Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 35

Jacob yn mynd yn ôl i Bethel

1 Dwedodd Duw wrth Jacob, “Dos i fyny i Bethel i fyw. Gwna allor yno i addoli'r Duw ddaeth atat ti pan oeddet ti'n dianc oddi wrth dy frawd Esau.” 2 Felly dyma Jacob yn dweud wrth ei deulu a phawb arall oedd gydag e, “Rhaid i chi gael gwared â'r duwiau eraill sydd gynnoch chi. Ymolchwch a gwisgwch ddillad glân. 3 Wedyn gadewch i ni fynd i Bethel. Dw i eisiau codi allor yno i'r Duw wnaeth fy ateb i pan oedd pethau'n anodd arna i. Mae e wedi bod gyda mi bob cam o'r ffordd.” 4 Felly dyma nhw'n rhoi'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw i Jacob, a'r clustdlysau hefyd. Claddodd Jacob y cwbl dan y dderwen oedd wrth Sichem, 5 ac yna dyma nhw'n cychwyn ar eu taith. Roedd Duw wedi creu panig yn y trefi o gwmpas, ac felly wnaeth neb geisio ymosod arnyn nhw.

6 Felly dyma Jacob a'r bobl oedd gydag e yn cyrraedd Lws (sef Bethel), yng ngwlad Canaan. 7 Cododd allor yno a galw'r lle yn El-bethel, Ref am mai dyna ble roedd Duw wedi ymddangos iddo pan oedd yn dianc oddi wrth ei frawd Esau. ’8 A dyma Debora (sef y forwyn oedd wedi magu Rebeca pan oedd hi'n ferch fach) yn marw yno. Cafodd ei chladdu dan y dderwen oedd islaw Bethel. Felly cafodd y lle ei alw yn Dderwen yr Wylo. Ref

9 A dyma Duw yn ymddangos i Jacob eto, a'i fendithio (ar ôl iddo ddod o Padan-aram). 10 Dwedodd Duw wrtho, “Jacob ydy dy enw di, ond fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di.” Dyna sut cafodd e'r enw Israel. 11 Yna dwedodd Duw wrtho, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Ref Dw i eisiau i ti gael lot o blant. Bydd cenedl – ie, hyd yn oed grŵp o genhedloedd – yn dod ohonot ti. Bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd. 12 Ti sydd i gael y tir rois i i Abraham ac Isaac, a bydd yn perthyn i dy ddisgynyddion ar dy ôl di.” 13 Wedyn dyma Duw yn gadael y lle ble roedd wedi siarad â Jacob. 14 Dyma Jacob yn codi colofn gysegredig ble roedd Duw wedi siarad ag e. Colofn garreg oedd hi, a thywalltodd offrwm o ddiod drosti, ac olew hefyd. 15 Galwodd Jacob y lle hwnnw ble roedd Duw wedi siarad ag e yn Bethel.

Rachel yn marw wrth gael plentyn

16 Dyma nhw'n teithio ymlaen o Bethel. Roedden nhw'n dal yn eitha pell o Effrath pan ddechreuodd Rachel gael ei babi – ac roedd yr enedigaeth yn galed. 17 Pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf, dyma'r fydwraig yn dweud wrth Rachel, “Paid bod ag ofn. Mae gen ti fab arall ar ei ffordd.” 18 A dyma Rachel yn marw. Wrth iddi dynnu ei hanadl olaf, dyma hi'n galw'r plentyn yn Ben-oni; Ref ond galwodd ei dad e yn Benjamin. Ref ’19 Buodd Rachel farw, a chafodd ei chladdu ar ochr y ffordd oedd yn mynd i Effrath (sef Bethlehem). 20 Cododd Jacob gofgolofn wrth ei bedd, ac mae yno hyd heddiw – Cofeb Bedd Rachel. 21 Teithiodd Israel (sef Jacob) yn ei flaen, a gwersylla yr ochr draw i Migdal-eder. Ref

Meibion Jacob

(1 Cronicl 2:1-2)

22 Tra oedd yn byw yno, dyma Reuben yn cysgu gyda Bilha, partner Ref ei dad. A daeth Israel i glywed am y peth.

Roedd gan Jacob un deg dau o feibion:
  • 23 Meibion Lea: Reuben (mab hynaf Jacob), Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.
  • 24 Meibion Rachel: Joseff a Benjamin.
  • 25 Meibion Bilha, morwyn Rachel: Dan a Nafftali.
  • 26 Meibion Silpa, morwyn Lea: Gad ac Asher.
Dyma'r meibion gafodd eu geni i Jacob yn Padan-aram.

Isaac yn marw

27 Felly daeth Jacob yn ôl at ei dad Isaac i Mamre, yn Ciriath-arba (sef Hebron). Dyna ble roedd Abraham ac Isaac wedi bod yn byw fel mewnfudwyr. 28 Roedd Isaac yn 180 oed 29 pan fuodd farw yn hen ddyn, a mynd at ei hynafiaid. A dyma'i feibion Esau a Jacob yn ei gladdu.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity