Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 28

1 Felly galwodd Isaac am Jacob a'i fendithio. Dwedodd wrtho, “Rhaid i ti beidio priodi un o ferched Canaan. 2 Dos i dŷ Bethwel dy daid yn Padan-aram, a phriodi un o ferched Laban, brawd dy fam. 3 Boed i'r Duw sy'n rheoli popeth Ref dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti, nes byddan nhw'n grŵp mawr o bobloedd. 4 Boed i Dduw roi bendith Abraham i ti a dy ddisgynyddion, i ti gymryd drosodd y tir rwyt ti wedi bod yn byw arno fel mewnfudwr. Dyma'r tir roddodd Duw i Abraham.”

5 Felly dyma Isaac yn anfon Jacob i ffwrdd. Aeth i Padan-aram at frawd ei fam, sef Laban (mab Bethwel yr Aramead).

Esau yn priodi merch ei ewyrth Ishmael

6 Clywodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a'i anfon i Padan-aram i ffeindio gwraig. Clywodd ei fod wedi dweud wrtho am beidio priodi un o ferched Canaan, 7 a bod Jacob wedi gwrando ar ei dad a'i fam a mynd i Padan-aram. 8 Sylweddolodd Esau fod ei wragedd Canaaneaidd ddim yn plesio'i dad. 9 Felly dyma Esau yn mynd at ei ewythr Ishmael (mab Abraham) a phriodi gwraig arall, sef Machalath, merch Ishmael a chwaer Nebaioth.

Breuddwyd Jacob

10 Yn y cyfamser, roedd Jacob wedi gadael Beersheba i fynd i Haran. 11 Daeth i le arbennig a phenderfynu aros yno dros nos, am fod yr haul wedi machlud. Cymerodd gerrig oedd yno a'u gosod o gwmpas ei ben a gorwedd i lawr i gysgu. 12 Cafodd freuddwyd. Roedd yn gweld grisiau Ref yn codi'r holl ffordd o'r ddaear i'r nefoedd, ac angylion Duw yn mynd i fyny ac i lawr y grisiau, ’13 a'r ARGLWYDD yn sefyll ar dop y grisiau. “Fi ydy'r ARGLWYDD – Duw Abraham dy daid ac Isaac dy dad,” meddai. “Dw i'n mynd i roi'r wlad yma lle rwyt ti'n gorwedd i ti a dy ddisgynyddion. 14 Bydd gen ti ddisgynyddion i bob cyfeiriad – gogledd, de, gorllewin a dwyrain. Byddan nhw fel llwch ar y ddaear! A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti a dy ddisgynyddion. 15 Dw i eisiau i ti wybod y bydda i gyda ti. Bydda i'n dy amddiffyn ble bynnag ei di, ac yn dod â ti'n ôl yma. Wna i ddim dy adael di. Bydda i'n gwneud beth dw i wedi'i addo i ti.”

16 Dyma Jacob yn deffro. “Mae'n rhaid bod yr ARGLWYDD yma,” meddai, “a doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny.” 17 Roedd e wedi dychryn, “Am le rhyfeddol! Mae Duw yn byw yma! Mae fel giât i mewn i'r nefoedd!”

18 Felly dyma Jacob yn codi'n gynnar. Cymerodd y garreg oedd wedi bod wrth ei ben, a'i gosod fel colofn, a thywallt olew drosti. 19 Galwodd y lle yn Bethel Ref (Lws oedd enw'r dre o'r blaen). ’20 Wedyn dyma Jacob yn gwneud addewid: “O Dduw, os byddi di gyda mi, yn fy amddiffyn i ar fy nhaith ac yn rhoi bwyd a dillad i mi 21 nes i mi gyrraedd yn ôl adre'n saff, ti, yr ARGLWYDD, fydd fy Nuw i. 22 Bydd y garreg dw i wedi'i gosod yma yn nodi dy fod ti'n byw yma. A dw i hefyd yn addo rhoi un rhan o ddeg o bopeth yn ôl i ti.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity