Yn ôl

Galatiaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GALATIAID 6

Helpu pobl eraill

1 Frodyr a chwiorydd, os ydy rhywun yn cael ei ddal yn pechu, dylech chi sy'n cael eich arwain gan yr Ysbryd fod yn garedig ato, a'i helpu i droi'n ôl – ond gwyliwch rhag i chithau gael eich temtio i wneud yr un peth. 2 Helpwch eich gilydd pan mae pethau'n galed – dyna mae ‛cyfraith‛ y Meseia yn ei ofyn. 3 Os dych chi'n meddwl eich bod chi'n rhywun, dych chi'n twyllo'ch hunain – dych chi'n neb mewn gwirionedd. 4 Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi'i wneud heb orfod cymharu'ch hunain â phobl eraill o hyd. 5 Dŷn ni'n gyfrifol am beth dŷn ni'n hunain wedi'i wneud.

6 Dylai'r rhai sy'n cael eu dysgu am neges Duw dalu i'w hathro drwy rannu beth sydd ganddyn nhw gydag e.

7 Peidiwch twyllo'ch hunain: Allwch chi ddim chwarae gemau gyda Duw. Mae pobl yn medi beth maen nhw'n ei hau. 8 Bydd y rhai sy'n byw i foddhau eu chwantau pechadurus yn medi canlyniadau hynny, sef dinistr; ond bydd y rhai sy'n byw i blesio'r Ysbryd yn medi bywyd tragwyddol o'r Ysbryd. 9 Felly dylen ni byth flino gwneud daioni. Os gwnawn ni ddal ati daw'r amser pan fyddwn ni'n medi cynhaeaf o fendith. 10 Felly bob cyfle gawn ni, gadewch i ni wneud daioni i bawb, ac yn arbennig i'r teulu o gredinwyr.

Dim y ddefod o enwaediad ond creadigaeth newydd

11 Edrychwch mor fawr ydy fy llawysgrifen i!

12 Mae'r rhai sy'n ceisio eich gorfodi chi i gael eich enwaedu yn gwneud sioe o beth sydd wedi'i wneud i'r corff. A pham? Am eu bod nhw eisiau osgoi cael eu herlid am ddweud mai dim ond croes y Meseia sy'n achub. 13 Ond dydy'r rhai sydd wedi'u henwaedu ddim yn gwneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud beth bynnag! Y rheswm pam maen nhw eisiau i chi fynd drwy'r ddefod o gael eich enwaedu ydy er mwyn iddyn nhw gael brolio am y peth! 14 “Na!” meddwn innau. Does ond un peth i frolio amdano: croes ein Harglwydd Iesu Grist ydy hwnnw. Mae'r groes yn golygu fod y byd a'i bethau yn hollol farw i mi, a dw innau'n farw i'r byd a'i bethau. 15 Dim cael eich enwaedu neu beidio sy'n bwysig bellach. Beth sy'n bwysig ydy bod eich bywyd chi wedi'i newid yn llwyr – eich bod chi'n greadigaeth newydd! 16 Dw i'n gweddïo y bydd pawb sy'n byw fel hyn, a phobl Dduw i gyd, yn profi ei heddwch dwfn a'i drugaredd!

17 Felly o hyn ymlaen, peidied neb â dal ati i greu mwy o helynt i mi. Mae gen i greithiau ar fy nghorff sy'n dangos mod i'n perthyn i Iesu!

18 Frodyr a chwiorydd, dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity