Yn ôl

Genesis

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GENESIS 36

Disgynyddion Esau

(1 Cronicl 1:34-37)

1 Dyma hanes teulu Esau (sef Edom):

2 Roedd Esau wedi priodi merched o Canaan: Ada (merch Elon yr Hethiad), Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon yr Hefiad), 3 a Basemath (merch Ishmael a chwaer Nebaioth).
  • 4 Cafodd Ada fab i Esau, sef Eliffas.
  • Cafodd Basemath fab, sef Reuel,
  • 5 a chafodd Oholibama dri o fechgyn, sef Iewsh, Ialam a Cora.
Dyma enwau'r meibion gafodd Esau pan oedd yng ngwlad Canaan.

6 Symudodd Esau i ffwrdd i wlad oedd yn reit bell oddi wrth ei frawd Jacob. Aeth â'i wragedd gydag e, a'i feibion a'i ferched, a phawb arall oedd gydag e, a'i anifeiliaid a'r holl eiddo roedd wedi'i gasglu pan oedd yn byw yng ngwlad Canaan. 7 Roedd gan y ddau ormod o anifeiliaid i allu byw gyda'i gilydd – doedd y tir ddim yn gallu cynnal y cwbl. 8 Felly dyma Esau (sef Edom) yn setlo ym mryniau Seir.

9 Dyma hanes teulu Esau (ohono fe y daeth pobl Edom, sy'n byw ym mryniau Seir):

10 Enwau meibion Esau: Eliffas (mab Ada, gwraig Esau), a Reuel (mab Basemath, gwraig Esau)
  • 11 Enwau meibion Eliffas: Teman, Omar, Seffo, Gatam a Cenas.
12 Y rhain oedd disgynyddion Ada gwraig Esau. (Roedd gan Eliffas, mab Esau, bartner Ref o'r enw Timna hefyd. Cafodd hi fab i Eliffas, sef Amalec.)
  • 13 Enwau meibion Reuel: Nachath, Serach, Shamma a Missa. Y rhain oedd disgynyddion Basemath gwraig Esau.

14 A dyma enwau meibion Oholibama (merch Ana ac wyres Sibeon): cafodd dri o feibion i Esau, sef Iewsh, Ialam a Cora.

15 Roedd disgynyddion Esau yn arweinwyr llwythau gwahanol:
  • Disgynyddion Eliffas (mab hynaf Esau) oedd arweinwyr llwythau Teman, Omar, Seffo, Cenas,
16 Cora, Gatam ac Amalec. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn Edom i gyd yn ddisgynyddion i Eliffas ac Ada.
  • 17 Disgynyddion Reuel (mab Esau) oedd arweinwyr llwythau Nachath, Serach, Shamma a Missa. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn Edom i gyd yn ddisgynyddion i Eliffas a Basemath.

18 Wedyn dyma ddisgynyddion Oholibama (gwraig arall Esau): arweinwyr llwythau Iewsh, Ialam a Cora. Roedd arweinwyr y llwythau yma yn ddisgynyddion i Esau ac Oholibama (merch Ana). 19 Mae'r rhain i gyd yn ddisgynyddion i Esau – dyma arweinwyr llwythau Edom.

Disgynyddion Seir

(1 Cronicl 1:38-42)

20 A dyma feibion Seir yr Horiad, oedd yn byw yn y wlad o'r blaen: Lotan, Shofal, Sibeon, Ana, 21 Dishon, Etser a Dishan. Y rhain oedd arweinwyr llwythau'r Horiaid, disgynyddion Seir sy'n byw yng ngwlad Edom.
  • 22 Meibion Lotan oedd Chori a Homam (a Timna oedd chwaer Lotan).
  • 23 Meibion Shofal oedd Alfan, Manachath, Ebal, Sheffo ac Onam.
  • 24 Meibion Sibeon oedd Aia ac Ana (sef yr Ana ddarganfyddodd y ffynhonnau yn yr anialwch pan oedd yn gofalu am asynnod ei dad Sibeon).
  • 25 Plant Ana oedd Dishon ac Oholibama (merch Ana).
  • 26 Meibion Dishon oedd Chemdan, Eshban, Ithran a Ceran.
  • 27 Meibion Etser oedd Bilhan, Saafan ac Acan.
  • 28 Meibion Dishan oedd Us ac Aran.
29 Dyma arweinwyr llwythau'r Horiaid: Lotan, Shofal, Sibeon, Ana, 30 Dishon, Etser a Dishan. Y rhain oedd arweinwyr llwythau'r Horiaid yng ngwlad Seir.

Brenhinoedd Edom

(1 Cronicl 1:43-54)

31 Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin:
  • 32 Roedd Bela fab Beor o dre Dinhaba yn frenin ar Edom.
  • 33 Ar ôl i Bela farw, daeth Iobab fab Serach o Bosra yn frenin yn ei le.
  • 34 Ar ôl i Iobab farw, daeth Chwsham o ardal Teman yn frenin yn ei le.
  • 35 Ar ôl i Chwsham farw, daeth Hadad fab Bedad o dre Afith yn frenin yn ei le. Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.
  • 36 Ar ôl i Hadad farw, daeth Samla o Masreca yn frenin yn ei le.
  • 37 Ar ôl i Samla farw, daeth Saul o Rehoboth-ger-yr-Afon yn frenin yn ei le.
  • 38 Ar ôl i Saul farw, daeth Baal-chanan fab Achbor yn frenin yn ei le.
  • 39 Wedyn ar ôl i Baal-chanan fab Achbor farw daeth Hadar o dre Paw yn frenin yn ei le. Enw gwraig Hadar oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab).

40 Dyma enwau arweinwyr llwythau Esau – pob llwyth yn byw mewn ardal arbennig o'r wlad: Timna, Alfa, Ietheth, 41 Oholibama, Ela, Pinon, 42 Cenas, Teman, Miftsar, 43 Magdiel ac Iram. Y rhain oedd arweinwyr llwythau Edom (sef Esau, tad pobl Edom) – pob un yn byw yn y rhan o'r wlad roedd wedi'i meddiannu.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity