Yn ôl

Eseciel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESECIEL 45

Rhannu'r Tir

Tir yr ARGLWYDD

1 “‘Pan fyddwch chi'n rhannu'r tir rhwng llwythau Israel, rhaid i chi roi cyfran ohono i'r ARGLWYDD – darn o dir wedi'i gysegru'n arbennig. Mae i fod dros wyth milltir o hyd a dros chwe milltir a hanner o led. Bydd yr ardal yna i gyd yn dir cysegredig. 2 (Mae darn o dir 260 metr wrth 260 metr i'w ddefnyddio ar gyfer y Deml, a llain o dir agored gwag o'i gwmpas sy'n 26 metr o led.) 3 Mesurwch ddarn o dir dros wyth milltir o hyd a thair milltir a chwarter o led. Bydd y cysegr a'r Lle Mwyaf Sanctaidd wedi'i osod yn ei ganol. 4 Bydd yn dir wedi'i gysegru'n arbennig. Tir i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yn y cysegr ac sy'n cael mynd yn agos at yr ARGLWYDD i'w wasanaethu e. Dyna ble bydd yr offeiriaid yn byw, a dyna hefyd ble bydd y Deml. 5 Wedyn bydd darn o dir wyth milltir o hyd a thair milltir a chwarter o led ar gyfer pentrefi y Lefiaid sy'n gwasanaethu yn y deml.

6 “‘Wrth ochr y tir cysegredig yna, bydd darn o dir wyth milltir o hyd a dros filltir a hanner o led, lle gall unrhyw un o bobl Israel fyw.

Tir y Pennaeth

7 “‘Wedyn bydd dau ddarn o dir ar gyfer pennaeth y wlad – un i'r gorllewin o'r tir cysegredig, a'r llall i'r dwyrain. Bydd ei ffiniau'n gyfochrog â ffiniau tiroedd y llwythau. 8 Dyna'i diroedd e yn Israel. Fydd arweinwyr y wlad ddim yn gormesu fy mhobl o hyn ymlaen. Byddan nhw'n parchu ffiniau'r tir sydd wedi'i roi i bob un o lwythau Israel.

Rheolau i'r arweinwyr

9 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Chi arweinwyr Israel, stopiwch yr holl drais a'r gormes yma! Gwnewch beth sy'n iawn ac yn deg. Stopiwch daflu pobl allan o'u cartrefi. 10 Defnyddiwch glorian sy'n gywir, a mesurau sych a hylifol cywir. 11 Dylai pob mesur sych a hylifol fod yr un fath, ac yn gywir. Rhaid cael mesur safonol, a rhaid i bob mesur arall fod yn gyson â'r safon hwnnw. Ref 12 A rhaid i werth arian fod yn gywir hefyd. Pum darn arian yn bump go iawn, a deg yn ddeg. Rhaid bod hanner cant o ddarnau arian mewn mina.

13 “‘Dyma'r offrwm sydd i'w gyflwyno: un rhan o chwe deg o'r ŷd a'r haidd; 14 un rhan o gant o'r olew olewydd; 15 ac un ddafad o bob praidd o ddau gant sy'n pori ar dir Israel. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer yr offrwm o rawn, yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw a Duw,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. 16 “Bydd pawb drwy'r wlad i gyd yn gyfrifol i ddod â chyflwyno'r offrymau yma i bennaeth y wlad. 17 Bydd y pennaeth wedyn yn gyfrifol am yr offrymau i'w llosgi, yr offrymau o rawn a'r offrymau o ddiod ar gyfer y Gwyliau, yr offrymau misolCroes a'r Sabothau – pob un o wyliau crefyddol Israel. Fe fydd yn cyflwyno'r aberthau dros bechod, yr offrymau o rawn, yr offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, er mwyn gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw.

Y Gwyliau

(Exodus 12:1-20; Lefiticus 23:33-43)

18 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn Ref Croes rhaid aberthu tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno i wneud y cysegr yn lân. 19 Bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr offrwm i lanhau o bechod a'i roi ar gilbyst drws y deml, ar bedair cornel sil yr allor ac ar byst y giât i'r iard fewnol. 20 Rhaid gwneud yr un peth ar y seithfed o'r mis, ar ran unrhyw un sydd wedi pechu'n ddamweiniol neu heb wybod am y peth. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud y deml yn lân.

21 “‘Mae Gŵyl y Pasg i'w dathlu ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf, a rhaid bwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod. 22 Ar y diwrnod hwnnw mae pennaeth y wlad i ddarparu tarw ifanc yn offrwm i lanhau o bechod ar ei ran ei hun a'r bobl. 23 Yna am saith diwrnod yr Ŵyl mae i gyflwyno anifeiliaid yn offrwm i gael eu llosgi'n llwyr i'r ARGLWYDD: saith tarw ifanc a saith hwrdd bob dydd, pob un yn anifail â dim byd o'i le arno. Hefyd un bwch gafr bob dydd yn offrwm i lanhau o bechod. 24 Bydd e hefyd yn rhoi deg cilogram o rawn a phedwar litr o olew olewydd gyda phob tarw a phob hwrdd. 25 A bydd yn darparu'r un offrymau ar saith diwrnod Gŵyl y Pebyll sy'n dechrau ar y pymthegfed diwrnod o'r seithfed mis Ref – sef yr offrwm i lanhau o bechod, yr offrymau i'w llosgi, yr offrwm o rawn a'r olew olewydd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity