Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 22

Duw yn profi ffydd Abraham

1 Beth amser wedyn dyma Duw yn rhoi Abraham ar brawf. “Abraham!” meddai Duw. “Ie, dyma fi,” atebodd Abraham. 2 Ac meddai Duw wrtho, “Plîs, cymer dy fab Isaac – yr unig fab sydd gen ti, yr un rwyt ti'n ei garu – a dos i ardal Moreia. Yno dw i am i ti ei ladd a llosgi ei gorff yn offrwm ar un o'r mynyddoedd. Bydda i'n dangos i ti pa un.”

3 Dyma Abraham yn codi'n fore, torri coed ar gyfer llosgi'r offrwm, a'u rhoi ar gefn ei asyn. Aeth â dau o'i weision ifanc gydag e, a hefyd ei fab, Isaac. A dechreuodd ar y daith i ble roedd Duw wedi dweud wrtho. 4 Ar ôl teithio am ddeuddydd, roedd Abraham yn gweld pen y daith yn y pellter. 5 Dwedodd wrth ei weision, “Arhoswch chi yma gyda'r asyn tra bydda i a'r bachgen yn mynd draw acw. Dŷn ni'n mynd i addoli Duw, ac wedyn down ni'n ôl atoch chi.” 6 Dyma Abraham yn rhoi'r coed ar gefn ei fab, Isaac. Wedyn cymerodd y tân a'r gyllell, ac aeth y ddau yn eu blaenau gyda'i gilydd.

7 “Dad,” meddai Isaac wrth Abraham. “Ie, machgen i?” meddai Abraham. “Dad, mae gen ti dân a choed ar gyfer llosgi'r offrwm, ond ble mae'r oen sydd i gael ei aberthu?” 8 “Bydd Duw ei hun yn gwneud yn siŵr fod oen gynnon ni i'w aberthu, machgen i,” meddai Abraham. Felly dyma'r ddau yn mynd yn eu blaenau gyda'i gilydd.

9 Ar ôl cyrraedd y lle roedd Duw wedi sôn amdano, dyma Abraham yn adeiladu allor yno, ac yn gosod y coed ar yr allor. Wedyn dyma fe'n rhwymo ei fab Isaac ac yn ei roi i orwedd ar ben y coed ar yr allor. 10 Gafaelodd Abraham yn y gyllell, ac roedd ar fin lladd ei fab. 11 Ond dyma angel yr ARGLWYDD yn galw arno o'r nefoedd, “Abraham! Abraham!” “Ie? Dyma fi,” meddai Abraham. 12 “Paid cyffwrdd y bachgen, na gwneud dim byd iddo. Dw i'n gwybod bellach dy fod ti'n ddyn sy'n parchu Duw. Roeddet ti hyd yn oed yn fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti.” 13 Gwelodd Abraham hwrdd y tu ôl iddo. Roedd cyrn yr hwrdd wedi mynd yn sownd mewn drysni. Felly dyma Abraham yn cymryd yr hwrdd a'i losgi yn offrwm i Dduw yn lle ei fab. 14 Galwodd Abraham y lle yn “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”. Ref Mae pobl yn dal i ddweud heddiw, “Mae'r ARGLWYDD yn darparu beth sydd ei angen ar ei fynydd.” Ref ’

15 Dyma angel yr ARGLWYDD yn galw ar Abraham eto. 16 “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n addo hyn ar fy llw: Am dy fod ti wedi gwneud beth wnest ti (roeddet ti'n fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti), 17 dw i'n mynd i dy fendithio di go iawn a rhoi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr. Byddan nhw fel y tywod ar lan y môr. Byddan nhw'n concro dinasoedd eu gelynion. 18 Drwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio, am dy fod ti wedi gwneud beth ddwedais i.’”

19 Felly, aeth Abraham yn ôl at ei weision, a dyma nhw'n teithio gyda'i gilydd i Beersheba, lle gwnaeth Abraham setlo.

Disgynyddion Nachor

20 Beth amser wedyn dwedodd rhywun wrth Abraham fod Milca, gwraig ei frawd Nachor, wedi cael plant hefyd. 21 Us oedd y mab hynaf, wedyn ei frawd Bws, wedyn Cemwel tad Aram, 22 ac wedyn Cesed, Chaso, Pildash, Idlaff a Bethwel. 23 (Bethwel oedd tad Rebeca.) Roedd yr wyth yma yn blant i Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham. 24 Ond roedd gan Nachor bartner Ref arall o'r enw Rŵma, a chafodd hi blant hefyd, sef Tefach, Gachâm, Tachash a Maacha.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity