Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 21

Geni Isaac

1 Gwnaeth yr ARGLWYDD yn union fel roedd wedi'i addo i Sara. 2 Dyma hi'n beichiogi, ac yn cael mab i Abraham pan oedd e'n hen ddyn, ar yr union adeg roedd Duw wedi'i ddweud. 3 Galwodd Abraham y mab gafodd Sara yn Isaac. 4 Pan oedd yn fabi wythnos oed dyma Abraham yn enwaedu ei fab Isaac, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho. 5 (Roedd Abraham yn gan mlwydd oed pan gafodd Isaac ei eni.) 6 A dyma Sara'n dweud, “Mae Duw wedi gwneud i mi chwerthin yn llawen, a bydd pawb sy'n clywed am y peth yn chwerthin gyda mi.” 7 Ac meddai wedyn, “Fyddai neb erioed wedi dweud wrth Abraham, ‘Bydd Sara yn magu plant’! Ond dyma fi, wedi rhoi mab iddo, ac yntau'n hen ddyn!”

Gyrru Hagar ac Ishmael i ffwrdd

8 Roedd y plentyn bach yn tyfu. Pan stopiodd gael ei fwydo ar y fron, dyma Abraham yn trefnu parti i ddathlu.

9 Gwelodd Sara y mab gafodd Hagar yr Eifftes i Abraham yn gwneud hwyl am ben ei mab hi, Isaac Ref 10 A dyma hi'n dweud wrth Abraham, “Dw i eisiau i ti gael gwared â'r gaethferch yna a'i mab. Fydd mab y gaethferch yna ddim yn cael rhan o etifeddiaeth fy mab i Isaac!”

11 Doedd Abraham ddim yn hapus o gwbl am y peth, achos roedd Ishmael hefyd yn fab iddo. 12 Ond dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Paid teimlo'n ddrwg am y bachgen a'i fam. Gwna bopeth mae Sara'n ei ddweud wrthyt. Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw. 13 Ond bydda i'n gwneud mab y gaethferch yn genedl hefyd, am mai dy blentyn di ydy e.”

14 Dyma Abraham yn codi'n gynnar. Rhoddodd fwyd a photel groen o ddŵr i Hagar i'w gario ar ei chefn. Yna anfonodd hi i ffwrdd gyda'i mab. Aeth i grwydro o gwmpas anialwch Beersheba.

15 Pan oedd dim dŵr ar ôl yn y botel, dyma hi'n gadael y bachgen dan gysgod un o'r llwyni. 16 Wedyn aeth i eistedd ar ei phen ei hun reit bell oddi wrtho (tua ergyd bwa i ffwrdd). “Alla i ddim edrych ar y bachgen yn marw,” meddyliodd. Eisteddodd i lawr gyferbyn ag e, a dechrau crio'n uchel.

17 Ond clywodd Duw lais y bachgen. A dyma angel Duw yn galw ar Hagar o'r nefoedd, a gofyn iddi, “Beth sy'n bod, Hagar? Paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed llais y bachgen. 18 Tyrd, cod y bachgen ar ei draed a'i ddal yn dynn. Bydda i'n gwneud cenedl fawr ohono.” 19 Yna gwnaeth Duw iddi sylwi fod yna ffynnon yno. Dyma hi'n mynd i lenwi'r botel groen hefo dŵr, a rhoi peth i'r bachgen i'w yfed.

20 Roedd Duw yn gofalu am y bachgen wrth iddo dyfu. Roedd yn byw yn yr anialwch a daeth yn fwasaethwr gwych. 21 Roedd yn byw yn anialwch Paran. A dyma'i fam yn trefnu iddo briodi gwraig o wlad yr Aifft.

Y Cytundeb rhwng Abraham ac Abimelech

22 Tua'r adeg honno, dyma Abimelech, a dyn o'r enw Pichol, pennaeth ei fyddin, yn cyfarfod ag Abraham. “Mae'n gwbl amlwg fod Duw gyda ti bob amser,” meddai Abimelech. 23 “Dw i am i ti addo i mi o flaen Duw na fyddi di'n troi yn fy erbyn i a'm plant a'm pobl. Dw i wedi bod yn garedig atat ti, felly bydd di'n garedig ata i a phobl y wlad yma lle rwyt ti wedi setlo i fyw.”

24 “Dw i'n addo,” meddai Abraham. 25 Ond yna dyma fe'n cwyno am y ffynnon roedd gweision Abimelech wedi'i dwyn oddi arno. 26 “Dw i ddim yn gwybod pwy sydd wedi gwneud hyn,” meddai Abimelech. “Beth bynnag, wnest ti ddim dweud wrtho i. Dyma'r cyntaf i mi glywed am y peth.” 27 Wedyn dyma Abraham yn rhoi defaid ac ychen i Abimelech a dyma'r ddau yn gwneud cytundeb. 28 Ond roedd Abraham wedi rhoi saith oen banw ar un ochr. 29 A gofynnodd Abimelech iddo, “Beth ydy'r saith oen banw yma rwyt ti wedi'u gosod ar wahân?” 30 “Dw i eisiau i ti gymryd y saith oen banw yma gen i fel tystiolaeth mai fi sydd wedi cloddio'r ffynnon yma,” meddai Abraham. 31 Dyna pam y galwodd y lle yn Beersheba, Ref am fod y ddau ohonyn nhw wedi mynd ar eu llw yno. ’

32 Ar ôl gwneud y cytundeb yn Beersheba, dyma Abimelech, a Pichol (pennaeth ei fyddin), yn mynd yn ôl adre i wlad y Philistiaid. 33 Plannodd Abraham goeden tamarisg Ref yn Beersheba. Addolodd yr ARGLWYDD yno, sef y Duw sy'n byw am byth. Ref 34 Buodd Abraham yn crwydro yng ngwlad y Philistiaid am amser hir.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity