Yn ôl

Eseciel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESECIEL 39

Cwymp Gog

1 “Ddyn, proffwyda yn erbyn Gog, a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti Gog, tywysog Meshech a Twbal! 2 Dw i'n mynd i dy droi di rownd, a dy lusgo di o'r gogledd pell i ymosod ar fynyddoedd Israel. 3 Ond wedyn bydda i'n taro'r bwa o dy law dde a'r saethau o dy law chwith. 4 Byddi di a dy filwyr, a phawb arall sydd gyda ti, yn syrthio'n farw ar fynyddoedd Israel. Byddi'n fwyd i bob math o adar rheibus ac anifeiliaid gwyllt. 5 Byddi'n disgyn yn farw ar dir agored. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. 6 Bydda i'n anfon tân ar Magog a'r bobl sy'n byw ar yr arfordir, ac sy'n teimlo'u bod nhw mor saff. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. 7 Dw i ddim yn mynd i adael i fy enw sanctaidd i gael ei sarhau o hyn allan. A bydd y cenhedloedd yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel.

8 “‘Mae'n dod! Ydy, mae'n mynd i ddigwydd!’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Dyma'r diwrnod soniais i amdano. 9 Bydd y rhai sy'n byw yn y trefi yn Israel yn mynd allan i losgi'r arfau rhyfel i gyd – y tarianau bach a mawr, pob bwa saeth, pastwn rhyfel a gwaywffon – byddan nhw'n dal i'w llosgi am saith mlynedd! 10 Fydd dim angen coed o gefn gwlad na thorri coed o'r fforestydd. Byddan nhw'n llosgi'r arfau. Byddan nhw'n ysbeilio a rheibio'r bobl oedd wedi'u rheibio nhw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

Claddu Gog

11 “‘Bydda i wedi paratoi mynwent anferth yn Israel i Gog a'i filwyr – yn Nyffryn y Teithwyr, i'r dwyrain o'r Môr Marw. Bydd y dyffryn yn cael ei gau i deithwyr, am fod Gog a'i fyddin i gyd wedi'u claddu yno. Byddan nhw'n galw'r dyffryn yn Ddyffryn Hamon-Gog o hynny ymlaen. 12 Bydd yn cymryd saith mis i bobl Israel lanhau y tir o'r cyrff, a'u claddu nhw i gyd. 13 Bydd pawb yn Israel yn gorfod helpu gyda'r gwaith. Bydd y diwrnod y bydda i'n dangos mor wych ydw i yn ddiwrnod mawr i bobl Israel.

14 “‘Ar ddiwedd y saith mis bydd criwiau o ddynion yn cael eu penodi i chwilio drwy'r wlad am unrhyw gyrff sydd wedi'u gadael ar ôl, a'u claddu nhw. Byddan nhw gwneud yn siŵr fod y tir wedi'i lanhau'n gyfan gwbl. 15 Pan fydd un o'r dynion yn dod o hyd i asgwrn dynol byddan nhw'n marcio'r fan gydag arwydd er mwyn i'r rhai sy'n eu claddu ei gymryd i ffwrdd a'i gladdu yn y fynwent dorfol yn Nyffryn Hamon-Gog. 16 (Bydd tref o'r enw Hamonâ Ref yno hefyd.) Byddan nhw'n glanhau'r tir.’

17 “A ti, ddyn, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Galw'r adar a'r anifeiliaid gwyllt at ei gilydd. Dwed wrthyn nhw, “Dewch yma. Dw i wedi paratoi lladdfa – gwledd i chi ar fynyddoedd Israel! Dewch i fwyta eu cnawd ac yfed eu gwaed. 18 Cewch fwyta cyrff milwyr ac yfed gwaed penaethiaid y gwledydd – hyrddod, ŵyn, bychod geifr, teirw, a lloi wedi'u pesgi yn Bashan. 19 Byddwch yn stwffio eich hunain ar fraster, ac yn meddwi ar waed yn y wledd dw i wedi'i pharatoi i chi. 20 Byddwch yn dod at fy mwrdd ac yn gwledda ar gnawd ceffylau a marchogion, arwyr a milwyr o bob math,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

Adfer Israel

21 “‘Bydda i'n dangos fy ysblander i'r cenhedloedd. Bydd y gwledydd i gyd yn fy ngweld i'n eu barnu nhw, ac mor rymus ydw i. 22 O hynny ymlaen, bydd pobl Israel yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw. 23 Bydd y cenhedloedd yn deall fod pobl Israel wedi'u cymryd yn gaeth am bechu drwy fod yn anffyddlon i mi. Felly dyma fi'n troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw ac yn gadael i'w gelynion eu lladd nhw. 24 Dyma nhw'n cael beth roedden nhw'n ei haeddu am wneud pethau mor aflan a gwrthryfela yn fy erbyn i.’

25 “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i adfer sefyllfa pobl Jacob, a dangos trugaredd at bobl Israel. Dw i'n mynd i ddangos fy sêl dros fy enw sanctaidd. 26 Byddan nhw'n teimlo cywilydd go iawn am fod mor anffyddlon i mi, pan fyddan nhw'n byw yn saff yn y wlad a neb yn eu dychryn nhw. 27 Bydda i'n dangos mor wych ydw i drwy beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Bydda i wedi dod â nhw adre o wledydd eu gelynion. 28 Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw. Fi wnaeth eu cymryd nhw'n gaeth i'r cenhedloedd, a fi fydd yn eu casglu nhw'n ôl i'w gwlad eu hunain. Fydda i'n gadael neb ar ôl. 29 Fydda i ddim yn troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw byth eto. Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar bobl Israel.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity