Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 1

Hanes Creu y Byd

1 Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a'r ddaear. 2 Roedd y ddaear yn anhrefn gwag, ac roedd hi'n hollol dywyll dros y dŵr dwfn. Ond roedd Ysbryd Duw yn hofran dros wyneb y dŵr. 3 A dwedodd Duw, “Dw i eisiau golau!” a daeth golau i fod. 4 Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, a dyma Duw yn gwahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch. 5 Rhoddodd Duw yr enw ‛dydd‛ i'r golau a'r enw ‛nos‛ i'r tywyllwch, ac roedd nos a dydd ar y diwrnod cyntaf.

6 Wedyn dwedodd Duw, “Dw i eisiau cromen o aer rhwng y dyfroedd, i wahanu'r dŵr yn ddau.” 7 A dyna ddigwyddodd. Gwnaeth Duw gromen o aer, ac roedd yn gwahanu'r dŵr oddi tani oddi wrth y dŵr uwch ei phen. 8 Rhoddodd Duw yr enw ‛awyr‛ iddi, ac roedd nos a dydd ar yr ail ddiwrnod.

9 Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i'r dŵr sydd dan yr awyr gasglu i un lle, er mwyn i ddaear sych ddod i'r golwg.” A dyna ddigwyddodd. 10 Rhoddodd Duw yr enw ‛tir‛ i'r ddaear, a ‛moroedd‛ i'r dŵr. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.

11 Yna dwedodd Duw, “Dw i eisiau i laswellt dyfu o'r tir, a phob math o blanhigion sydd â hadau ynddyn nhw, a choed ffrwythau. Bydd yr hadau ynddyn nhw yn gwneud i fwy a mwy o'r planhigion gwahanol hynny dyfu.” A dyna ddigwyddodd. 12 Roedd y tir wedi'i orchuddio â glaswellt a phlanhigion a choed o bob math, a'u hadau eu hunain ynddyn nhw. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, 13 ac roedd nos a dydd ar y trydydd diwrnod.

14 Dwedodd Duw, “Dw i eisiau goleuadau yn yr awyr i wahanu'r dydd a'r nos. Byddan nhw hefyd yn arwyddion i fesur y tymhorau, y dyddiau a'r blynyddoedd. 15 Byddan nhw'n goleuo'r ddaear o'r awyr.” A dyna ddigwyddodd. 16 Gwnaeth Duw ddau olau mawr – yr haul a'r lleuad. Roedd yr un mwya disglair, sef yr haul, i reoli'r dydd, a'r golau lleia, sef y lleuad, i reoli'r nos. Gwnaeth Duw y sêr hefyd. 17 Gosododd nhw i gyd yn yr awyr i oleuo'r ddaear, 18 i reoli dydd a nos, ac i wahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda, 19 ac roedd nos a dydd ar y pedwerydd diwrnod.

20 Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i'r dyfroedd fod yn orlawn o bysgod a chreaduriaid byw eraill, a dw i eisiau i adar hedfan yn ôl ac ymlaen yn yr awyr uwchben y ddaear.” 21 Felly dyma Duw yn creu y creaduriaid enfawr sydd yn y môr, a'r holl bethau byw eraill sydd ynddo, a'r holl wahanol fathau o adar hefyd. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda. 22 A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud, “Dw i eisiau i chi gael haid o rai bach, nes eich bod chi'n llenwi'r dŵr sydd yn y môr, a dw i eisiau llawer o adar ar y ddaear.” 23 Ac roedd nos a dydd ar y pumed diwrnod.

24 Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i greaduriaid byw o bob math lenwi'r ddaear: anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, a bywyd gwyllt o bob math.” A dyna ddigwyddodd. 25 Gwnaeth Duw bob math o greaduriaid gwyllt, pob math o anifeiliaid, ac ymlusgiaid a phryfed gwahanol i fyw ar y ddaear. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.

26 Yna dwedodd Duw, “Gadewch i ni wneud pobl yn ddelw ohonon ni'n hunain, i fod yn debyg i ni; i fod yn feistri sy'n gofalu am bopeth – y pysgod yn y môr, yr adar yn yr awyr, yr anifeiliaid, y ddaear gyfan a'r holl greaduriaid a phryfed sy'n byw arni.”

27 Felly dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun.

Yn ddelw ohono'i hun y creodd nhw.

Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw.

28 A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw, “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr i ofalu am y pysgod sydd yn y môr, yr adar sy'n hedfan yn yr awyr, a'r holl greaduriaid sy'n byw ar y ddaear.” 29 Dwedodd Duw, “Edrychwch. Dw i wedi rhoi'r planhigion sydd â hadau a'r ffrwythau ar y coed i gyd, i fod yn fwyd i chi. 30 A dw i wedi rhoi'r holl blanhigion yn fwyd i'r bywyd gwyllt a'r adar a'r holl greaduriaid bach eraill sydd ar y ddaear – ie, pob un creadur byw.” A dyna ddigwyddodd. 31 Edrychodd Duw ar bopeth roedd wedi'i wneud, a gweld fod y cwbl yn dda iawn. Ac roedd nos a dydd ar y chweched diwrnod.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity