Yn ôl

Eseciel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESECIEL 31

Torri'r Goeden Gedrwydd

1 Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r trydydd mis. Ref A dyma fi'n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD: 2 “Ddyn, dywed wrth y Pharo, Ref brenin yr Aifft, a'i bobl i gyd:

‘Oes rhywbeth sy'n cymharu â dy fawredd di?

3 Roedd Asyria fel coeden gedrwydd yn Libanus,

a'i changhennau hardd fel cysgod y goedwig.

Roedd yn aruthrol dal, a'i brigau uchaf yn y cymylau.

4 Y dŵr oedd yn gwneud iddi dyfu,

a'r ffynhonnau dwfn yn ei gwneud yn dal.

Roedd nentydd yn llifo o'i chwmpas;

a sianeli dŵr yn dyfrio'r coed i gyd.

5 Ond roedd y goeden hon yn dalach

na'r coed o'i chwmpas i gyd.

Canghennau mawr a brigau hir,

a'i gwreiddiau'n lledu at y dŵr.

6 Roedd yr adar i gyd yn nythu yn ei brigau,

a'r anifeiliaid gwyllt yn geni rhai bach dan ei changhennau.

Roedd y gwledydd mawr i gyd yn byw dan ei chysgod.

7 Roedd yn rhyfeddol o hardd gyda'i changhennau hir,

a'i gwreiddiau'n ymestyn yn ddwfn at ddigonedd o ddŵr.

8 Doedd coed cedrwydd eraill gardd Duw ddim yn cystadlu â hi.

Doedd canghennau'r coed pinwydd ddim byd tebyg;

a'r coed planwydd yn ddim o'u cymharu â hi.

Doedd dim un o goed gardd Duw mor hardd â hon!

9 Fi wnaeth hi'n hardd gyda'i holl ganghennau.

Roedd coed Eden i gyd, gardd Duw, yn genfigennus ohoni.

10 “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am ei bod hi mor falch ohoni ei hun, mor aruthrol dal gyda'i brigau uchaf yn y cymylau, 11 rhois hi yn nwylo arweinydd y cenhedloedd, i'w chosbi am ei drygioni. Dw i wedi'i thaflu hi i ffwrdd. 12 Mae byddin estron y wlad fwya creulon wedi'i thorri i lawr a'i gadael i orwedd ar y mynyddoedd. Mae ei changhennau'n gorwedd ar chwâl yn y dyffrynnoedd a'r ceunentydd. Mae pawb oedd yn cysgodi oddi tani wedi ffoi pan gafodd ei thaflu i ffwrdd. 13 Mae'r adar i gyd yn clwydo ar ei boncyff marw, a'r anifeiliaid gwyllt yn cerdded dros ei changhennau.

14 “‘Digwyddodd hyn i stopio i unrhyw goeden arall dyfu mor dal nes bod ei brigau uchaf yn y cymylau. Byddan nhw i gyd, fel pobl feidrol, yn marw yn nyfnder y ddaear. Byddan nhw'n ymuno gyda phawb arall sydd yn y Pwll.

15 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan aeth Asyria i lawr i'r bedd, roedd y dyfnder yn galaru amdani. Dyma fi'n dal yr afonydd yn ôl oddi wrthi. Gwisgais Libanus mewn du, a gwneud i'r coed eraill i gyd wywo. 16 Roedd y gwledydd i gyd yn crynu pan glywon nhw amdani'n syrthio, pan wnes i ei thaflu i lawr i fyd y meirw gyda phawb arall sydd yn y Pwll. Yn y byd tanddaearol cafodd coed Eden i gyd a'r gorau o goed Libanus, pob un oedd wedi cael digon o ddŵr, eu bodloni. 17 Roedd ei chefnogwyr i gyd (y gwledydd oedd wedi byw dan ei chysgod) wedi mynd i lawr i fyd y meirw gyda hi, i ymuno gyda phawb arall oedd wedi'u lladd â'r cleddyf.

18 “‘Pa un o goed Eden sydd unrhyw beth tebyg i ti? Ond byddi dithau'n cael dy fwrw i lawr i ddyfnder y ddaear gyda choed Eden. Byddi'n byw gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd â'r cleddyf!’ Dyna fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin enfawr,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity