Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 18

Duw yn addo mab i Abraham a Sara

1 Dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos i Abraham wrth goed derw Mamre. Roedd yr haul yn boeth ganol dydd, ac roedd yn eistedd wrth y fynedfa i'w babell. 2 Gwelodd dri dyn yn sefyll gyferbyn ag e. Rhedodd draw atyn nhw ac ymgrymu yn isel o'u blaenau. 3 “Fy meistr,” meddai, “Plîs peidiwch â mynd. Byddai'n fraint i'ch gwahodd chi i aros yma am ychydig. 4 Cewch ddŵr i olchi eich traed, a chyfle i orffwys dan y goeden yma. 5 Af i nôl ychydig o fwyd i'ch cadw chi i fynd. Cewch fynd ymlaen ar eich taith wedyn. Mae'n bleser gen i eich bod wedi dod heibio cartre'ch gwas.” A dyma nhw'n ateb, “Iawn, gwna di hynny.”

6 Brysiodd Abraham i mewn i'r babell at Sara, a dweud, “Brysia, cymer sachaid Ref o flawd mân i wneud bara.” 7 Wedyn dyma Abraham yn rhuthro allan at y gwartheg, ac yn dewis llo ifanc. Rhoddodd y llo i'w was i'w baratoi ar frys. 8 Pan oedd y bwyd yn barod, cymerodd Abraham gaws colfran a llaeth a'r cig wedi'i rostio a'u gosod o'u blaenau. A safodd wrth eu hymyl dan y goeden tra oedden nhw'n bwyta.

9 “Ble mae dy wraig, Sara?” medden nhw wrth Abraham. “Fan yna, yn y babell,” atebodd yntau. 10 A dyma un ohonyn nhw'n dweud, “Dw i'n mynd i ddod yn ôl yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.” Roedd Sara y tu ôl i ddrws y babell, yn gwrando ar hyn i gyd. 11 (Roedd Abraham a Sara mewn oed, ac roedd Sara yn rhy hen i gael plant.) 12 Pan glywodd hi beth ddywedwyd, roedd hi'n chwerthin ynddi ei hun, ac yn meddwl, “Ydw i'n mynd i gael pleser felly? Dw i wedi hen ddarfod ac mae Abraham yn hen ddyn hefyd.” 13 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Pam wnaeth Sara chwerthin, a dweud ‘Ydw i'n mynd i gael plentyn a minnau mor hen?’ 14 Dw i, yr ARGLWYDD, yn gallu gwneud unrhyw beth. Bydda i'n dod yn ôl fel y dwedais i, yr adeg yma'r flwyddyn nesa, a bydd Sara'n cael mab.” 15 Roedd Sara wedi dychryn, a dyma hi'n ceisio gwadu'r peth, “Wnes i ddim chwerthin,” meddai hi. “Dydy hynny ddim yn wir,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddet ti yn chwerthin.”

Abraham yn pledio ar ran Sodom

16 Pan gododd y dynion i fynd, roedden nhw'n edrych allan i gyfeiriad Sodom. Roedd Abraham wedi cerdded gyda nhw beth o'r ffordd. 17 A dyma'r ARGLWYDD yn meddwl, “Ddylwn i guddio beth dw i'n mynd i'w wneud oddi wrth Abraham? 18 Mae cenedl fawr gref yn mynd i ddod o Abraham, a bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio drwyddo. 19 Na, dw i'n mynd i ddweud wrtho. Dw i eisiau iddo ddysgu ei blant a phawb sydd gydag e i fyw fel mae'r ARGLWYDD am iddyn nhw fyw, a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn dod â'r addewid wnaeth e i Abraham yn wir.”

20 Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Abraham, “Mae pobl yn cwyno yn ofnadwy yn erbyn Sodom a Gomorra, eu bod nhw'n gwneud pethau drwg iawn! 21 Dw i am fynd i lawr i weld a ydy'r cwbl sy'n cael ei ddweud yn wir ai peidio. Bydda i'n gwybod wedyn.”

22 Aeth y dynion yn eu blaenau i gyfeiriad Sodom, tra oedd Abraham yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD. 23 Yna dyma Abraham yn mynd yn nes ato a gofyn, “Fyddet ti ddim yn cael gwared â'r bobl dda gyda'r bobl ddrwg, fyddet ti? 24 Beth petai pum deg o bobl yno sy'n byw yn iawn? Fyddet ti'n dinistrio'r lle yn llwyr a gwrthod ei arbed er mwyn y pum deg yna? 25 Alla i ddim credu y byddet ti'n gwneud y fath beth – lladd pobl dduwiol hefo pobl ddrwg, a thrin y drwg a'r da yr un fath! Fyddet ti byth yn gwneud hynny! Onid ydy Barnwr y byd yn gwneud beth sy'n iawn?” 26 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Os bydda i'n dod o hyd i bum deg o bobl dduwiol yn y ddinas, bydda i'n arbed y ddinas er eu mwyn nhw.”

27 Yna gofynnodd Abraham, “Gan fy mod i wedi mentro agor fy ngheg, meistr – a dw i'n gwybod nad ydw i'n neb Ref – 28 beth petai yna bump yn llai na hanner cant? Fyddet ti'n dinistrio'r ddinas am fod pump yn eisiau?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim dinistrio'r ddinas os bydd pedwar deg pump yno.”

29 A dyma Abraham yn dweud eto, “Beth am bedwar deg?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd pedwar deg yno.”

30 Ac meddai Abraham, “Plîs paid digio hefo fi, meistr. Beth os oes tri deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei wneud os bydd tri deg yno.”

31 “Dw i'n mynd i fentro agor fy ngheg eto,” meddai Abraham, “Beth os oes dau ddeg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd dau ddeg yno.”

32 A dyma Abraham yn dweud eto, “Meistr, plîs paid â digio os gwna i siarad un waith eto, am y tro ola. Beth os oes deg yno?” A dyma fe'n ateb, “Wna i ddim ei dinistrio os bydd deg yno.”

33 Ar ôl iddo orffen siarad ag Abraham dyma'r ARGLWYDD yn mynd i ffwrdd. Yna aeth Abraham adre.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity