Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 13

Abram a Lot yn gwahanu

1 Felly dyma Abram yn gadael yr Aifft, gyda'i wraig a phopeth oedd ganddo a Lot. Aethon nhw yn ôl i'r Negef yn ne Canaan. 2 Roedd Abram yn gyfoethog iawn – roedd ganddo lawer iawn o anifeiliaid ac arian ac aur. 3 Teithiodd yn ei flaen bob yn dipyn drwy'r Negef ac yn ôl i fyny i Bethel. Aeth i'r man lle roedd wedi gwersylla gyntaf, rhwng Bethel ac Ai. 4 Dyna ble roedd wedi codi allor bryd hynny; ac addolodd yr ARGLWYDD yno eto.

5 Roedd gan Lot, oedd yn teithio gydag Abram, ddefaid a gwartheg a phebyll hefyd. 6 Doedd dim digon o borfa a dŵr iddyn nhw fyw gyda'i gilydd, am fod gan y ddau gymaint o anifeiliaid. 7 Ac roedd gweision Abram a gweision Lot yn cweryla drwy'r adeg. (Y Canaaneaid a'r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.)

8 Felly dyma Abram yn dweud wrth Lot, “Da ti, gad i ni a'n gweision beidio ffraeo! Dŷn ni'n perthyn i'r un teulu! 9 Edrych, mae'r wlad i gyd o dy flaen di. Beth am i ni wahanu? Dewis di ble wyt ti am fynd i fyw, a gwna i fynd i'r cyfeiriad arall.” 10 Edrychodd Lot o'i gwmpas, a gwelodd fod dyffryn Iorddonen i fyny at Soar yn dir da gyda digon o ddŵr. Roedd yn ffrwythlon fel gardd yr ARGLWYDD yn Eden, neu wlad yr Aifft. (Roedd hyn cyn i'r ARGLWYDD ddinistrio trefi Sodom a Gomorra.) 11 Felly dyma Lot yn dewis dyffryn Iorddonen, a mynd i gyfeiriad y dwyrain. A dyma'r teulu'n gwahanu. 12 Setlodd Abram yng ngwlad Canaan, ac aeth Lot i fyw wrth y trefi yn y dyffryn, a gwersylla wrth ymyl Sodom.

13 Roedd pobl Sodom yn ddrwg iawn, ac yn pechu'n fawr yn erbyn yr ARGLWYDD.

Abram yn symud i Hebron

14 Ar ôl i Lot ei adael, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Edrych o dy gwmpas i bob cyfeiriad. 15 Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion, am byth. 16 Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion fydd dim posib eu cyfri nhw. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear! 17 Dos i deithio o gwmpas y wlad. Bydda i'n rhoi'r cwbl i ti.”

18 Felly dyma Abram yn mynd, ac yn setlo i lawr wrth goed derw Mamre, oedd yn fan addoli yn Hebron. A dyma fe'n codi allor i'r ARGLWYDD yno.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity