Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 25

Disgynyddion eraill Abraham

(1 Cronicl 1:32-33)

1 Roedd Abraham wedi cymryd gwraig arall o'r enw Cetwra. 2 Hi oedd mam Simran, Iocsan, Medan, Midian, Ishbac a Shwach. 3 Iocsan oedd tad Sheba a Dedan. A disgynyddion Dedan oedd yr Ashwriaid, y Letwshiaid a'r Lewmiaid. 4 Wedyn meibion Midian oedd Effa, Effer, Chanoch, Abida ac Eldaä. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Cetwra.

5 Gadawodd Abraham bopeth oedd ganddo i'w fab Isaac. 6 Roedd wedi anfon meibion ei bartneriaid Ref eraill i ffwrdd i'r dwyrain, yn bell oddi wrth ei fab Isaac, ac wedi rhoi anrhegion iddyn nhw bryd hynny.

Abraham yn marw

7 Buodd Abraham fyw i fod yn 175 oed. 8 Roedd yn hen ddyn pan fuodd farw, wedi byw bywyd llawn. 9-10 Cafodd ei gladdu gan ei feibion Isaac ac Ishmael yn ogof Machpela (ar y darn tir oedd i'r dwyrain o Mamre – sef y tir roedd Abraham wedi'i brynu gan Effron, un o ddisgynyddion Heth). Cafodd Abraham ei gladdu yno gyda'i wraig Sara.

11 Ar ôl i Abraham farw, dyma Duw yn bendithio Isaac. Aeth i fyw wrth ymyl Beër-lachai-roi.

Disgynyddion Ishmael

(1 Cronicl 1:28-31)

12 Dyma hanes teulu Ishmael, y mab gafodd Abraham gan Hagar, morwyn Eifftaidd Sara:

13 Enwau meibion Ishmael, mewn trefn (o'r hynaf i'r ifancaf): Nebaioth oedd ei fab hynaf, wedyn Cedar, Adbe-el, Mifsam, 14 Mishma, Dwma, Massa, 15 Hadad, Tema, Ietwr, Naffish a Cedema. 16 Y rhain oedd meibion Ishmael, a chafodd y pentrefi ble roedden nhw'n byw eu henwi ar eu holau. Roedd y deuddeg ohonyn nhw yn benaethiaid ar eu llwythau.

17 Roedd Ishmael yn 137 oed pan fuodd farw a mynd at ei hynafiaid. 18 Roedd ei ddisgynyddion yn byw yn yr ardal rhwng Hafila a Shwr, sy'n ffinio â'r Aifft, i gyfeiriad Ashŵr. Roedd Ishmael yn tynnu'n groes i'w deulu ei hun.

Geni Jacob ac Esau

19 Dyma hanes teulu Isaac, mab Abraham:

Abraham oedd tad Isaac. 20 Roedd Isaac yn 40 oed pan briododd Rebeca (sef merch Bethwel yr Aramead o Padan-aram, a chwaer Laban yr Aramead). 21 Roedd Rebeca'n methu cael plant, felly dyma Isaac yn gweddïo ar yr ARGLWYDD drosti, a dyma hi'n beichiogi. 22 Roedd hi'n disgwyl gefeilliaid, ond roedden nhw'n gwthio ac yn taro ei gilydd yn ei chroth. “Pam mae hyn yn digwydd i mi?” Ref gofynnodd. Aeth i ofyn i'r ARGLWYDD. 23 A dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrthi:

“Bydd dwy wlad yn dod o'r bechgyn yn dy groth.

Dau grŵp o bobl fydd yn erbyn ei gilydd.

Bydd un yn gryfach na'r llall,

a bydd y mab hynaf yn was i'r ifancaf.”

24 Dyma'r amser yn dod i'r gefeilliaid gael eu geni. 25 Daeth y cyntaf allan o'r groth yn gochlyd i gyd ac yn flewog fel dilledyn, felly dyma nhw'n ei alw yn Esau. Ref 26 Wedyn daeth y llall, yn cydio'n dynn yn sawdl Esau, felly dyma nhw'n ei alw yn Jacob. Ref Roedd Isaac yn 60 oed pan gawson nhw eu geni. ’

27 Pan oedd y bechgyn wedi tyfu, roedd Esau yn heliwr gwych, wrth ei fodd yn mynd allan i'r wlad. Ond roedd Jacob yn fachgen tawel, yn hoffi aros gartref. 28 Esau oedd ffefryn Isaac, am ei fod yn mwynhau bwyta'r anifeiliaid roedd wedi'u hela. Ond Jacob oedd ffefryn Rebeca.

Esau'n gwerthu ei hawliau fel y mab hynaf

29 Un tro pan oedd Jacob yn coginio cawl, dyma Esau yn dod i mewn wedi blino'n lân ar ôl bod allan yn hela. 30 “Dw i bron marw eisiau bwyd,” meddai. “Ga i beth o'r cawl coch yna i'w fwyta gen ti?” (Dyna sut y daeth i gael ei alw yn Edom. Ref ) ’31 “Cei os gwnei di werthu dy hawliau fel y mab hynaf i mi,” meddai Jacob. 32 Atebodd Esau, “Fydd hawliau'r mab hynaf yn werth dim byd i mi os gwna i farw!” 33 “Rhaid i ti addo i mi ar lw,” meddai Jacob. Felly dyma Esau yn addo ar lw, ac yn gwerthu hawliau'r mab hynaf i Jacob; 34 a rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau. Ar ôl iddo fwyta ac yfed, cododd Esau ar ei draed a gadael. Roedd yn dangos ei fod yn malio dim am ei hawliau fel y mab hynaf.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity