Yn ôl

Eseciel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESECIEL 26

Tyrus Ref

1 Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, Ref a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD: 2 “Ddyn, dyma mae Tyrus wedi bod yn ei ddweud am Jerwsalem:

‘Hwrê! Mae'r giât i'r ddinas fasnach ryngwladol

wedi'i dryllio!

Bydda i'n cael ei busnes!

Dw i'n mynd i fod yn gyfoethog!

Ydy, mae hi wedi'i dinistrio.’

3 “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch eich hunain! Dw i'n mynd i ddelio gyda chi! O, Tyrus! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod yn dy erbyn di fel tonnau gwyllt y môr. 4 Byddan nhw'n dinistrio dy waliau ac yn bwrw'r tyrau amddiffynnol i lawr.’ Bydda i'n clirio'r rwbel oddi arni ac yn gadael dim ar ôl ond craig noeth. 5 Bydd fel ynys yng nghanol y môr, yn dda i ddim ond i daenu rhwydau pysgota. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. Bydd byddinoedd o wledydd eraill yn concro Tyrus, 6 a bydd y pentrefi yn yr ardal o'i chwmpas yn cael eu dinistrio yn y rhyfel. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

7 “Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch chi! Dw i'n dod â'r brenin Nebwchadnesar, yr un sy'n frenin ar frenhinoedd, i lawr o Babilon yn y gogledd, a bydd yn ymosod ar Tyrus. Bydd ganddo geffylau, cerbydau rhyfel, marchogion a byddin enfawr. 8 Bydd yn dinistrio'r pentrefi gwledig o dy gwmpas di. Wedyn bydd yn codi tyrau gwarchae a rampiau i ymosod arnat ti. Bydd llu o filwyr gyda'u tarianau yn dod yn dy erbyn di! 9 Bydd yn bwrw dy waliau gyda'i hyrddod rhyfel ac yn chwalu dy dyrau amddiffynnol gyda'i arfau haearn. 10 Bydd y llwch fydd yn cael ei godi gan yr holl geffylau rhyfel yn dy orchuddio di! Bydd sŵn y cafalri a'r holl wagenni a cherbydau rhyfel yn ddigon i ysgwyd dy waliau di. Bydd e'n dod i mewn drwy dy giatiau yn fuddugoliaethus ar ôl i'w fyddin dorri drwy'r waliau. 11 Bydd carnau'r ceffylau yn sathru dy strydoedd. Bydd dy bobl yn cael eu lladd â'r cleddyf, a bydd dy golofnau enwog yn cael eu bwrw i lawr. 12 Byddan nhw'n dwyn dy gyfoeth a dy eiddo i gyd. Byddan nhw'n bwrw dy waliau i lawr ac yn dinistrio dy dai gwych. Bydd y cerrig a'r coed a'r rwbel i gyd yn cael ei daflu i'r môr. 13 Bydda i'n rhoi taw ar dy ganeuon di, a fydd neb yn clywed sŵn dy delynau byth eto. 14 Fydd dim ar ôl ond craig noeth. Fyddi di'n ddim byd ond lle i daenu rhwydau pysgota. Gei di byth dy adeiladu eto. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!’

15 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth Tyrus: ‘Bydd yr arfordir cyfan yn crynu pan fyddi di'n syrthio, a sŵn dy bobl wedi'u hanafu yn griddfan wedi'r lladdfa. 16 Bydd llywodraethwyr yr arfordir i gyd yn camu i lawr o'u gorseddau. Byddan nhw'n tynnu eu clogynnau brenhinol a'u dillad hardd. Dychryn fydd yr unig wisg amdanyn nhw. Byddan nhw'n eistedd ar lawr yn crynu drwyddynt o achos beth fydd wedi digwydd i ti. 17 Byddan nhw'n canu'r gân yma o alar ar dy ôl:

O ddinas enwog ar y môr,

rwyt wedi dy ddinistrio!

Ti oedd yn rheoli'r tonnau,

gyda dy bobl yn codi dychryn

ar y ddynoliaeth gyfan.

18 Ond bellach mae'r arfordir yn crynu

ar ddydd dy gwymp.

Mae'r ynysoedd i gyd mewn sioc

am dy fod wedi mynd.’

19 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Bydda i'n dy wneud di yn anialwch diffaith, fel trefi sy'n adfeilion gyda neb yn byw ynddyn nhw. Bydd fel tswnami, a thithau'n cael dy foddi dan donnau gwyllt y môr. 20 Byddi'n cael dy hun yn y Pwll – pwll marwolaeth; yn gorwedd yno gyda phobl sydd wedi marw ers talwm. Byddi'n adfeilion wedi dy gladdu yn nyfnder y ddaear. Fydd neb yn byw ynot ti, a fyddi di byth eto'n cael dy barchu ar dir y byw. 21 Bydd dy ddiwedd yn erchyll. Fydd dim sôn amdanat ti o hynny ymlaen. Bydd pobl yn chwilio amdanat ond yn methu dod o hyd i ti.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity