Yn ôl

Eseciel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESECIEL 9

Lladd Addolwyr Eilunod

1 Wedyn dyma fi'n clywed Duw yn gweiddi'n uchel, “Dewch yma, chi sy'n mynd i ddinistrio'r ddinas! Dewch gyda'ch arfau i wneud eich gwaith!”

2 Gwelais chwe dyn yn dod o gyfeiriad y giât uchaf sy'n wynebu'r gogledd. Roedd gan bob un arf, sef pastwn, yn ei law. Roedd dyn arall gyda nhw, mewn gwisg o liain, ac roedd ganddo offer ysgrifennu wedi'i strapio am ei ganol. Dyma nhw'n dod i'r deml, a sefyll wrth ymyl yr allor bres.

3 Dyma ysblander Duw Israel yn codi oddi ar y cerbyd a'r cerwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. A dyma'r ARGLWYDD yn galw ar y dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario'r offer ysgrifennu, 4 a dweud wrtho: “Dos o gwmpas dinas Jerwsalem, a rho farc Ref ar dalcen pawb sy'n galaru'n drist am yr holl bethau ffiaidd sy'n digwydd yma.”

5 Wedyn clywais e'n dweud wrth y lleill: “Ewch o gwmpas y ddinas ar ei ôl a lladd pawb sydd heb eu marcio. Does neb i ddianc! Byddwch yn hollol ddidrugaredd! 6 Lladdwch nhw i gyd – yr hen a'r ifanc, gwragedd a phlant! Ond peidiwch cyffwrdd unrhyw un sydd â marc ar ei dalcen. Dechreuwch yma yn y deml.”

Felly dyma nhw'n dechrau gyda'r arweinwyr oedd yn sefyll o flaen y deml. 7 “Gwnewch y deml yn lle sydd wedi'i lygru, gyda chyrff marw ar lawr ym mhobman! Wedyn ewch allan a lladd pobl drwy'r ddinas i gyd.”

8 Pan aethon nhw allan i'r ddinas ces fy ngadael yn sefyll yno ar fy mhen fy hun. A dyma fi'n mynd ar fy wyneb ar lawr, a gweddïo'n uchel ar Dduw, “O, na! ARGLWYDD, Feistr. Wyt ti'n mynd i ladd pawb sydd ar ôl yn Israel drwy dywallt dy lid ar Jerwsalem fel yma?” 9 A dyma fe'n ateb, “Mae pobl Israel a Jwda wedi pechu yn ofnadwy yn fy erbyn i. Mae cymaint o dywallt gwaed drwy'r wlad, ac anghyfiawnder yn y ddinas. Ac mae pobl yn dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD wedi troi cefn ar y wlad. Dydy e ddim yn gweld beth bynnag!’Croes 10 Felly, dw i ddim yn teimlo'n sori drostyn nhw o gwbl. Fydd yna ddim trugaredd! Dw i'n mynd i dalu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi'i wneud!”

11 Wedyn, dyma'r dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario offer ysgrifennu yn cyrraedd yn ôl, a dweud, “Dw i wedi gwneud beth ddwedaist ti.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity