Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 16

Ishmael yn cael ei eni

1 Doedd Sarai, gwraig Abram, ddim yn gallu cael plant. Ond roedd ganddi forwyn o'r enw Hagar, o wlad yr Aifft. 2 A dyma Sarai yn dweud wrth Abram, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi gadael i mi gael plant, felly dw i am i ti gysgu gyda fy morwyn i. Falle y ca i blant drwyddi hi.” A dyma Abram yn gwneud beth ddwedodd Sarai wrtho. 3 Felly dyma Sarai, gwraig Abram, yn rhoi Hagar, ei morwyn Eifftaidd, yn wraig i Abram. Roedd hyn ddeg mlynedd ar ôl i Abram symud i fyw i Canaan.

4 Ar ôl i Abram gysgu gyda Hagar dyma hi'n beichiogi. Pan sylweddolodd hi ei bod hi'n disgwyl babi dechreuodd Hagar edrych i lawr ar ei meistres. 5 Dyma Sarai'n dweud wrth Abram, “Arnat ti mae'r bai mod i'n cael fy ngham-drin fel yma! Gwnes i adael i ti gysgu gyda hi, ond pan welodd hi ei bod hi'n disgwyl babi dyma hi'n dechrau edrych i lawr arna i. Boed i'r ARGLWYDD ddangos pwy sydd ar fai!” 6 Ond atebodd Abram, “Gan mai dy forwyn di ydy hi, gwna di beth wyt ti eisiau gyda hi.” Felly dyma Sarai yn dechrau ei cham-drin hi, a dyma Hagar yn rhedeg i ffwrdd.

7 Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd iddi wrth ymyl ffynnon yn yr anialwch, sef y ffynnon sydd ar y ffordd i Shwr. 8 “Hagar, forwyn Sarai,” meddai wrthi, “o ble wyt ti wedi dod? I ble ti'n mynd?” A dyma Hagar yn ateb, “Dw i wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth Sarai, fy meistres.” 9 Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrthi, “Dos adre at dy feistres, a bydd yn ufudd iddi.” 10 Wedyn aeth ymlaen i ddweud, “Fydd hi ddim yn bosib cyfri dy ddisgynyddion di; bydd cymaint ohonyn nhw.” 11 A dyma'r angel yn dweud wrthi:

“Ti'n feichiog, ac yn mynd i gael mab.

Rwyt i roi'r enw Ishmael Ref iddo,

’

am fod yr ARGLWYDD wedi gweld beth wyt ti wedi'i ddiodde.

12 Ond bydd dy fab yn ymddwyn fel asyn gwyllt.

Bydd yn erbyn pawb, a bydd pawb yn ei erbyn e.

Bydd hyd yn oed yn tynnu'n groes i'w deulu ei hun.”

13 Dyma Hagar yn galw'r ARGLWYDD oedd wedi siarad â hi yn El-roi (sef ‛y Duw sy'n edrych arna i‛). “Ydw i wir wedi gweld y Duw sy'n edrych ar fy ôl i?” meddai. (0v 14 A dyna pam y cafodd y ffynnon ei galw yn Beër-lachai-roi. Ref Mae hi rhwng Cadesh a Bered.) ’

15 Cafodd Hagar ei babi – mab i Abram. A dyma Abram yn ei alw yn Ishmael. 16 (Roedd Abram yn 86 oed pan gafodd Ishmael ei eni.)

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity