lladd yn y rhyfel, yr holl ffordd o Teman Ref i Dedan yn y de. 14 Bydda i'n defnyddio fy mhobl Israel i ddial ar Edom. Bydd y ffordd fyddan nhw'n delio gydag Edom yn dangos faint dw i wedi gwylltio, a bydd pobl Edom yn gwybod mai fi sy'n dial arnyn nhw, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.’”

Philistia

15 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae'r Philistiaid wedi bod yn gwbl farbaraidd tuag at Jwda. Maen nhw wedi bod mor sbeitlyd tuag at Jwda, a bob amser wedi bod eisiau'i dinistrio hi. 16 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwyliwch chi! Dw i'n mynd i daro'r Philistiaid yn galed. Dw i'n mynd i ladd y Cerethiaid Ref a dinistrio pawb fydd ar ôl ar yr arfordir. 17 Dw i'n mynd i ddial arnyn nhw a'u cosbi nhw'n wyllt. A phan fydda i'n dial, byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity