Yn ôl

Eseciel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESECIEL 48

Rhannu'r tir rhwng y llwythau

1 “Dyma enwau llwythau Israel, a'r tir mae pob un i'w dderbyn: Bydd Dan reit yn y gogledd, wrth ymyl ffordd Chethlon i Fwlch Chamath, cyn belled â Chatsar-einan ar y ffin gyda Damascus a Chamath i'r gogledd. Bydd tir Dan yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin. 2 Wedyn y nesaf i lawr, yn ffinio gyda Dan, ac eto'n ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin, bydd Asher. 3 Wedyn Nafftali, i'r de o Asher. 4 Wedyn Manasse. 5 Wedyn Effraim. 6 Wedyn Reuben. 7 Ac wedyn Jwda. Pob un ohonyn nhw yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.

Y tir cysegredig yn y canol

8 “Yna'n ffinio gyda Jwda bydd y tir cysegredig sy'n wyth milltir o led, a'r un hyd â thiroedd y llwythau o'r dwyrain i'r gorllewin; a bydd y cysegr yn ei ganol. 9 Bydd y tir sydd wedi'i gysegru a'i neilltuo i'r ARGLWYDD yn wyth milltir o hyd, a thair milltir a chwarter o led. 10 Bydd y tir yma sydd wedi'i gysegru yn cael ei rannu rhwng yr offeiriaid – wyth milltir o'r gogledd i'r de, a thair milltir a hanner o'r dwyrain i'r gorllewin. A bydd cysegr yr ARGLWYDD yn ei ganol. 11 Hwn fydd y tir i'r offeiriaid, sef disgynyddion Sadoc wnaeth ddal ati i wneud eu gwaith heb grwydro i ffwrdd fel y gwnaeth gweddill pobl Israel a'r Lefiaid. 12 Eu darn arbennig nhw o'r tir fydd e; y tir mwyaf cysegredig o'r cwbl, gyda thir y Lefiaid eraill drws nesa iddyn nhw.

13 “Bydd tir y Lefiaid hefyd yn wyth milltir o hyd a thair milltir a chwarter o led. Bydd y cwbl gyda'i gilydd yn wyth milltir o hyd a chwe milltir a hanner o led. 14 Dydy'r tir arbennig yma byth i gael ei werthu na'i gyfnewid, na'i ddefnyddio gan unrhyw un arall. Mae wedi'i gysegru a'i neilltuo'n arbennig i'r ARGLWYDD.

15 “Bydd y gweddill – milltir a hanner o led ac wyth milltir o hyd – yn dir cyhoeddus i adeiladu tai arno neu ei gadw'n dir agored. Ond bydd y ddinas yn ei ganol. 16 Bydd y ddinas yn mesur milltir a hanner bob ffordd. 17 A bydd tir agored rhyw gant tri deg metr o led o gwmpas y ddinas i gyd. 18 Bydd gweddill y tir, sydd bob ochr i'r tir cysegredig yn dir amaeth, i dyfu bwyd ar gyfer y bobl sy'n gweithio yn y ddinas. Tair milltir a hanner ar yr ochr ddwyreiniol, a thair milltir a hanner i'r gorllewin. 19 Bydd y tir yma'n cael ei ffermio gan bobl o'r gwahanol lwythau sydd wedi dod i weithio yn y ddinas. 20 Bydd y darn tir i gyd (y tiroedd cysegredig a thiroedd y ddinas gyda'i gilydd) yn wyth milltir i bob cyfeiriad.

21 “Pennaeth y wlad fydd piau'r gweddill (sef beth sydd ar ôl bob ochr i'r tir cysegredig a thir amaeth y ddinas). Bydd yn ymestyn o ymylon yr wyth milltir o dir cysegredig, yr holl ffordd i'r ffin ddwyreiniol un ochr ac i Fôr y Canoldir yr ochr arall. A bydd y tir cysegredig a'r deml ei hun yn y canol. 22 Bydd tir y Lefiaid yn y canol hefyd, a thir amaeth y ddinas, gyda thir pennaeth y wlad bob ochr iddo. Bydd tir y pennaeth yn ymestyn o ffin Jwda i ffin Benjamin.

Tir y llwythau eraill

23 “Wedyn tiroedd gweddill y llwythau: Tir Benjamin nesaf, yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin. 24 Wedyn tir Simeon. 25 Wedyn Issachar. 26 Wedyn Sabulon. 27 Ac yn olaf Gad. 28 A bydd tir Gad yn dilyn y ffin ddeheuol, ar draws o Tamar at Ffynnon Meriba yn Cadesh, ar hyd Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir. 29 Dyma'r tir sydd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

Giatiau Jerwsalem

30 Dyma ddisgrifiad o'r ddinas o'r tu allan: Ar yr ochr ogleddol, sydd filltir a hanner o hyd, 31 bydd tair giât wedi'u henwi ar ôl llwythau Israel – giât Reuben, giât Jwda, a giât Lefi. 32 Ar yr ochr ddwyreiniol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Joseff, giât Benjamin, a giât Dan. 33 Ar yr ochr ddeheuol, sydd filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Simeon, giât Issachar, a giât Sabulon. 34 Ac ar yr ochr orllewinol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Gad, giât Asher, a giât Nafftali. 35 Mae'r ddinas yn mesur chwe milltir o'i chwmpas i gyd, ac enw'r ddinas o hynny ymlaen fydd Iahwe-Shamma: “Mae'r ARGLWYDD yna.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity