Yn ôl

Esra

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

ESRA 2

Rhestr o'r bobl ddaeth yn ôl

(Nehemeia 7:4-73)

1 Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw. 2 Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Seraia, Reëlaia, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Rechwm a Baana. Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl:
  • 3 Teulu Parosh: 2,172
  • 4 Teulu Sheffateia: 372
  • 5 Teulu Arach: 775
  • 6 Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,812
  • 7 Teulu Elam: 1,254
  • 8 Teulu Sattw: 945
  • 9 Teulu Saccai: 760
  • 10 Teulu Bani: 642
  • 11 Teulu Bebai: 623
  • 12 Teulu Asgad: 1,222
  • 13 Teulu Adonicam: 666
  • 14 Teulu Bigfai: 2,056
  • 15 Teulu Adin: 454
  • 16 Teulu Ater (sef disgynyddion Heseceia): 98
  • 17 Teulu Betsai: 323
  • 18 Teulu Iora: 112
  • 19 Teulu Chashŵm: 223
  • 20 Teulu Gibbar: 95
  • 21 Dynion Bethlehem: 123
  • 22 Dynion Netoffa: 56
  • 23 Dynion Anathoth: 128
  • 24 Dynion Asmafeth: 42
  • 25 Dynion Ciriath-iearîm, Ceffira a Beëroth: 743
  • 26 Dynion Rama a Geba: 621
  • 27 Dynion Michmas: 122
  • 28 Dynion Bethel ac Ai: 223
  • 29 Pobl Nebo: 52
  • 30 Pobl Magbish: 156
  • 31 Pobl yr Elam arall: 1,254
  • 32 Pobl Charîm: 320
  • 33 Pobl Lod, Hadid ac Ono: 725
  • 34 Pobl Jericho: 345
  • 35 Pobl Senaâ: 3,630

36 Yr offeiriaid:
  • Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973
  • 37 Teulu Immer: 1,052
  • 38 Teulu Pashchwr: 1,247
  • 39 Teulu Charîm: 1,017

40 Y Lefiaid:
  • Teulu Ieshŵa a Cadmiel (o deulu Hodafiâ): 74

41 Y cantorion:
  • Teulu Asaff: 128

42 Gofalwyr y giatiau:
  • Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 139

43 Gweision y deml:
  • Teulu Sicha
  • Teulu Chaswffa
  • Teulu Tabbaoth
  • 44 Teulu Ceros
  • Teulu Sïaha
  • Teulu Padon
  • 45 Teulu Lebana
  • Teulu Hagaba
  • Teulu Accwf
  • 46 Teulu Hagab
  • Teulu Shalmai
  • Teulu Chanan
  • 47 Teulu Gidel
  • Teulu Gachâr
  • Teulu Reaia
  • 48 Teulu Resin
  • Teulu Necoda
  • Teulu Gassam
  • 49 Teulu Wssa
  • Teulu Paseach
  • Teulu Besai
  • 50 Teulu Asna
  • Teulu Mewnîm
  • Teulu Neffwsîm
  • 51 Teulu Bacbwc
  • Teulu Chacwffa
  • Teulu Charchwr
  • 52 Teulu Batslwth
  • Teulu Mechida
  • Teulu Charsha
  • 53 Teulu Barcos
  • Teulu Sisera
  • Teulu Temach
  • 54 Teulu Netsïach
  • Teulu Chatiffa.

55 Teuluoedd gweision Solomon:
  • Teulu Sotai
  • Teulu Hassoffereth
  • Teulu Perwda
  • 56 Teulu Jala
  • Teulu Darcon
  • Teulu Gidel
  • 57 Teulu Sheffateia
  • Teulu Chattil
  • Teulu Pochereth-hatsbaîm
  • Teulu Ami

58 Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392

59 Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer hefyd (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):
  • 60 Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652

61 Wedyn teuluoedd yr offeiriaid, sef teuluoedd Hafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).

62 Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau ac wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid. 63 Dwedodd y llywodraethwr Ref nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi'i gysegru nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim.Croes

64 Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360, 65 (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw. Roedd yna 200 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd). 66 Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 67 435 o gamelod a 6,720 o asynnod.

68 Pan gyrhaeddon nhw deml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, dyma rhai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu'n hael tuag at ailadeiladu teml Dduw ar ei safle wreiddiol. 69 Rhoddodd pob un gymaint ag y gallen nhw ei fforddio tuag at y gwaith: tua 500 cilogram o aur, Ref 2,800 cilogram arian, Ref a 100 o wisgoedd i'r offeiriaid.

70 Felly dyma'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i'w trefi hwythau hefyd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity